Pa mor hir yw’r llwybr? Oes angen i mi ei gerdded i gyd ar
unwaith?
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd ac er bod ambell
unigolyn prin yn dewis cerdded y llwybr o un pen i’r llall, yr hyn
sy’n wych am y llwybr i’r mwyafrif ohonom yw bod modd cerdded dim
ond y rhannau hynny sy’n apelio atoch chi. Mae rhannau helaeth o’r
llwybr yn hawdd i’w cyrraedd o’n trefi a’n dinasoedd arfordirol
felly mae’r llwybr yn hwylus dros ben. Beth am chwilio am ran o’r
llwybr sy’n addas i’ch anghenion chi trwy edrych ar Crwydro’r
Llwybr?
Oes angen llawer o offer cerdded arna i?
Ddim bob amser. Byddem bob amser yn argymell eich bod yn cael
syniad ynglŷn â’ch cyrchfan ymlaen llaw er mwyn cael rhyw syniad
sut mae’r ddaear yn debygol o fod o dan draed. Dylech hefyd geisio
cael syniad o ragolygon y tywydd. Yn y rhannau gwledig byddem yn
argymell pâr da o esgidiau cerdded ac, os yw hi’n debygol o fwrw
glaw, dillad da sy’n dal dŵr. (Does dim angen i’r rhain fod yn
ddillad arbenigol neu ddrudfawr, cyn belled â bod yr esgidiau’n
gadarn, bod gafael da ar y gwadnau a bod y dillad sy’n dal dŵr yn
eich cadw’n sych.) Serch hynny, gallwch fwynhau rhannau helaeth o’r
llwybr sy’n mynd trwy drefi a dinasoedd arfordirol (yn dibynnu ar y
tywydd) heb unrhyw ddillad arbenigol. Ond cofiwch wisgo esgidiau
cyfforddus bob amser. Gall rhai eitemau ychwanegol wneud y profiad
yn fwy pleserus - sach deithio, binocwlars, map a dŵr.
Sut alla i ddod o hyd i lefydd i aros ar hyd y llwybr?
Am syniadau ar lefydd i aros ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, rydyn
ni’n argymell defnyddio teclyn dod o hyd i lety gwefan
Visit Wales.
Oes modd ymuno â llwybrau sy’n arwain i gefn gwlad?
Bydd y Llwybr yn ymuno â llwybrau eraill a fydd yn ei gwneud
hi’n bosib i chi gerdded i gefn gwlad Cymru. Mae cynlluniau ar y
gweill i greu mwy o lwybrau a fydd yn cysylltu cymunedau mewndirol
â’r arfordir. Bydd rhai o’r llwybrau hyn yn addas ar gyfer
beicwyr.
Alla’ i feicio ar y Llwybr?
Mae rhan helaeth o’r Llwybr ar Lwybrau Troed Cyhoeddus a
llwybrau eraill lle caiff beicio ei ystyried fel tresmasu, oni bai
bod caniatâd arbennig wedi’i roi gan y tirfeddiannwr. Pa un bynnag,
byddai’r holl giatiau mochyn a’r holl gamfeydd yn ei gwneud hi’n
anodd ichi feicio.
Ond peidiwch â digalonni, oherwydd mae rhannau o’r Llwybr, a
chysylltiadau tua’r tir, wedi’u cynllunio’n unswydd ar gyfer
beicwyr. Mae rhai awgrymiadau yn yr adran Beicio.
Oes rhannau sy’n addas i gadair olwyn/bram?
Mae rhai rhannau o Lwybr Arfordir Cymru wedi eu cynllunio’n
arbennig i fod yn brofiad pleserus heb roi gormod o her. Dyma rai
o’n hoff leoliadau ni. E-bostiwch os
hoffech argymhellion.