Rydym yn defnyddio cwcis er mwyn gwella eich profiad o ddefnyddio ein gwefan. Ni chedwir gwybodaeth bersonol o gwbl. Os gwnewch chi barhau heb newid eich gosodiadau cwcis, byddwn yn tybio eich bod yn fodlon derbyn yr holl gwcis ar y wefan. I gael mwy o wybodaeth am ein cwcis, darllenwch ein polisi preifatrwydd.

Datganiad Hygyrchedd

Media pack

Mae Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) wedi ymrwymo i sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob aelod o gymdeithas. Mae’r wefan wedi ei dylunio’n ofalus – ac mae safonau llym wedi eu rhoi ar waith – er mwyn sicrhau bod defnyddwyr sydd ag anableddau yn gallu cael mynediad i’r wybodaeth sydd ar y wefan, gan gynnwys defnyddwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod y defnyddwyr hynny sydd ag anawsterau darllen yn gallu defnyddio’r wefan.

Rydyn ni wedi dilyn canllawiau W3C (World Wide Web Consortium) i sicrhau bod, er enghraifft, cod ein gwefan yn addas ar gyfer rhaglenni darllen sgrin (technoleg sy’n galluogi i wefannau gael eu ‘darllen’ i bobl ddall a rhannol ddall).

Ein nod yw cydymffurfio â safonau hygyrchedd WAI-AA [WCAG 1.0], ac mae’r mwyafrif helaeth o’n tudalennau ni ar y we yn cyrraedd y safon hon. Byddwn hefyd yn ceisio cyrraedd safon WCAG 2.0 yn fuan.

Croesawn eich sylwadau ar ba mor hawdd yw’r wefan hon i’w defnyddio. Anfonwch eich sylwadau i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.


Mae’r safle hwn yn bodloni safonau hygyrchedd WCAG2 AA
Ebost: ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
© 2013 Cyfoeth Naturiol Cymru