Mae Llwybr Arfordir Cymru (LlAC) wedi ymrwymo
i sicrhau bod y wefan yn hygyrch i bob aelod o gymdeithas. Mae’r
wefan wedi ei dylunio’n ofalus – ac mae safonau llym wedi eu rhoi
ar waith – er mwyn sicrhau bod defnyddwyr sydd ag anableddau yn
gallu cael mynediad i’r wybodaeth sydd ar y wefan, gan gynnwys
defnyddwyr sy’n ddall neu’n rhannol ddall. Rydyn ni hefyd yn
sicrhau bod y defnyddwyr hynny sydd ag anawsterau darllen yn gallu
defnyddio’r wefan.
Rydyn ni wedi dilyn canllawiau W3C (World Wide Web Consortium) i
sicrhau bod, er enghraifft, cod ein gwefan yn addas ar gyfer
rhaglenni darllen sgrin (technoleg sy’n galluogi i wefannau gael eu
‘darllen’ i bobl ddall a rhannol ddall).
Ein nod yw cydymffurfio â safonau hygyrchedd WAI-AA [WCAG 1.0],
ac mae’r mwyafrif helaeth o’n tudalennau ni ar y we yn cyrraedd y
safon hon. Byddwn hefyd yn ceisio cyrraedd safon WCAG 2.0 yn
fuan.
Croesawn eich sylwadau ar ba mor hawdd yw’r wefan hon i’w
defnyddio. Anfonwch eich sylwadau i ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.