Mae arfordir Bae Caerfyrddin yn un amrywiol a
diddorol. Ceir yno lawer o wahanol gynefinoedd gan gynnwys corsydd
dŵr croyw, morfeydd heli, twyni tywod, coedwigoedd pîn a thiroedd
comin arfordirol – oll yn gartref i gant a mil o blanhigion a
chreaduriaid. Yn y bae mae Parc Gwledig Pen-bre – 500 erw o goetir
a pharcdir wedi’u tirlunio sy’n arwain i lawr at harbwr bychan
Porth Tywyn.
Mae ein taflen am yr ardal hon ar gael yn yr adran adnoddau ar
waelod y dudalen. Mae’r daflen yn argymell teithiau cerdded
ardderchog y gellir eu darganfod ar hyd y rhan hwn o’r llwybr yn
ogystal ag uchafbwyntiau gwych y gellid eu mwynhau ar y ffordd.
Mwy o awgrymiadau ynglŷn â cherdded
Adnoddau
-
Sir Gaerfyddin Size (6 MB)
- Arfordir amrywiol iawn yw un Bae Caerfyrddin. Mae llawer o wahanol gynefinoedd i'w gweld yno, gan gynnwys corsydd dwr croyw, morfeydd (yn cynnwys y morfa heli di-dor mwyaf yng Nghymru), twyni tywod. fforestydd o goed pinwydd a chomins arfordirol sy'n cynnal dewis gwych o fflora a ffawna.