Aberporth
0.6 milltir naill ffordd / 1 km
Darn o’r llwybr sydd wedi’i ddynodi’n bwrpasol ar gyfer pobl
mewn cadeiriau olwyn. Mae’n rhedeg ar hyd ymyl ddwyreiniol Bae
Aberporth lle mae golygfeydd ardderchog o arfordir Ceredigion o’r
clogwyni. Mae Aberporth hefyd yn lle da i weld dolffiniaid.
(Bws)
Aberystwyth i Glarach
1.7 milltir / 2.7 km
Mae’r darn byr hwn o lwybr yr arfordir yn arwain dros Graig
Glais (Constitution Hill). O ben y graig cewch olygfeydd hardd o
Fae Ceredigion ac Aberystwyth. Mae yno gaffi hefyd a’r camera
obscura mwyaf yn y byd. Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Aberystwyth i Glarach.
Aberporth i Dresaith
2 milltir / 3.2 km
Mae’r llwybr hwn dros y clogwyni yn arwain o ben dwyreiniol bae
Aberporth. Cewch fwynhau golygfeydd gwych o’r arfordir a Bae
Ceredigion. Mae rhan Aberporth o’r llwybr yma’n addas i gadeiriau
olwyn. Darganfod mwy am y daith gerdded yma:
Ceinewydd i Gwm Tydu
4 milltir / 6.4 km
Mae’r llwybr hwn yn dilyn darn o’r Arfordir Treftadaeth ac yn
ddolen gyswllt rhwng tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng
Nghraig yr Adar, Cwm Soden a Chwm Tydu. Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Ceinewydd i Gwm Tydu.
Mwnt i Aberporth
5 milltir / 7.5 km
Rhan anghysbell o Lwybr yr Arfordir sy’n rhedeg ar hyd brig
clogwyni a llethrau arfordirol, islaw tir amaethyddol. Mae’r adran
hon mor heddychlon ac anghysbell, nes eich bod yn teimlo ymhell o
ruthr bywyd bob dydd. Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Mwnt i Aberporth.
Llangrannog i Gwm Tydu
5.5 milltir / 8 km
Yn ôl rhai, dyma’r rhan fwyaf trawiadol o Lwybr Arfordir
Ceredigion. Mae’n rhan o’r Arfordir Treftadaeth ac yn cynnwys yr
enwog Ynys Lochtyn. Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Llangrannog i Gwm Tydu.