Bae Colwyn i Landudno ar hyd Trwyn y Fuwch
5.5 milltir / 9 km
Taith gerdded egnïol a phoblogaidd ar lannau’r môr sy’n cynnig
cyfleoedd gwych yn Nhrwyn y Fuwch i weld bywyd gwyllt. Ewch ymlaen
i Landudno i ddarganfod cyfareddau’r dref wyliau hardd yma o oes
Fictoria. (Trên neu Fws)
Aber Afon Dyfrdwy – Castell y Fflint i Abaty Dinas Basing
6milltir / 10 km
Taith gerdded wych ar hyd aber Afon Dyfrdwy. Mae’r daith yn
cychwyn ger Castell y Fflint, sef y castell cyntaf a adeiladwyd yng
Nghymru ar ôl i’r Brenin Edward I oresgyn y wlad yn y drydedd
ganrif ar ddeg, ac yn gorffen ger Abaty Dinas Basing, abaty o’r
deuddegfed ganrif (tua hanner milltir i mewn i’r tir o Lwybr yr
Arfordir ym Maes-glas). (Bws)
Llanfairfechan i Ddwygyfylchi
7 milltir / 11.2 km
Cyfle i gerdded ar lethrau isaf y Carneddau gan fwynhau’r
golygfeydd trawiadol o’r Wyddfa, y Gogarth a thros afon Menai i
Ynys Môn.
Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Llanfairfechan i
Ddwygyfylchi.
Tro o gwmpas y Gogarth
13.8 milltir / 14.5 km
Cewch gerdded o gwmpas y Gogarth gan fwynhau golygfeydd gwych o
arfordir gogledd Cymru i gyd. Byddwch yn pasio hen gastell Deganwy.
Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Tro o gwmpas y Gogarth.
Cylchdaith y Rhyl
14.3 milltir / 23 km
Cychwyn wrth Ganolfan Bywyd y Môr yn y Rhyl a cherdded ar hyd yr
arfordir i gyfeiriad Prestatyn, lle mae tri thraeth – Traeth y
Ffrith, Traeth Barkby a’r Traeth Canol. Troi i mewn i’r tir i
gyfeiriad Alltmelyd a thua’r rhaeadrau ger Dyserth. Dychwelyd i’r
arfordir a’r Rhyl ar lan afon Clwyd. Darganfod
mwy am y daith gerdded yma: Cylchdaith y Rhyl.