Mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a’r
ynysoedd sy’n llawn bywyd gwyllt yn denu llawer o bobl i Sir
Benfro. Mae Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n rhan o’r Llwybr
Cenedlaethol, yn eich arwain drwy rai o olygfeydd mwyaf godidog
Prydain, gan gynnwys 58 o draethau, 14 harbwr a dinas leiaf y
Deyrnas Unedig, Tyddewi.
Mae ein taflen am yr ardal hon ar gael yn yr adran adnoddau ar
waelod y dudalen. Mae’r daflen yn argymell teithiau cerdded
ardderchog y gellir eu darganfod ar hyd y rhan hwn o’r llwybr yn
ogystal ag uchafbwyntiau gwych y gellid eu mwynhau ar y ffordd.
Mwy o awgrymiadau ynglŷn â cherdded
Adnoddau
-
Sir Benfro Size (6 MB)
- Sir Benfro yw cartref tirwedd o safon fyd-eang Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Bydd y llwybr yma, sydd wedi cael ei ddynodi'n Llwybr Cenedlaethol, yn mynd a chi drwy rai o olygfeydd mwyaf godidog a thrawiadol Prydain, gan gynnwys traethau hardd a harbwrs prydferth. Byddwch hefyd yn mynd i ddinas leiaf y Deyrnas Unedig, sef Tyddewi. yn ogystal a'r golygfeydd trawiadol, mae Sir Benfro'n cynnig cyfleoedd adderchog i weld bywyd gwyllt - ar y tir ac yn y mor.