Martin’s Haven i Dale
10 milltir / 16 km
Tro eithaf hawdd ar dir gwastad, gydag ambell i riw fer. Mae ’na
olygfeydd gwrthgyferbyniol ar y tro hwn – mae’n dechrau gyda
phentir garw a golygfeydd gwych o’r môr ac yn dod i ben ar dir
cysgodol, coediog ger dyfrffordd Aberdaugleddau.
Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Martin’s Haven i
Dale.
De Aberllydan i Skrinkle Haven
11 milltir / 17.7 km
Mae’r llwybr trawiadol yma’n dangos yn glir pam mae llwybr yr
arfordir yn haeddu statws Parc Cenedlaethol. Yma mae traeth
Barafundle, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ac a
ddewiswyd yn un o’r deg traeth gorau yn y byd) a’r Pyllau Lilïau yn
Bosherston. (Bws). Darganfod mwy am y daith gerdded yma: De
Aberllydan i Skrinkle Haven.
Trefdraeth i Abergwaun
12 milltir / 19.3 km
Mae rhai o’r bryniau ar y llwybr hwn yn serth ond mae llawer
ohono’n eich tywys ar hyd pen y clogwyni lle ceir golygfeydd gwych
tua’r môr.
Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Trefdraeth i
Abergwaun.
Porth Mawr i Solfach
13 milltir / 20.9 km
O dywod euraid y Porth Mawr mae’r llwybr yn mynd heibio Tyddewi
- dinas leiaf Prydain - ac yn dod i ben ym mhentref pert Solfach.
Mae llamhidyddion i’w gweld yn y dŵr rhwng y tir mawr ac Ynys Dewi
felly mae’n werth cael seibiant ar y ffordd.
Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Porth Mawr i Solfach.
Skrinkle i Amroth
14 milltir / 22.5 km
Mae hwn yn ddarn prysur o’r llwybr gan fod cynifer o draethau
ardderchog a chyfleusterau i ymwelwyr yn ardal Dinbych-y-pysgod.
Ceir golygfeydd hardd o Ynys Bŷr ac ar ddiwrnod clir gallwch weld
cyn belled ag Exmoor.
Darganfod mwy am y daith gerdded yma: Skrinkle i Amroth.