Gallwch lywio drwy’r wefan yn y ffyrdd a
ganlyn:
Y dudalen gartref. Mae modd ichi
ddod o hyd i brif adrannau’r wefan trwy gyfrwng y dudalen gartref.
Yma ceir detholiad o uchafbwyntiau a theithiau cerdded gwych, yn
ogystal â chysylltau’n arwain at ein rhanbarthau a’n mapiau.
Dewislen ar gyfer llywio trwy
benodau. Mae’r ddewislen hon ar frig pob tudalen a gallwch
ei defnyddio i fynd at brif adrannau’r wefan, er enghraifft
‘Archwilio’n ôl ardal’ neu ‘Beth alla’ i ei wneud?’. Ar ôl cyrraedd
adran arbennig, bydd y panel ar y chwith yn dangos yr is-bynciau
gwahanol.
Llwybr llywio. Mae’r llwybr hwn yn
dangos lleoliad y dudalen yn strwythur y wefan. Gallwch glicio ar y
cysylltau i ddychwelyd at brif dudalen y bennod a’r dudalen gartref
– mewn gwirionedd, mynd drwy’r holl gamau o’r cychwyn cyntaf.
Er enghraifft, os yw’r llwybr llywio’n cynnwys y canlynol:
Llwybr Arfordir Cymru hafan / Beth alla’ i ei wneud? /
Gweithgareddau / Cerdded
Gallwch fynd yn ôl i’r dudalen gartref, i’r adran ‘Cerdded’, neu
hyd yn oed i’r adran ‘Beth alla’ i ei wneud?’ yn syth.
Cynnwys. Nod y safle yw tynnu eich
sylw at rai o’r pethau gwych y gallwch eu gweld a’u gwneud ar hyd
arfordir Cymru. Os ydych o’r farn fod ambell adran yn brin o
wybodaeth, cofiwch roi gwybod inni.
Rydym yn gwneud ein gorau i gyflwyno gwybodaeth ddiddorol a
chynhwysfawr. Os gwelwch chi gamgymeriad ar unrhyw un o’n
tudalennau, mae croeso ichi gysylltu â ni ar ymholiadau@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk.
Mae rhai o’r cysylltau’n arwain at wefannau allanol. Nid ydym yn
gyfrifol am gynnwys y tudalennau hyn.