Bu crefftwyr balch a medrus yn chwarae rhan
amlwg ym mywyd Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae rhai crefftau
traddodiadol yn dal i ffynnu heddiw dan law pobl sy’n cael eu
hysbrydoli gan harddwch a hanes y wlad a’r defnyddiau crai naturiol
sydd ar gael iddynt. Mae’r amrywiaeth yn ddibendraw gyda rhywbeth
at ddant pawb ond dyma 10 awgrym i’ch rhoi ar ben y ffordd.
Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yng
Nghonwy yn cynnal naw arddangosfa dros dro y flwyddyn. Mae ganddynt
raglen addysg fywiog a cheir cyfle i weld gwaith yr artistiaid
gorau ym maes celfyddyd gain yng Nghymru.
Ynys Môn
Yng nghanolfan gelfyddydau a threftadaeth Oriel Ynys
Môn ger Llangefni, cewch weld gwaith yr artistiaid Kyffin
Williams a Charles F. Tunnicliffe. Mae yno oriel sy’n cyflwyno
hanes yr ynys hefyd.
Menai, Llŷn a Meirionnydd
Ym mis Medi, cewch ddilyn yr Helfa Gelf sy’n eich arwain i
stiwdios dros gant o artistiaid, o arlunwyr i grochenwyr, lle cewch
sgwrsio â nhw am eu gwaith a’r hyn sy’n eu hysbrydoli.
Ceredigion
Yn yr hen ddyddiau, Dyffryn Teifi yn ne Ceredigion oedd
canolbwynt diwydiant gwlân llewyrchus Cymru. Cewch gyfle i weld o
gwmpas melin wlân Curlew Weavers yn
Rhydlewis. Mae yno siop grefftau fawr a maes picnic – gellir
trefnu i weld y gweithwyr wrth eu gwaith.
Sir Benfro
Cyfle i weld un o drysorau Cymru – tapestri
30 metr o hyd sy’n hongian yn Llyfrgell Abergwaun. Cafodd ei greu i
nodi daucanmlwyddiant y tro diwethaf i fyddin Ffrainc ymosod ar dir
mawr Prydain, ym mis Chwefror 1797. Neu cewch grwydro Oriel y
Parc, lle ceir dehongliadau artistiaid o statws byd-eang o’r
dirwedd. Daw’r darnau o gasgliadau helaeth Amgueddfa Cymru ac
mae mynediad am ddim.
Sir Gaerfyrddin
Yn y Boathouse yn Nhalacharn y bu Dylan Thomas yn byw am
bedair blynedd olaf ei fywyd. Yma yr ysgrifennodd Under Milk Wood a
gweithiau eraill. Erbyn hyn mae’n ganolfan dreftadaeth.
Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Cyfle i ddathlu hen draddodiad Cymreig. Mae’r Lovespoon
Gallery yn y Mwmbwls yn mynd â ni ar daith gariadus, gyda
channoedd o gynlluniau traddodiadol.
Traethau Penrhyn Gŵyr a ysbrydolodd The Ultimate Drifter, sef
busnes crefftau sy’n creu pethau unigryw o froc môr –
ceir yma ddrychau, lampau a chant a mil o bethau hardd a defnyddiol
eraill.
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Ynghanol Bae Caerdydd mae oriel Crefft yn y Bae sy’n
arbenigo mewn crefftau a wnaed yng Nghymru. Urdd Gwneuthurwyr Cymru
sy’n ei rhedeg. Mae dros 70 o wneuthurwyr yn aelodau o’r oriel ac
mae un ohonynt yn gweithio yno bob dydd.
Pan gododd un o drigolion cyfoethog Penarth, ger Caerdydd, oriel
newydd yn 1888, roedd yn awyddus iddi agor ar ddydd Sul er mwyn
denu cynifer o bobl ag oedd modd. Felly, dechreuwyd galw Oriel Tŷ
Turner yn ‘Oriel Dydd
Sul’. Erbyn heddiw, mae’n cynnig rhaglen amrywiol o gelfyddyd
teithio a chelfyddyd leol.