O wyliau lleol a ffilmiau i theatr ac opera,
mae digon o ddiwylliant o fewn cyrraedd i Lwybr yr Arfordir yn y
dinasoedd ac mewn ardaloedd gwledig.
Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy
Yn ddiweddar, adnewyddwyd Theatr Colwyn sy’n 126 oed
- y sinema weithredol hynaf yn y DU, y theatr ddinesig hynaf yng
Nghymru a’r theatr weithredol hynaf yng Nghymru. Mae ei rhaglen o
sioeau a ffilmiau i’w gweld yma:
Ynys Môn
Ewch am dro i Ynys Llanddwyn ym mhen draw’r traeth ger Cwningar
Niwbwrch ac fe welwch adfeilion eglwys Santes Dwynwen, nawddsant
cariadon
Cymru .
Menai, Llŷn a Meirionnydd
Os hoffech flas ar lenyddiaeth Gymraeg, piciwch i Gae’r Gors, lle magwyd
Kate Roberts, ‘Brenhines Ein Llên’, yn Rhosgadfan ger Caernarfon.
Ceir yno arddangosfa amlgyfrwng sy’n cyflwyno’n fyw iawn fyd awdur
a aned yn 1891 ac a ddaeth yn un o brif awduron Cymru. www.caergors.org/downloads/flyer_saesneg.pdf
Yn yr haf, cewch ymlacio a mwynhau penwythnos o gerddoriaeth yn
Wakestock yn Llŷn. Gŵyl donfyrddio yw hon ac
mae sgiliau rhai o’r tonfyrddwyr yn ddigon i gymryd eich gwynt.
Ceredigion
Ymunwch â’r 750,000 o bobl y flwyddyn sy’n ymweld â Chanolfan y Celfyddydau
yn Aberystwyth. Mae canolfan gelfyddydau fwyaf Cymru’n cynnig
rhaglen amrywiol o ddrama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau
gweledol, celfyddydau cymwysedig, ffilm, y cyfryngau newydd a
chelfyddydau cymunedol. Neu gallech bicio i Theatr Mwldan, Aberteifi.
Sir Benfro
Cynhelir Gŵyl Gelfyddydau fywiog yn
nhref glan môr hardd Dinbych-y-pysgod ym mis Medi gyda
cherddoriaeth glasurol, llenyddiaeth – ffeithiol a ffuglen,
barddoniaeth a jazz.
Sir Gaerfyrddin
Mae canmol mawr i’r ŵyl gelfyddydau a gynhelir yn Nhalacharn bob mis Ebrill.
Mae’r cynulleidfaoedd yn gwasgu i glybiau bach, eglwysi a neuaddau
i glywed perfformwyr sydd wedi cynnwys Patti Smith, Ray Davies o’r
Kinks a Mick Jones o The Clash.
Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Yng Nghanolfan Dylan Thomas
ar lan y dŵr yn Abertawe, ceir arddangosfa barhaol am y bardd (link to ) ei
hunan. Cynhelir digwyddiadau llenyddol drwy’r flwyddyn, gan gynnwys
Gŵyl Dylan Thomas yn ystod misoedd Hydref a Thachwedd.
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Adeiladwyd Pafiliwn y Grand ar lan y môr
ym Mhorthcawl yn 1932. Mae ganddo lawr dawnsio pwrpasol a llwyfan
ac mae’n lle poblogaidd i gynnal sioeau comedi, dramâu, pantomeims
a sioeau cerdd. Agorwyd Canolfan Mileniwm Cymru ym Mae
Caerdydd yn 2004 ac mae eisoes wedi ennill ei phlwyf fel un o
ganolfannau celfyddydau a diwylliant gorau’r byd. Gweledigaeth y
Ganolfan yw cael enw da yng Nghymru a'r tu hwnt fel cartref i'r
celfyddydau perfformio, gan gynnig ysbrydoliaeth, rhagoriaeth ac
arweiniad. Mae Canolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd yn lle
trawiadol hefyd, ar dir castell canoloesol, yn edrych draw dros y
môr.