Mae arwyddion o orffennol tymhestlog Cymru ac
olion ei hanes diwydiannol diweddar i’w gweld drwy’r wlad benbaladr
ac mae Llwybr yr Arfordir yn eich arwain at rai o’r adeiladau a’r
mannau difyrraf sy’n help i adrodd y stori.
Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy
Os mai cestyll sy’n mynd â’ch bryd, ceir clamp o gastell â 22 o
dyrau, yn nhref gaerog Conwy. Codwyd
y castell gan Edward I, Brenin Lloegr, rhwng 1283 a 1289. Mae’n
Safle Treftadaeth y Byd ac “yn ddi-os, dyma gaer fwyaf mawreddog
Edward I yng Nghymru”. Cewch ymweld â’r cyntaf o’i gestyll yng
Nghymru yn y Fflint. Neu efallai yr hoffech fynd i un o eglwysi
lleiaf Prydain yn Llandrillo-yn-Rhos, ger Bae Colwyn. Lle i ryw
chwech o addolwyr sydd yng Nghapel Trillo Sant, a godwyd yn y 6ed
ganrif. Adeiladwyd yr allor dros ffynnon gysegredig,
gyn-Gristnogol.
Ynys Môn
Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd drwy dref hanesyddol
Biwmares lle ceir llys, carchar a chastell (Safle Treftadaeth y
Byd). Dywedir mai castell Biwmares yw’r perffeithiaf ym Mhrydain o
safbwynt technegol. Roedd hwn hefyd yn rhan o raglen adeiladu
enfawr Edward I yng Ngogledd Cymru ac mae’n hollol gymesur.
Os ewch i Oleudy
Ynys Lawd, mae’n werth dilyn y daith arbennig i gael gwybod mwy
am hanes diddorol y goleudy sy’n gymaint o ran o dreftadaeth forol
Cymru.
Menai, Llŷn a Meirionnydd
Mae Cymru’n lle da am Safleoedd Treftadaeth y Byd – mae dai
ohonynt – cestyll mawreddog
Caernarfon a
Harlech – ar y rhan hon o’r Llwybr. Neu cewch fwynhau taith ar
y trên o Borthmadog i Flaenau Ffestiniog lle cewch
ddysgu mwy am y diwydiant llechi. Mae’r daith yn mynd drwy wlad
hardd ac fe ryfeddwch at gampwaith peirianyddol y rhai a greodd y
rheilffordd arbennig hon.
Ceredigion
Mae Llyfrgell
Genedlaethol Cymru mewn lle eithriadol o braf yn edrych i lawr
dros dref Aberystwyth. Yma, ceir stôr o wybodaeth am Gymru a’r byd
– miliynau o lyfrau, llawysgrifau, archifau, mapiau, lluniau,
ffotograffau, ffilmiau a darnau o gerddoriaeth, a gwybodaeth
electronig. Ac mae’r cyfan am ddim. Neu beth am ymweld â stad
Llanerchaeron
a’i phlasty bach hardd o’r 18fed ganrif a’i gardd furiog arbennig.
Mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol erbyn hyn.
Sir Benfro
Fe gewch weld olion diddorol a thystiolaeth o wahanol
systemau amddiffyn wrth grwydro llwybr yr arfordir. Ceir yma
fryngaerau o’r Oes Haearn, a chaerau o oes Napoleon ac Elisabeth I,
ynghyd ag olion o’r ddau Ryfel Byd. Yng
Nghastell Henllys ail-grewyd pentref o’r Oes Haearn - cewch
gipolwg ar fywyd ymhell bell yn ôl a chyfle i ryddhau’r rhyfelwr
fu’n cuddio y tu mewn i chi!
Sir Gaerfyrddin
Ar Draeth Pentywyn y
ceisiodd y Cymro, John Parry-Thomas dorri record cyflymder ar dir
ym mis Mawrth 1927. (Cafodd ei record wreiddiol o 170mya ei churo
gan Syr Malcolm Campbell yn ei gar Blue Bird.) Ar gyflymder o tua
170mya, torrodd y gadwyn yrru ar gar John Parry-Thomas a chafodd
anafiadau marwol. Mae ei gar, Babs, i’w weld yn yr
Amgueddfa Cyflymder ym mhentref Pentywyn.
Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Yn Abertawe, mae Amgueddfa
Genedlaethol y Glannau, sydd mewn hen warws rhestredig wedi’i
gysylltu ag adeilad newydd modern, llechi a gwydr, yn adrodd hanes
diwydiant ac arloesi yng Nghymru, yn awr a dros y 300 mlynedd
diwethaf. Mae
Goleudy Whiteford Point ar Benrhyn Gŵyr, a godwyd yn 1865, yn
un o ddim ond dau oleudy haearn bwrw sydd â’i draed yn y dŵr yn yr
holl fyd a’r unig un ym Mhrydain.
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Roedd Pont Gludo Casnewydd, a godwyd yn 1906, yn un o ddim ond
20 o rai tebyg a godwyd yn y byd rhwng 1893 a 1916. Mae’n dal i
weithio heddiw.
Mae
Tŷ Tredegar, Casnewydd ar barcdir hardd 90 erw. Mae rhan o’r tŷ
presennol yn dyddio nôl i ddechrau’r 1500au ac mae’n un o’r
enghreifftiau gorau ym Mhrydain o blasty yn arddull Siarl II o’r
17eg ganrif. Ceir teithiau tywys o gwmpas y tŷ ac fe gynhelir
digwyddiadau arbennig yma’n rheolaidd.