Mae arfordir Cymru’n lle gwych ar gyfer
teuluoedd. Cewch ddewis helaeth o weithgareddau, atyniadau,
cestyll, llwybrau natur a gwarchodfeydd bywyd gwyllt, parciau
gwledig a meysydd picnic, ffeiriau a chanolfannau antur, a
theithiau cwch i weld dolffiniaid a morloi ger Llwybr Arfordir
Cymru.
Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy
Mae gan drefi glan môr arfordir y
gogledd lu o weithgareddau i’w cynnig i deuluoedd: sioeau Punch
& Judy traddodiadol yn Llandudno; tramffordd a
cheir cebl ar y Gogarth; y Sw Fynydd Gymreig ym
Mae Colwyn; Theatr Bypedau Harlequin yn Llandrillo-yn-Rhos; a
Chastell
Conwy sy’n Safle Treftadaeth y Byd.
Ynys Môn
Ym Mhlas Newydd,
mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal rhaglen o
ddigwyddiadau difyr ar gyfer y teulu cyfan, yn enwedig yn ystod
gwyliau’r ysgol. Os ydych yn mwynhau darllen mapiau, gallech roi
cynnig ar gyfeiriannu ym
Mharc Gwledig Morglawdd Caergybi.
Menai, Llŷn a Meirionnydd
Dewch am dro i bentref Portmeirion yng
Ngwynedd a gafodd ei ddylunio gan Syr Clough Williams-Ellis a’i
adeiladu rhwng 1925 a 1975. Yma yn y 1960au y ffilmiwyd y gyfres
deledu gwlt “The Prisoner”, gyda Patrick McGoohan.
Ceredigion
Ceir mwy o ddolffiniaid trwynbwl ym Mae Ceredigion nag
yn unman arall yn y DU ac mae teithiau cwch yn cael eu trefnu i
fynd i’w gweld. Mae hwyl i’w gael hefyd o ddal crancod yn
harbwr Aberaeron.
Sir Benfro
Mae
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cynnig rhaglen o
weithgareddau i deuluoedd trwy gydol y flwyddyn. Mae llawer yn
mwynhau dal crancod neu fynd am dro i weld ystlumod gyda’r nos.
Sir Gaerfyrddin
Mae lle braf i seiclo neu gerdded (neu hyd yn oed ganŵio yn yr
haf) yn y ganolfan gwlyptiroedd ger Llanelli (CGGC/WWT - Canolfan
Gwlyptir Genedlaethol Cymru). Cadwch eich llygaid
yn agored am rai o’r 600 o rywogaethau o adar a welir yma, gan
gynnwys fflamingos. Mae’r ganolfan hefyd yn gynefin gwych i lygod
pengrwn y dŵr.
Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Dewch i ymuno yn yr hwyl yn yr LC, canolfan hamdden a pharc dŵr
cyffrous Abertawe. Yna, beth am ddefnyddio offer modern i ddysgu am
hanes yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau? Mae’n werth ymweld â
Plantasia, canolfan drofannol egsotig dan do lle gallwch weld
pryfetach, ymlusgiaid, pysgod a mwncïod, a chymryd rhan mewn
digwyddiadau difyr. Atyniadau
Abertawe.
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Mae cenedlaethau wedi mwynhau ffair Coney Beach, Porthcawl ond
nid hwn yw unig atyniad yr ardal. Mae’n hwyl mynd am dro i
Warchodfa Natur Cynffig neu hwylio ar stemar olwyn y Waverley o
Borthcawl i Ilfracombe hefyd. Atyniadau Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae dros 130 o eitemau rhyngweithiol i ddifyrru’r hen a’r ifanc
yng nghanolfan wyddoniaeth Techniquest, Bae Caerdydd! Ar Forglawdd
Bae Caerdydd, ceir maes sglefrolio concrit 1100 metr sgwâr.
Atyniadau Caerdydd.
Cewch gamu ’nôl i’r Oesoedd Canol yng
Nghastell Cas-gwent lle maent yn ail-greu sefyllfaoedd ’slawer
dydd. Mae yno bobl yng ngwisgoedd y cyfnod, cyfle i weld adeiladau
hanesyddol ac mae pysgotwyr
rhwyd gafl yn dangos sut roedd yr hen Gymry’n dal eog yn
aber afon Hafren.