Mae rhai o draethau harddaf a glanaf Prydain
i’w gweld ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sy’n ymestyn am 870 o
filltiroedd.
Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy
Mae golygfeydd eang i’w gweld o draeth
Talacre sydd ar lan dyfroedd glân Môr
Iwerddon. Mae lle parcio hwylus ar gyfer y traeth
poblogaidd hwn sydd yng ngheg aber afon Dyfrdwy. Ar y traeth, mae
goleudy’r Parlwr Du a godwyd yn 1776 ond sy’n segur er 1884. Mae’r
twyni tywod o gwmpas y traeth yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol
Arbennig (SoDdGA).
Mae gan y Rhyl a
Phrestatyn chwe milltir o draethau diogel, tywodlyd y Faner Las
i’w cynnig a digon o adloniant i gadw’r teulu’n hapus.
Ceir traethau maith, tywodlyd ar hyd arfordir y gogledd (link to
http://www.visitllandudno.org.uk/) ym Mae Cinmel, Bae Colwyn,
Llandudno, Morfa Conwy, Penmaenmawr a Llanfairfechan. Mae glan môr
Llandrillo-yn-Rhos, sydd rhwng Llandudno a Bae Colwyn, yn llawn
cymeriad ac mae caffis ac arcêd ddiddanu ger traeth hir, graeanog
Pen-sarn.
Ynys Môn
Ar ynys, dydych chi byth yn bell o’r môr ac mae digonedd o
ddewis o draethau braf ar Ynys
Môn. Beth am fynd am dro i draeth Llanddwyn, sy’n gysylltiedig
â Dwynwen, nawddsant cariadon Cymru?
Menai, Llŷn a Meirionnydd
Yng Ngwynedd, dydych chi byth yn bell o harddwch môr a mynydd a
cheir traethau eang, braf a chilfachau cysgodol ar
hyd 189 milltir o Lwybr Arfordir Cymru yno. Mae 4.5 milltir o
dywod euraid ar draeth Tywyn sy’n un o’r rhai harddaf yng Nghymru.
Ar y llaw arall, cilgant cysgodol o dywod sydd ar draeth
Porthdinllaen. Mae pobl yn tyrru i draethau Aberdaron, Aberdyfi ac
Abermo hefyd.
Ceredigion
Yng Ngheredigion ceir arfordir hardd, naturiol gyda thraethau
tywodlyd, creigiau talsyth, twyni tywod a phyllau dŵr. Ceir yma
greaduriaid a phlanhigion o bob lliw a llun. Ar draeth Llangrannog,
mae Carreg Bica – dant cawr oedd yn byw gerllaw ’slawer dydd, yn ôl
y chwedl!
Sir Benfro
Dyma ardal sy’n enwog am ei
thraethau - dros 50 ohonynt a llawer wedi ennill gwobrau.
Ceir yma drefi glan môr prysur a chilfachau tawel, anghysbell ym
Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro – rhywbeth i bawb, yn deuluoedd
a syrffwyr. Mae Barafundle ar Stad Ystangbwll yn cael llawer o sylw
fel un o’r traethau harddaf yn y byd.
Sir Gaerfyrddin
Yma y ceir y traethau euraid di-dor hiraf ar Lwybr Arfordir
Cymru. Mae traethau prydferth Marros, Pentywyn a Chefn Sidan yn ymestyn am
bron saith milltir a gallwch fynd atynt yn hwylus. O Barc Gwledig
Pen-bre mae mynd i draeth Cefn Sidan.
Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe
Mae gan Abertawe gyfanswm o
bum traeth Baner Las a phedwar traeth Arfordir Glas. Yno, ceir
cildraethau bach tywodlyd a thraethau eang sy’n ymestyn hyd y
gwelwch chi. Yn 2011, dewiswyd Bae Port Einon yn draeth gorau
Prydain.
Arfordir y De ac Aber Afon Hafren
Mae nifer o draethau tywodlyd da ar hyd
Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Dyma rai o draethau mwyaf
poblogaidd y darn hwn o’r arfordir: Southerndown,
Ogwr, Newton, Bae Trecco, Rest Bay a’i byllau yn y creigiau, Pink
Bay a’r Sger, sy’n lle da i badlo a physgota. Mae Bae
Whitmore ger
Ynys y Barri’n boblogaidd hefyd am ymweliad traddodiadol â glan
y môr.