Cwestiynau cyffredin

Yn yr adran hon, fe welwch atebion i’r cwestiynau cyffredin am y llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Pa mor hir yw’r llwybr? Oes angen i mi ei gerdded i gyd ar unwaith?

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd ac er bod ambell unigolyn prin yn dewis cerdded y llwybr o un pen i’r llall, yr hyn sy’n wych am y llwybr i’r mwyafrif ohonom yw bod modd cerdded dim ond y rhannau hynny sy’n apelio atoch chi. Mae rhannau helaeth o’r llwybr yn hawdd i’w cyrraedd o’n trefi a’n dinasoedd arfordirol felly mae’r llwybr yn hwylus dros ben.

Ewch i tudalen ni Lleoedd i fynd iddyn nhw i chwilio am ran o’r llwybr sy’n addas i’ch anghenion chi.

Oes angen llawer o offer cerdded arna i?

Ddim bob amser. Byddem bob amser yn argymell eich bod yn cael syniad ynglŷn â’ch cyrchfan ymlaen llaw er mwyn cael rhyw syniad sut mae’r ddaear yn debygol o fod o dan draed. Dylech hefyd geisio cael syniad o ragolygon y tywydd. Yn y rhannau gwledig byddem yn argymell pâr da o esgidiau cerdded ac, os yw hi’n debygol o fwrw glaw, dillad da sy’n dal dŵr. (Does dim angen i’r rhain fod yn ddillad arbenigol neu ddrudfawr, cyn belled â bod yr esgidiau’n gadarn, bod gafael da ar y gwadnau a bod y dillad sy’n dal dŵr yn eich cadw’n sych.) Serch hynny, gallwch fwynhau rhannau helaeth o’r llwybr sy’n mynd trwy drefi a dinasoedd arfordirol (yn dibynnu ar y tywydd) heb unrhyw ddillad arbenigol. Ond cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus bob amser. Gall rhai eitemau ychwanegol wneud y profiad yn fwy pleserus - sach deithio, binocwlars, map a dŵr.

Sut alla i ddod o hyd i lefydd i aros ar hyd y llwybr?

Am syniadau ar lefydd i aros ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, rydyn ni’n argymell defnyddio teclyn dod o hyd i lety gwefan Visit Wales.

Oes modd ymuno â llwybrau sy’n arwain i gefn gwlad?

Bydd y Llwybr yn ymuno â llwybrau eraill a fydd yn ei gwneud hi’n bosib i chi gerdded i gefn gwlad Cymru. Mae cynlluniau ar y gweill i greu mwy o lwybrau a fydd yn cysylltu cymunedau mewndirol â’r arfordir. Bydd rhai o’r llwybrau hyn yn addas ar gyfer beicwyr.

Alla’ i feicio ar y Llwybr?

Mae rhan helaeth o’r Llwybr ar Lwybrau Troed Cyhoeddus a llwybrau eraill lle caiff beicio ei ystyried fel tresmasu, oni bai bod caniatâd arbennig wedi’i roi gan y tirfeddiannwr. Pa un bynnag, byddai’r holl giatiau mochyn a’r holl gamfeydd yn ei gwneud hi’n anodd ichi feicio.

Ond peidiwch â digalonni, oherwydd mae rhannau o’r Llwybr, a chysylltiadau tua’r tir, wedi’u cynllunio’n unswydd ar gyfer beicwyr. Mae rhai awgrymiadau yn yr adran Beicio.

Oes rhannau sy’n addas i gadair olwyn/bram?

Mae rhai rhannau o Lwybr Arfordir Cymru wedi eu cynllunio’n arbennig i fod yn brofiad pleserus heb roi gormod o her. Dyma rai o’n hoff leoliadau ni. Gweld Mynediad hwylus a Piers a Phromenâd.