Teithlyfr newydd ar gael yn Gymraeg
Gallwch bellach archwilio rhan o Lwybr Arfordir...
Mae gennym ni raglen gyffrous o deithiau cerdded a gweithgareddau i’w cynnal yn saith o leoliadau mwyaf poblogaidd Llwybr yr Arfordir, a hynny dros gyfnod o saith diwrnod rhwng y 4ydd a’r 19eg o Fai, 2019.
Bydd nifer o deithiau cerdded yn y lleoliadau hyn ar y dyddiadau canlynol:
Gyda dros 40 o deithiau tywys, a digonedd o weithgareddau fel glanhau traethau a chasglu bwyd gwyllt, bydd rhywbeth yn siŵr o’ch ysbrydoli i wisgo’ch esgidiau cerdded. Bydd y rhaglen yn cynnwys digwyddiadau sy’n addas ar gyfer ystod eang o alluoedd gwahanol- boed yn gerddwr brwd neu’n deulu ifanc. Rydym ni’n awyddus i bawb ymuno â ni er mwyn darganfod rhan fach o’u Llwybr Arfordir.
Lawrlwythwch ein rhaglen gŵyl gerdded fel y gallwch weld yn sydyn pa deithiau cerdded i archebu eich lle arnynt.
Mae llwyth o wybodaeth ddefnyddiol i’w gael ar wefan EventBrite Gŵyl Gerdded Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys lleoliadau a hyd y teithiau cerdded, er mwyn eich helpu i ddewis yr un sy’n gywir i chi. Does ond angen dewis pa daith yr ydych am ei cherdded ac yna archebu eich lle gan ddefnyddio’r wefan.
Nodwch fod y rhan fwyaf o’r teithiau am ddim, ond bydd ffi ychwanegol ar gyfer teithiau llinol pan fydd angen eich cludo o un man i’r llall.
Mae digon o wybodaeth ar ein tudalen Cynllunio Eich Ymweliad gan gynnwys cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol o lwybr yr arfordir.
Diolch i’r holl bartneriaid sydd wedi bod yn rhan o’r ŵyl hon, gan gynnwys:
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (CYTRh) sy’n derbyn cefnogaeth gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaeth Cymru ar gyfer Datblygiad Gwledig (CACagDG) a Chronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfanau cryfach drwy gydweithio.