Rydym yn falch iawn o gyhoeddi gŵyl gerdded saith diwrnod!
Bydd hi'n cael y cyfle i cerdded o hyd lle bydd modd mwynhau rhai o olygfeydd mwyaf godidog ac ymweld â lleoliadau yr ydym wrth ein bodd â hwy ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sydd yn 870 milltir o hyd.
Dywedwch ragor!
Mae 2019 yn dynodi 7 mlynedd ers lansiad Llwybr Arfordir Cymru, ac rydym yn gweithio ar y cyd â Ramblers Cymru sy’n cynnal saith taith gerdded o Ogledd i De Cymru.
Bydd y teithiau tywys yn cael eu cynnal rhwng 4 a 19 Mai o’r gogledd i’r de:
• 4 Mai yn y Gogarth, Llandudno • 5 Mai yn Ynys Môn • 6 Mai ym Mhorthmadog • 11 Mai yng Nghwm Tydu • 12 Mai yn Saundersfoot • 18 Mai ym Mhorth Tywyn • 19 Mai yn Llanilltud Fawr
Bydd amrywiaeth o deithiau cerdded ar gael i ymwelwyr eu mwynhau, o deithiau byr, hygyrch i deithiau ar gyfer y teulu a theithiau cerdded hwy – bydd rhwybeth i bawb.
Ddarganfod a sesiynau glanhau traethau gyda Cadwch Gymru’n Daclus a grwpiau diddordeb arbennig eraill.
Bydd y mwyafrif o’r teithiau yn rhad ac am ddim (ac eithrio tâl ychewanegol ar gyfer teithiau cerdded llinellol lle bydd angen trafnidiaeth) ond bydd angen i chi gofrestru.
Ydych chi eisiau gwybod mwy?
Ewch i wefan Ramblers Cymru er mwyn cofrestru’ch diddoerdeb ac i dderbyn gwybodaeth ynghylch pryd fydd y rhaglen teithiau cerdded yn agor ar gyfer archebu’ch lle.
Lledaenwch y gair!
Edrychwch am ddiweddariadau ar ein sianelau ar y cyfryngau cymdeithasol - @walescoastpath er mwyn gweld pryd fydd y rhaglen teithiau cerdded yn agor ar gyfer archebu’ch lle.
Hoffwch, rhowch sylwadau a rhannwch ein digwyddiad ar y cyfryngau cymdeithasol gyda’ch ffrindiau a’ch teulu.
Defnydiwch ein hashnodau #CerddedGyda’nGilydd #GwladGwlad! #GŵylLlwybrArfordirCymru #gwylllwybrarfordircymru a lledaenwch y gair ymhellach!
Diwedd
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid gan y Gronfa Ymgysylltu Twristiaeth Rhanbarthol (CYTRh) sy’n derbyn cefnogaeth gan Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Ddatblygu Gwledig 2014-2020, sy’n cael ei hariannu gan Gronfa Amaeth Cymru ar gyfer Datblygiad Gwledig (CACagDG) a Chronfa Llywodraeth Cymru er mwyn gwella profiad ymwelwyr a chreu cyrchfanau cryfach drwy gydweithio.
Tudalennau eraill yng Newyddion a Datganiad i'r wasg