Ysbrydiolaeth

Darganfyddwch daith gerdded anturus sy’n addas i chi

Yn ogystal â chael cyfle i ddianc oddi wrth y byd a’i bethau wrth grwydro’r llwybr ei hunan, mae nifer o ffyrdd eraill i ddianc gerllaw’r llwybr.

Mae llawer o Gymry wrth eu bodd â rygbi ac mae tîm pêl-droed Abertawe yn yr Uwch Gynghrair erbyn hyn. Ceir yma nifer o gyrsiau golff o’r safon uchaf ac arenas chwaraeon gyda’r gorau yn y byd. Cynhelir ralïau ceir rhyngwladol yma, ynghyd â thriathlon Ironman Cymru a rasys marathon ac mae pencampwriaethau chwaraeon dŵr fel hwylio, a rasio cychod cyflym a chychod hir yn digwydd drwy’r flwyddyn ar y glannau.

Pa un a fydd eich picnic yn cynnwys bwyd traddodiadol o Brydain neu ddanteithion o’r cyfandir, yn sicr gall safle picnic gwerth chweil droi eich pryd yn brofiad Michelin o’r radd flaenaf.

Abseilio, rafftio dŵr gwyn, cyrsiau beicio mynydd gyda’r gorau yn y byd, paragleidio, cartio, dringo – mae gan Gymru ddigonedd i’w gynnig i’r rhai sy’n chwilio am antur.