Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw: James Harcombe (gweler llun, dwi ar y chwith gyda sbectol haul coch ar fy mhen!)

Eich ysbrydiolaeth

Ar ôl helpu fy nghyfaill a’m cyd-redwr Mal Law i redeg 50 marathon mynydd mewn 50 diwrnod, gan godi mwy na $500,000NZ ar gyfer Mental Health Foundation (MHF) Seland Newydd, fe aethom ati i chwilio am ein sialens nesaf.

Roeddem eisiau sialens a fyddai’n ein gwthio i’r eithaf, yn feddyliol ac yn gorfforol, ac yn ysbrydoli pobl gobeithio i fentro allan, bod yn eginol a chysylltu ag eraill – rhywbeth rydym yn angerddol drosto o ran ein lles meddyliol ein hunain.

Fe wnaethom ddarllen am daith Arry o amgylch Cymru trwy gysylltu Llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa, a chawsom ein hysbrydoli i wneud hynny cyn gynted â phosibl.

Dyddiad cychwyn: 2il Mai,2017

Dyddiad gorffen: 27ain Mai, 2017

Uwchafbwyntiau

Roedd cerdded Llwybr Arfordir Penfro yn rhywbeth roeddwn i wedi bod eisiau ei wneud ers pan oeddwn i’n 14 oed, felly roedd cael teithio ar ei hyd o’r diwedd yn gwireddu breuddwyd i mi!

Roedd yr uchafbwyntiau eraill yn cynnwys rhannau o Gymru nad oedd gennyf ddisgwyliadau mawr yn eu cylch, gan gynnwys Arfordir Ceredigion, a oedd yn wyllt, yn ysblennydd ac yn amddifad o gerddwyr eraill.

Hefyd, roedd Ynys Môn yn fendigedig, gyda’i hamrywiaeth enfawr o draethau tywodlyd, twyni tywod a brigiadau (roedd Caergybi yn debyg i un o ynysoedd Groeg!).

Roedd cyrraedd Pen Strwmbl i wylio’r haul yn machlud y tu ôl i’r goleudy yn anhygoel. Hefyd, roedd hi’n anhygoel mai dim ond deuddydd o law a gawsom drwy gydol y daith!

Yn olaf, roedd dychwelyd i Gas-gwent ar ôl llwyddo i gerdded y llwybr yn yr amser cyflymaf (20 diwrnod, 12 awr, 55 munud) ar ôl mynd o amgylch Cymru i gyd (25 diwrnod, 8 awr, 51 munud), gan gyrraedd ein targed ‘codi arian’ hefyd ar gyfer MHF a Mind UK, yn brofiad arbennig iawn.

Isafbwyntiau

Wrth inni gyrraedd Doc Penfro, yn anffodus fe gafodd Mal anaf a’i rhwystrodd rhag cwblhau’r holl gylchdaith. Roedd y deuddydd canlynol yn anodd yn feddyliol, wrth imi geisio dygymod â’r ffaith nad oedd yn mynd i fod gyda mi ar ôl dwy flynedd o gynllunio a hyfforddi gyda’n gilydd.

Hefyd, wrth ddechrau’r daith o amgylch Ynys Môn cefais haint yn fy nhroed oherwydd plastr budr, a roddodd yr holl daith yn y fantol. Yn lwcus, cefais fy rhoi mewn cysylltiad â Dr Dai Roberts (a arferai redeg yng Ngemau’r Gymanwlad!), ac fe drefnodd imi gael cymorth meddygol o’r radd flaenaf gyda’i ferch.

Moment gofiadwy: Sylweddoli’n gynnar fod gennyf y criw mwyaf rhyfeddol yn gefn imi, a oedd wedi ymrwymo i wneud y daith yn llwyddiant. Felly, fe fyddaf yn fythol ddiolchgar i Mal, Sally, Jean, Helen a Richard ac i bawb arall a roddodd gefnogaeth a chymorth imi ar hyd y ffordd.

Mae gwybodaeth bellach am ein her ar gael ar ein gwefan www.chasingthedragon.run, Instagram @wales1700km a Facebook @chasingthedragon