Gwyriadau dros dro

Rhestr ddiweddar o wyriadau dros dro cyfredol ar y llwybr

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

O bryd i’w gilydd mae angen dargyfeirio rhannau o Lwybr Arfordir Cymru dros dro – yn bennaf oherwydd rhesymau diogelwch y cyhoedd ar ôl tywydd garw, tirlithriadau neu waith adeiladu. Fodd bynnag, ein harwyddair yw, 'nid ydym byth ar gau' a dylai llwybr arall fod ar gael bob amser. Oes rhywbeth o’i le ar Lwybr Arfordir Cymru, gadwech i ni gwybod ar ein ffurflen Rhoi gwybod ar fater ymwneud a'r Llwybr

Map Rhyngweithiol

Mae'r map rhyngweithiol yn dangos yr wybodaeth ganlynol:

  • Llwybr Arfordir Cymru fel llinell borffor 
  • Gwyriadau i’r llwybr fel trionglau rhybuddio melyn

Mae gwyriadau dros dros i’r llwybr hefyd yn y tabl o wyriadau dros dro i’r llwybr ar waelod y dudalen hon a chânt eu rhestru gan yr awdurdod lleol yn nhrefn yr wyddor.

Rhagor o wybodaeth

Yn achos rhai o'r gwyriadau dros dro, ceir mwy o fanylion am natur y gwyriad. Mae'r rhain yn cael eu trefnu gan awdurdodau lleol gan ddechrau yn y gogledd i gyfeiriad y de.

Conwy

Gwyriadau Dros Dro Bae Cinmel

Mae’r dargyfeiriad ar St Asaph Avenue yn ei le tan 31 Ionawr 2026. O 1 Awst tan 31 Hydref 2025, bydd y darn 20 i 30 metr o Lwybr Arfordir Cymru’n cael ei ailagor dros dro am ddau fis. O Hydref 2025, bydd y dargyfeiriad ar waith eto tan i’r gwaith gael ei gwblhau ddechrau 2026. Gweld map dargyfeiriad St Asaph Avenue Bae Cinmel. (diweddarwyd 29 Gorffennaf 2025)

Gwynedd

Mae Pont yr Aber rhwng castell Caernarfon a pharc chwarae Caernarfon, sy’n groesfan dros Afon Seiont, ar gau o bryd i’w gilydd. Pan fydd hyn yn digwydd, dilynwch y llwybr amgen ar y map. Gallwch roi gwybod i Gyngor Gwynedd bod y bont ar gau (diweddarwyd 5 Gorffennaf 2022)

Bro Morgannwg

Byddwch yn ymwybodol fod yna hollt fawr ar hyd ymyl y clogwyn uwchben Traeth Mawr rhwng Southerndown a Nash Point ym Mro Morgannwg, sy'n debygol o ddymchwel yn y dyfodol. Mae'r Wardeiniaid wedi cau’r darn hwn ac mae digon o le i mewn i'r tir ar y cae i’w osgoi a pharhau ar hyd Llwybr Arfordir Cymru. Lleoliad yr hollt yw: https://what3words.com/future.interacts.reduction (Diweddarwyd 16 Ionawr 2026)

Castell-nedd Port Talbot

Y Ceiau, ger Aberafan

Mae llwybr gwreiddiol Llwybr Arfordir Cymru i’r gogledd o Aberafan bellach ar gau. Cafodd ei gau am resymau diogelwch o ganlyniad i ddymchwel ac mae wedi’i rwystro i’r cyhoedd yma What3words amlach.esmwythder.hylifau

Mae’r llwybr newydd yn dilyn cyfeiriad y gogledd ar hyd Rhodfa Purcell (ger Clwb Morwrol Aberafan ar y groesffordd gyda Rhodfa Ysgarlad) ac i gyfeiriad y de ar Ffordd Brunel ger swyddfeydd Cyngor Castell Nedd Port Talbot. Gweler y llwybr ar ein map rhyngweithiol (Diweddarwyd 8 Medi 2025).

Abertawe

Gwyriadau Dros Dro Cwm Ivy

Mae’r llwybr drwy Goedwig Cwm Ivy (llwybr troed LM4) wedi ailagor ar ôl cwblhau gwaith i dynnu coed heintiedig ym mis Rhagfyr 2025.

Mae’r llwybr ar hyd y morglawdd ger Cwm Ivy ar gau o hyd ers 2015 (llwybr troed LM1B) am fod nam yn y morglawdd rhwng Trwyn Whiteford tuag at Lanmadog. I barhau ar Lwybr Arfordir Cymru, dilynwch lwybr troed LM2B tua’r de ar Drwyn Whiteford i gyrraedd llwybr troed LM2A. 

O lwybr troed LM2A, ewch am y de tuag at bentref Cwm Ivy ac yna trowch tua’r dwyrain gan ymuno â llwybr troed LM4 drwy Goed Cwm Ivy. Yna gallwch ddilyn llwybr troed LM1A ar gyfer y llwybr llanw uchel neu lanw isel am y dwyrain. 

Gallwch weld map cyfredol o’r dargyfeiriad yma. Sylwch fod map y dargyfeiriad yn dangos rhifau’r llwybrau troed ond mae hefyd yn dal i ddangos bod y llwybr trwy Goedwig Cwm Ivy ar gau (sy’n anghywir). Bydd map wedi’i ddiweddaru yn dangos bod y llwybr trwy goedwig Cwm Ivy ar agor ar gael cyn gynted â phosibl. (Diweddarwyd 18 Rhagfyr 2025)

Tabl o Gwyriadau Cyfredol

Mae'r holl wyriadau i’r llwybr wedi'u rhestru yn y tabl gyda map o ble mae'r llwybr wedi'i ddargyfeirio gyda dyddiad gorffen lle bo'n bosibl.

Awdurdod Lleol Lleoliad Rheswm Map Gwyriad Dyddiad
Abertawe Morglawdd Cwm Ivy Iechyd a Diolgelwch cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Caerdydd Canolog Caerdydd Iechyd a Diolgelwch cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Caerdydd Hemmingway Road, Bae Caerdydd (20 Chwefror 2026) Gwaith adeiladau cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ceredigion Aberporth i Tresaith (gorchymyn mewn grym am 21 diwrnod o 11 Chwefror 2026) Gwaith i arwynebu y llwybr cy tan 20-03-2026
Conwy Bae Cinmel (St Asaph Avenue) Amddiffyn rhag llifogydd cy tan 30-06-2026
Conwy Llwybr troed 66 (ffinio ar Glwb Golff Conwy) Adnewyddu ffensys terfyn rhwng 16 a 21 Chwefror 2026 cy tan 21-02-2026
Ddinbych Rhyl glan y môr Gwaith Amddiffyn Arfordirol cy tan 30-09-2025
Gaerfyrddin Talacharn llwybr cyhoeddus 22/15 (wedi dechrau 4 Mis Medi 2024) Gwaith gan Dŵr Cymru cy tan 31-05-2026
Gwynedd Nefyn (15 Rhagfyr 2025) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Gwynedd Trefgraig, aradal Bodferin yn Llangwnadl (27 Ionawr 2026) Llyncdwll cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro Amroth (Gorffennaf 2025) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Sir Benfro Traeth Mawr (8 Rhagfyr 2025) Gwaith adeiladu - maes parcio a toiledau newydd. cy tan 08-06-2026
Sir Benfro The Vomit, Dale (gorchymyn mewn grym am 21 diwrnod, dyddya 2 Chwefror 2026) Erydiad cy tan 22-02-2026
Ynys Mon Cemaes (Mai 2025) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon Porth Swtan (3 Chwefror 2026) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon Llanfaethlu (17 Chwefror 2026) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach
Ynys Mon Lligwy (17 Chwefror 2026) Tirlithriad cy hyd nes y ceir rhybudd pellach

Diweddarwyd ddiwethaf 20 Chwef 2026