Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Eich ysbrydoliaeth

Gan fy mod yn gerddwraig ‘bellter hir’ frwdfrydig (ac yn aelod o LDWA), llwyddais i gwblhau Llwybr Arfordir Penfro rhwng 2002 a 2009, a hynny, yn bennaf tra oedd fy ngŵr yn deifio.

Roedd hyn yn rhan o’r her o gerdded pob un o Lwybrau Cenedlaethol Cymru, Lloegr a’r Alban, a llwyddais i wneud hynny yn 2011.

A’r her nesaf? Wel, llwybr newydd Arfordir Cymru wrth gwrs!

Gan ein bod yn byw ym Mryste, gwnaethom gerdded y llwybr o’r de i’r gogledd, yn groes i’r cyfeiriad a geir ym mhob arweinlyfr. 

Uchafbwyntiau

Roeddem yn cerdded y rhan ddeheuol yn ystod teithiau diwrnod ac ar benwythnosau o Gas-gwent i Amroth. Arweiniais aelodau LDWA Bryste a Gorllewin Lloegr hyd at Y Barri, lle cawsom dynnu ein lluniau gyda Gavin a Stacey. 

Yn ôl fy arweinlyfr roedd mwd, corsydd a gwartheg chwareus “er nad oeddynt yn beryglus fel arfer” i’w cael yn y rhan rhwng Sanclêr a Llansteffan; a chan ei bod yn fis Chwefror gwlyb ar ôl y gaeaf gwlypaf o fewn cof – wynebais y problemau gyda rhywfaint o anesmwythder, ond llwyddais i fynd drwyddi yn ddianaf. 

Roedd y stormydd wedi dinistrio glan y môr yn Amroth ond gyda lwc, roedd hi’n dal yn bosibl i gerddwyr fynd heibio rhwng y peiriannau trwm oedd yn cyweirio’r difrod.  Llwyddais hyd yn oed i gerdded ‘Llwybr Dylan Thomas’ a hynny ar fy mhen-blwydd!

Yn ystod haf 2014 buom yn taclo’r rhan o Aberteifi i’r Borth, a gwersylla am wythnos a defnyddio bws y Cardi Bach. 

Ac ar ôl hynny y rhan o’r Borth i Bwllheli; gwersyllu ger gorsaf reilffordd fechan, prynu tocyn ‘Two Together’ - a mwynhau’r ffordd rad o deithio, y golygfeydd arfordirol a’r tywydd bendigedig. Dim ond un broblem gawsom ni wrth golli’r bws yn ôl o Bwllheli ar ôl cerdded 20 milltir (roedd y draphont ym Mhont Briwet yn cael ei hatgyweirio).  Gwnaethom benderfynu bodio’n ôl, a stopiodd cwpwl dymunol iawn o’r Iseldiroedd a mynnu mynd â ni'r holl ffordd yn ôl i’r gwersyll gan wrthod potel o win am eu trafferth.

Gwnaethom logi bwthyn er mwyn cerdded o amgylch Penrhyn Llŷn, yna gwestai Premier Inn rhad ym mis Tachwedd i gwblhau’r rhan o Gaernarfon i Gaer, gan ymweld â’r holl gestyll ar y ffordd a mynychu Gwasanaeth y Cofio ar sgwâr Caernarfon – a’r cwbl yn Gymraeg.

Llwyddais i gerdded yr holl ffordd o amgylch Ynys Môn yr haf hwn, a drwy wneud hynny, cwblhau’r 870 milltir. 

 Iselbwyntiau

Cawsom ‘uchafbwynt’ ac ‘isafbwynt’ ar yr un pryd pan ysgubodd gwyntoedd graddfa 10 fy ngŵr oddi ar ei draed ar ran ucha’r llwybr ym Mwlch Yr Eifl, 1150troedfedd rhwng Nefyn a Threfor. 

Llwyddais i eistedd i lawr yn ystod yr hyrddiau cryfaf a byw i ddweud yr hanes!

 Rwyf bellach wedi cerdded o amgylch Cymru YN OGYSTAL ag ar draws y wlad, o’r De i’r Gogledd ac o’r Dwyrain i’r Gorllewin – LlAC, Clawdd Offa, Ffordd Cambria (dros holl fynyddoedd Cymru) a Llwybr Glyndŵr.  Y daith nesaf fydd y llwybr o Fryste i Aberhonddu.

Ennyd o oleuni

Yr hyn sydd wedi agor fy llygaid yw gweld cymaint mwy difyr a phleserus yw cerdded o gymharu â syllu ar sgrîn cyfrifiadur; rydych yn gweld hanes, golygfeydd ysblennydd, cyfarfod pobl arbennig, ac yn gweld pob math o dywydd ac, ar ôl 15+ milltir, mae cael eistedd i lawr a mwynhau paned o de yn nefoedd ar y ddaear! 

Diolch i bawb fu’n gyfrifol am greu’r llwybr hwn a chynhyrchu’r taflenni gwybodaeth, y wefan ac yn arbennig y tablau milltiredd oedd yn help aruthrol.