Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Pamela Mallpress

Gan fy mod wedi derbyn triniaeth am ganser y fron yn gynharach 2013 yn Canolfan Canser Felindre, roeddwn am godi gymaint o arian â phosibl i’w hapêl newydd, “Buddugoliaeth dros Ganser”.

Rwyf wrth fy modd yn cerdded ac yn y gorffennol rwyf wedi cerdded rhannau bach o Lwybr Arfordir Cymru yn Sir Benfro a Phenrhyn Llŷn. Felly pan glywais fod y llwybr 870 milltir wedi ei agor yn llawn o gwmpas Cymru, roedd yn ddewis amlwg i mi i geisio ysbrydoli pobl i roi arian i’r achos gwych yma a hybu harddwch naturiol Cymru ar yr un pryd wrth i mi ddiweddaru fy mlog at bob taith: Pamela Mallpress Blog.

Mae fy ngŵr yn gefnogol iawn felly dyma ni’n penderfynu cychwyn ar ddarnau bach ar y tro o’r llwybr ddiwedd Mai 2013, mae ein bywydau yn rhy brysur i gerdded y llwybr yn llawn yn ddi-dor!

Darfu inni gwblhau ein taith, o’r diwedd, ar 27 Medi 2014 ac am brofiad! Gwych! Rydym yn cynnal cyngerdd ar ran Felindre ar yr 11eg o Hydref, er mwyn cyrraedd ein nod o £4,000 ar gyfer Canolfan Gancr Felindre (Just Giving: Pamela Mallpress).

Dwi wedi cynhyrchu calendr 2015 a, £6 gyda lluniau o’r daith. Pe hoffech gopi, gyrrwch neges e-bost ataf yn pamelamallpress@btinternet.com gyda’ch cyfeiriad. Gellir talu ar “justgiving” fel uchod, neu â siec.