Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Fy ysbrydoliaeth

Cam nesaf ar ôl Llwybr Mur Hadrian, ‘Coast to Coast’ Wainwright, a Llwybr y Penwynion 

Dyddiad cychwyn: 7ed Mis Ebrill 2018 

Dyddiad gorffen: 11 Mis Gorfennaf 2019 -  gwnaed dros 10 cyfnod o tua 4 diwrnod yr un ar gyfartaledd (2 miliwn cam  -  123,250 troedfedd o ddringo  -  300 awr o gerdded).

Uchafbwynt

Pan ddaeth fy merched i gyd-gerdded gyda fi am ran o ddiwrnod 

Isafbwynt

Cyrraedd caffi oedd ar fin cau ar ddiwedd diwrnod chwilboeth gan wybod nad oedd gen i ond digon o fariau bwyd a dŵr i bara tan y diwrnod canlynol. 

Fy ennyd o oleuni

Wel, …. Codi ganol nos mewn iwrt a chael fy nallu gan olau synhwyrydd symudiadau ar ôl agor y drws i fynd draw i’r bloc toiledau.

Edrych yn ôl 

Roeddwn i eisio cerdded Llwybr Arfordir Cymru er mwyn codi arian i elusen, ond doeddwn i ddim yn sicr a allwn i gwblhau’r her. Rwy’n teimlo ychydig yn euog am hynny erbyn hyn a finnau wedi cwblhau’r daith.  

Dechreuais yng Nghas-gwent gan feddwl y byddai’n deimlad braf came teithio tuag adref – sef y Gogledd Ddwyrain.   

Cefais fy synnu gan ba mor ddi-nod oedd y mannau dechrau/gorffen, a hefyd gan brinder y cerddwyr oedd yn cerdded y llwybr cyfan. Wrth gwrs mae ‘na rannau gorau fel Gŵyr, Penfro, Llŷn ac Ynys Môn, ond mi wnes i fwynhau’r rhan fwyaf o’r rhannau a’r gwahanol dirweddau – hyd yn oed y rhannau diwydiannol. Doeddwn i ddim yn mwynhau cymaint ar y gwyriadau mewndirol i fynd o amgylch yr aberoedd – ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn serth iawn – a hefyd roedd darnau hir ohonynt ar ffyrdd.

Edrych ymlaen 

I mi dyma Lwybr Cerdded Pellter Hir gorau’r DU gan fod ganddo olygfeydd amrywiol ac arwyddion hynod o dda. (Mae gan lwybrau arfordirol fwy o doiledau cyhoeddus hefyd). Y llwybr nesaf ar y rhestr fydd llwybr Clawdd Offa, er mwyn cwblhau’r cylch. 

Diolch arbennig

I’r timau strimio (oedd wedi cael gwared o lystyfiant) a phwy bynnag sy’n gofalu am y toiledau ar draeth Hazelbeach, a’r rhan fwyaf o berchnogion gwely a brecwast a aeth allan o’u ffordd i ddarparu bwyd ac i roi reid yn ôl at y llwybr i mi, ac i’m chwaer a ddaeth i’m cyfarfod sawl gwaith, rhoi lle i mi aros a fy nghludo i fannau cychwyn a gorffen. 

Rydw i wedi ymddeol ac angen rhywbeth i anelu ato bob haf. Mae rhan o’r diddordeb sydd gen i mewn teithiau cerdded pellter hir yn deillio o logisteg teithio i wahanol leoedd a threfnu llety a cheisio dewis tywydd ffafriol – sy’n golygu trefnu lle i aros ar fyr rybudd.  

Fe wnes i geisio trefnu camau pedwar diwrnod dwys gyda chyfnod o tua mis rhyngddynt. Bob blwyddyn roeddwn i’n cychwyn yn y gwanwyn ac yn rhoi’r gorau iddi ym mis Awst. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio llety gwely a brecwast gan nad oeddwn yn gallu cario offer gwersylla trwm am bellter hir.