Pethau i’w gwneud - Sir Benfro
Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud. ...
Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru
Pen Caer, Sir Benfro - Visit Wales
Dychmygwch gapel bychan, digon mawr i un person, a adeiladwyd yng nghesail clogwyn creigiog sydd wedi gwrthsefyll rhaib amser ers y 14eg ganrif. Mae’r capel bychan calchfaen un siambr hwn sy’n llochesu yn y clogwyni ym Mhentir Gofan yn Ne Sir Benfro yn ddarganfyddiad bach digon hynod.
Mae yna nifer o straeon am Sant Gofan, mynach Gwyddelig oedd yn byw yn y 6ed ganrif a chanddo sawl cyswllt â Dewi Sant (nawddsant Cymru) ac un o Farchogion y Ford Gron oedd yn gwasanaethu’r Brenin Arthur.
Yn ôl y sôn, ymosodwyd ar Sant Gofan gan fôr-ladron o Iwerddon ac fe ffodd am loches i’r clogwyni yn y graig. Dyma’r graig yn agor gan adael hollt oedd ond yn ddigon mawr iddo guddio ynddi hyd nes i’r môr-ladron adael.
Roedd Sant Gofan mor ddiolchgar fel yr arhosodd yno i rybuddio’r trigolion lleol am unrhyw ymosodiadau posib eraill gan fôr-ladron pe baent yn digwydd dod yn eu hôl.
Bu farw yn 568 ac yn ôl y sôn claddwyd ei gorff dan yr allor yn y capel sy’n dwyn ei enw.
Mae’r capel a godwyd sawl canrif yn ddiweddarach wedi ei leoli yn agos iawn at y fan lle’r enciliodd Sant Gofan flynyddoedd ynghynt. Gwisgwch eich cap antur ac ewch am dro i lawr y rhes o risiau sy’n arwain i’r capel a chewch eich gwobrwyo gan olygfeydd syfrdanol o’r arfordir. Ond, yn ôl y chwedl, nid yw nifer y grisiau fyth yr un peth wrth fynd i lawr ag y maen nhw wrth ddod yn ôl i fyny!
Adnoddau
300 llath – taith addas i ddefnyddwyr cadair olwyn sy’n arwain i’r Merllyn Glas – chwarel ddofn sydd wedi’i llenwi â dŵr – lle ceir golygfa drawiadol.
’Slawer dydd, roedd bae Ceibwr yn borthladd prysur yn gwasanaethu Trewyddel. Mae Pwll y Wrach yn un o nodweddion daearyddol mwyaf nodedig y rhan hon o’r arfordir – ogof wedi dymchwel wrth i’r môr dreulio siâl a thywodfaen meddal ar hyd ffawtlin.
Mae ’na ddarnau serth ar y llwybr hwn. Mae’r creigiau yng ngheg harbwr Solfach yn ei wneud yn un o’r llefydd mwyaf diogel i angori rhwng Aberdaugleddau ac Abergwaun. Mae dwy ran i’r pentref, Solfach Uchaf a Solfach Isaf.
Dewch i archwilio tref ganoloesol hardd Trefdraeth. Gan ei bod wedi’i lleoli ar aber Afon Nyfer, mae digon o lwybrau gwastad yma sy’n gwbl addas mewn mannau i gadeiriau olwyn. Gallwch gerdded yn hamddenol a mwynhau gwylio’r bywyd gwyllt. (Bws)
Dyma gyfle i grwydro’r Parc Ceirw a mwynhau’r golygfeydd tua’r Swnd Fain (Jack Sound) ac Ynys Sgomer ac ymlaen ar hyd yr arfordir trawiadol. Eisteddwch a gwyliwch ddyfroedd gwyllt y Swnd Fain yn gwibio heibio, yn y gobaith o weld huganod a llamhidyddion. Dyma le gwych ym mis Medi a mis Hydref i weld morloi bach ar y traethau islaw (ond cofiwch fod y clogwyni yma’n serth a bod angen gofal bob amser). Os ewch ymlaen ychydig yn bellach ar hyd y llwybr yma, byddwch yn cyrraedd traeth eithriadol o brydferth Marloes.
Tro o gwmpas y dref glan môr brysur hon a’r ardal wledig gerllaw. Gallwch edrych draw at Ynys Bŷr sy’n gartref i gymuned grefyddol ers y chweched ganrif.
Tro eithaf hawdd ar dir gwastad, gydag ambell i riw fer. Mae ’na olygfeydd gwrthgyferbyniol ar y tro hwn – mae’n dechrau gyda phentir garw a golygfeydd gwych o’r môr ac yn dod i ben ar dir cysgodol, coediog ger dyfrffordd Aberdaugleddau.
Mae’r llwybr trawiadol yma’n dangos yn glir pam mae llwybr yr arfordir yn haeddu statws Parc Cenedlaethol. Yma mae traeth Barafundle, sy’n perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol (ac a ddewiswyd yn un o’r deg traeth gorau yn y byd) a’r Pyllau Lilïau yn Bosherston. (Bws).
Mae rhai o’r bryniau ar y llwybr hwn yn serth ond mae llawer ohono’n eich tywys ar hyd pen y clogwyni lle ceir golygfeydd gwych tua’r môr.
O dywod euraid y Porth Mawr mae’r llwybr yn mynd heibio Tyddewi - dinas leiaf Prydain - ac yn dod i ben ym mhentref pert Solfach. Mae llamhidyddion i’w gweld yn y dŵr rhwng y tir mawr ac Ynys Dewi felly mae’n werth cael seibiant ar y ffordd.
Mae hwn yn ddarn prysur o’r llwybr gan fod cynifer o draethau ardderchog a chyfleusterau i ymwelwyr yn ardal Dinbych-y-pysgod. Ceir golygfeydd hardd o Ynys Bŷr ac ar ddiwrnod clir gallwch weld cyn belled ag Exmoor.