Teithiau cerdded cylchol capel Trefin, Sir Benfro

Dewis o thri daith gylchol gyda golygfeydd syfrdanol o'r traethlinau creigiog

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a gorffen

Maes parcio Trefin

Pellter

• Llwybr cerdded 1: 4 milltir neu 6 km
• Llwybr cerdded 2: 2.5 milltir neu 4 km
• Llwybr cerdded 3: 4 milltir neu 6 km

Ar hyd y ffordd 

Gan fynd i'r gorllewin allan o Drefin, mae'r daith gylchol hon yn mynd â chi heibio gweddillion melin Aberfelin yn gyntaf. Er i’r gwaith ddod i ben ym 1918, cafodd ei hanfarwoli yn y gerdd 'Melin Trefin' gan y diweddar Archdderwydd Crwys, un o'r cerddi Cymraeg mwyaf poblogaidd.

Yna byddwch chi'n mynd tuag at ben y clogwyni garw wrth i'r llwybr olrhain troadau cribog y draethlin. Edrychwch am chwarel fôr Trwyn Llwyd lle mae'r gwrychoedd yn llawn lliwiau clustog Fair a'r gludlys yn y gwanwyn.

Os ydych chi eisiau taith gerdded fyrrach, gallwch ddilyn un o ddau lwybr troed cyswllt yn ôl i Drefin (gweler y llinellau melyn toredig ar y map)

Ym Mhen-castell Coch gallwch weld caer o'r Oes Haearn, un o ddwsinau o safleoedd Neolithig a geir ar ddarn Sir Benfro o Lwybr yr Arfordir.

Cyn i chi gyrraedd Abercastell (a elwir hefyd yn Gwm Badau) dilynwch y llwybr cyswllt tua'r tir heibio Carreg Samson, siambr gladdu Neolithig drawiadol wedi'i thrwytho mewn chwedloniaeth sydd â chlamp o glogfaen ar ei phen, cyn ymuno â'r ffordd sy'n eich arwain yn ôl i'ch man cychwyn.

Man Treftadaeth Cysegredig

Yn agos at fan cychwyn y daith mae Capel Methodistaidd Calfinaidd Trefin. Fe'i sefydlwyd ym 1786 a chafodd ei hailadeiladu ym 1834 ac ar un adeg roedd yn ganolfan Methodistiaeth Gymreig o bwys, ond bellach mae wedi'i throi’n amgueddfa a gynhelir gan y gymuned leol ac Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Archwiliwch y gosodiadau a'r ffitiadau hynafol, y paent yn plicio, a'r ystyllod gwichlyd i gael cipolwg ar y gorffennol.

Mae Trefin hefyd yn gartref i Gapel Bedyddwyr, a adeiladwyd ym 1840 ac a gafodd ei ailadeiladu tua 1870 fel cangen o Groesgoch. Ond mae gwreiddiau crefyddol y pentref yn mynd hyd yn oed yn ddyfnach. Fel rhan o ystâd Esgobion Tyddewi yn y canol oesoedd, roedd Trefin ar un adeg yn gartref i Balas Esgobion.

Credir iddo gael ei adeiladu gan yr Esgob Thomas Bek ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg, ac mae ei weddillion bellach yn gudd o dan strydoedd y pentref.

Darganfyddwch fwy am capel Trefin 

Uchafbwyntiau'r daith

Mae Theresa Nolan, Swyddog Llwybr Arfordir Cymru yn dweud, “Mae olion chwarel arfordirol ac adeilad Trwyn-Llwyd ar ben y clogwyn yn lle da i gael picnic ac i edrych ar y brain coesgoch yn bwydo ar y glaswellt.”

Gwybodaeth ddefnyddiol

Mae yna doiledau cyhoeddus a llefydd parcio yn Nhrefin, ynghyd â thafarn. Gallwch gyrraedd y pentref ar fws T11 a gwasanaeth bysiau Strumble Shuttle 404.

Gall gwasanaeth bws Fflecsi eich codi a'ch gollwng mewn maes gwasanaeth ac nid mewn safle bysiau yn unig. Mwy o fanylion ar wefan Fflecsi https://www.fflecsi.cymru/
Opsiynau taith gerdded fyrrach
Mae llwybr cerdded 2 yn daith gerdded fyrrach ac mae llwybr tarw ger Pwll Llong ar lwybr caniataol sy'n mynd â chi yn ôl i'ch man cychwyn gan ddefnyddio'r llwybr troed cyswllt cyntaf yng nghyfeirnod grid SM840332 yr Arolwg Ordnans.

Mae llwybr cerdded 3 yn cynnig taith gerdded hyd yn oed yn fyrrach, gallwch ddefnyddio'r ail gyswllt gan ddefnyddio llwybr troed caniataol ar draws caeau i'r ffordd sy'n arwain at Drefin yng nghyfeirnod grid SM834329 yr Arolwg Ordnans.

Taflen Teithio a Map

Gallwch hefyd lawrlwytho'r taflen cerdded y gellir ei hargraffu a'r map llwybr i fynd gyda chi ar eich taith gerdded.

Lawrlwythwch taflen cerdded capel Trefin yn Trefin (PDF, 1.79 MB)

• Lawrlwythwch fap cerdded cylchol capel Trefin yn Trefin (JPEG, 1.35 MB)

Cydnabyddiaethau
Datblygwyd y daith hon mewn partneriaeth â'r Ymddiriedolaeth Eglwysi Genedlaethol. Ewch i'w gwefan www.explorechurches.org/cymru i ddarganfod mwy gan gynnwys teithiau a phrofiadau y gellir eu harchebu.