Portmeirion i Draeth Morfa Bychan, Gwynedd

Mwynhewch y daith hon â'i golygfeydd panoramig o Aber Afon Dwyryd wrth fynd am dro bach trwy bentrefi prydferth

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Min y Don i Draeth Morfa Bychan

Pellter

7 milltir neu 11 km

Ar hyd y daith 

Yn agos i fan cychwyn y daith, fe welwch bentref Eidalaidd hudolus Portmeirion, a ddyluniwyd gan Syr Clough Williams-Ellis. Nid yw'r pentref ar Lwybr Arfordir Cymru, ond mae'n bendant yn werth archwilio ei adeiladau lliwgar a'i lwybrau cerdded coetir. Yna byddwch chi'n croesi Cob Porthmadog - morglawdd o'r 18fed ganrif i ganiatáu i draffig fynd yn ddiogel ar draws aber peryglus Afon Glaslyn. Gallwch naill ai ei gerdded neu ei feicio fel rhan o lwybr beicio cenedlaethol Lôn Las Cymru.

Peidiwch ag anghofio eich binocwlars - mae'r gors halen y tu ôl i'r Cob yn baradwys i adar. Mae'r daith yn cynnwys Porthmadog, y dref a'r harbwr allforio llechi hanesyddol, cyn dirwyn ei ffordd o amgylch pentir creigiog i Borth y Gest. Mae'n un o bentrefi pysgota bach harddaf Gogledd Cymru ac yn lle gwych i aros i gael tamaid i fwyta a mwynhau'r golygfeydd gwych yn ôl tuag at Borthmadog a thros yr aber i Harlech a’i chastell coronog.  

O Borth y Gest byddwch yn dod ar draws cyfres o gildraethau tywodlyd tawel, cyn cyrraedd eangder anferth Traeth Morfa Bychan. Peidiwch â chael eich twyllo gan yr enw Saesneg (Black Rock Sands): mae'r traeth llydan hwn yn flanced o dywod euraidd cain, yn berffaith ar gyfer picnic ac adeiladu cestyll. Byddwch hefyd yn dod o hyd i byllau glan môr ac ogofâu i'w harchwilio, cregyn i'w casglu a mwy o olygfeydd panoramig o'r môr. 

Uchafbwyntiau'r daith

Rhys Roberts, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:

"Does dim diwedd i'r golygfeydd anhygoel ar y daith gerdded hon, gan edrych i fyny Afon Glaslyn, dros y morfa heli o'r cob, gydag Eryri’n gefnlen – mae’n gwneud i chi deimlo fel eich bod mewn ffilm Affricanaidd yn ystod y tymor glawog. Mae harbwr hardd a glan môr pentref hudolus a chudd Borth Y Gest yn odidog".

Angen gwybod

Mae parcio a thoiledau cyhoeddus ar ddau ben y daith. Mae gan Borthmadog a Phorth y Gest ddigonedd o lefydd i stopio ar gyfer coffi, hufen iâ neu rywbeth i fwyta, ynghyd â siopau lle gallwch brynu nwyddau ar gyfer picnic yn un o'r cilfannau diarffordd rhwng Borth y Gest a Thraeth Morfa Bychan.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Portmeirion i Draeth Morfa Bychan (PDF) a map taith cerdded (JPEG).

Eisiau mynd ymhellach? 

Rhowch gynnig ar ein Taith gerdded deuluol wahanol ym Mhorth y Gest sy’n cynnig golygfeydd panoramig dros Aber Afon Dwyryd a draw i Fae Ceredigion.   Defnyddiwch ap Llwybr Arfordir Cymru i ddatgloi fideo 3D cyffrous am y gwaith o adeiladu’r Cob ym Mhorthmadog.