Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd

Defnyddiwch yr ap Refill i ganfod dŵr yfed ar eich taith

Gall cerdded fod yn waith sychedig.

Mae’n ofnadwy o bwysig eich bod chi’n yfed digon o ddŵr ar eich taith. Mae modd i chi ail-lenwi eich potel ddŵr wrth gerdded y llwybr, sy’n wych i’r amgylchedd gan ei fod yn lleihau’r nifer o boteli dŵr plastig a ddefnyddir.

Mae Refill yn gynllun ar draws y DU lle mae caffis, gwestyau, a gwerthwyr ‘bwyd i fynd’ yn caniatáu i bobl ofyn am lenwi eu poteli dŵr â dŵr tap – a hynny i gyd am ddim.

Ewch i wefan Refill a lawrlwytho’r ap Refill er mwyn canfod eich Gorsaf Refill leol, a chael digon o ddŵr ar eich taith.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.