Diwydiant teithio

Canllaw i’r profiadau cerdded gorau yng Nghymru

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi'i anelu at y fasnach deithio sy'n awyddus i ehangu eu cynnig yn y farchnad gerdded yma yng Nghymru.

Mae Llwybr Arfordir Cymru a’r Tri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru, sef Llwybr Arfordir Sir Benfro, sy’n fyd-enwog, Llwybr Glyndŵr a Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa yn cynnig rhai o’r profiadau cerdded mwyaf amrywiol yn y DU. Rydym yn cydnabod fod digon o gyfleoedd i weithio gyda’r fasnach deithio sy’n gallu darparu profiadau gwyliau unigryw ar gyfer eu cwsmeriaid.

Mae gwaith ymchwil yn dangos fod ymwelwyr yn chwilio am brofiadau gwirioneddol i fanteisio’n llawn ar eu cyfnod yma yng Nghymru.

Mae’r pecyn hwn yn gasgliad o’r holl wybodaeth hanfodol er mwyn cynorthwyo’r fasnach deithio i greu pecynnau unigryw i ymwelwyr drwy gyfuno cerdded ar y llwybrau hyn â llu o weithgareddau eraill er mwyn cael amser bythgofiadwy yng Nghymru.

  • Yn y pecyn hwn byddwch yn cael gwybodaeth am y canlynol:
  • Y 4 llwybr a’u nodweddion unigryw
  • Syniadau am ble i aros, bwyta ac yfed ar gyfer pob llwybr
  • Syniadau am ble i siopa a phethau i’w gwneud ar gyfer pob llwybr
  • Gwybodaeth ymarferol am brif gysylltiadau trafnidiaeth a mannau parcio coetsys
  • Enghreifftiau o brofiadau ymwelwyr sy’n cyfuno cerdded ar y llwybrau â llu o weithgareddau gerllaw
  • Dolennau defnyddiol a rhagor o wybodaeth am ein partneriaid ledled Cymru

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth Diwydiant Teithio (PDF 4.6 MB) 

Ar gyfer unrhyw ymholiadau pellach cysylltwch â ni Edrychwn ymlaen at glywed gennych.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.