870 milltir o arfordir; dim ond un haf

I ddathlu 10 mlynedd ers agor Llwybr Arfordir Cymru yn swyddogol yn 2012, rydyn ni am i chi ymuno â ni ar y Llwybr yn ein her genedlaethol dros yr haf — Her 870.

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn 870 milltir o hyd, ac felly dyma gyflwyno Her 870 gan wahodd cerddwyr, heicwyr, beicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn, pobl sy’n marchogaeth ceffylau neu’n cerdded eu cŵn, grwpiau cymunedol, mamau, tadau, plant, trigolion lleol ac ymwelwyr – pawb! – i ddod i gerdded unrhyw ran o’r llwybr yr haf hwn, hyd ddiwedd mis Medi.

P'un a ydych chi'n gallu addo 1 milltir, 5 milltir, 10 milltir (neu fwy!) — helpwch ni i gyrraedd ein targed drwy addo eich milltiroedd isod. A pheidiwch ag anghofio cadw llygad ar ein tudalennau Facebook, Twitter ac Instagram am ddiweddariadau rheolaidd wrth i ni weithio tuag at ein targed o 870 milltir!

Addunwch eich milltiroed yma *

Yn fwy na hynny, gallech hefyd fod yn rhan o'r cyfle i ennill bwndel nwyddau pwrpasol werth £200. I gystadlu, rhannwch lun ar y cyfryngau cymdeithasol ohonoch chi'ch hun rywle ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan dagio @walescoastpath a defnyddio'r hashnod #Yr870Mawr.

Bydd tri enillydd yn cael eu dewis ar hap ar 30 Medi 2022 a chysylltir â nhw drwy neges uniongyrchol.

* Bydd y data a gofnodir wrth addo milltiroedd yn cael eu storio gan Lwybr Arfordir Cymru tan 23.59 ar 30 Medi 2022 at ddibenion cadw cofnod o gyfanswm y milltiroedd. Bydd data'n cael ei ddileu yn barhaol ar ôl y dyddiad a'r amser hwn.