Llwybr Arfordir Cymru yn galw ar y cyhoedd i fynd i’r afael ag erydiad arfordirol — drwy dynnu lluniau ar eu ffonau

Datganiad i’r wasg

Y Mis Cerdded Cenedlaethol hwn (Mai), mae Llwybr Arfordir Cymru yn gofyn i ymwelwyr a thrigolion Cymru helpu i fynd i’r afael ag erydu arfordirol — gydag ychydig o help gan eu ffonau clyfar.

Mae’r cyfan yn rhan o ‘CoastSnap’— menter gwyddoniaeth dinasyddion fyd-eang — sydd wedi cyrraedd Cymru am y tro cyntaf yr wythnos hon, mewn partneriaeth â Chanolfan Monitro Arfordirol Cymru.

Bydd y fenter yn annog y cyhoedd i gymryd rhan yn y rhaglen drwy dynnu lluniau ar eu ffonau clyfar mewn 19 o fannau ffotograffiaeth dynodedig ar hyd Llwybr Arfordir Cymru — o Fae Whitmore yn y Barri a Phromenâd Llandudno yn y gogledd i Harbwr Dinbych-y-pysgod yn Sir Benfro.

Lansio’r rhaglen yw rhan gyntaf gweithgaredd ymgyrch ‘Darganfyddwch Eich’  Llwybr Arfordir Cymru 2023 — a fydd yn annog pobl i fynd allan i ganfod eu siâr o lesiant, hwyl neu antur y tymor hwn, a hynny drwy ofalu am y 870 milltir o arfordir sydd gennym yng Nghymru.

Gellir dod o hyd i god QR pwrpasol ar grud ffôn ym mhob lleoliad, sy’n galluogi cerddwyr i gyflwyno eu delweddau’n gyflym ac yn hawdd i’r Ganolfan - mewn ymgais i helpu i ddeall a lliniaru effaith newid hinsawdd ar arfordir Cymru.

Mewn 3 mis, bydd delweddau a gyflwynir ym mhob lleoliad yn cael eu coladu i ffurfio fideo treigl amser — yn dangos y newidiadau arfordirol dros amser. Bydd y data hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i lywio rheolaeth arfordir Cymru ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Dywedodd Gwyn Nelson, Rheolwr Rhaglen Canolfan Monitro Arfordirol Cymru: “Heb os, bydd prosiect CoastSnap yn cael effaith hirdymor ledled Cymru, gan gyfrannu at ymdrechion byd-eang i ddeall yn well – a gwrthbwyso – erydiad arfordirol.

“Dim ond os oes gennym wybodaeth fanwl am y newidiadau sy’n digwydd y gellir amddiffyn ein harfordiroedd – hyd yn oed os yw’r newidiadau hyn yn digwydd fesul tipyn. Ac yn aml, y ffordd orau o ddeall graddau erydiad arfordirol yw trwy fonitro agos a dal delweddau’n rheolaidd.

“Rydyn ni’n gwybod bod nifer fawr o bobl sy’n byw ac yn ymweld â Chymru yn angerddol iawn dros warchod yr amgylchedd - felly rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pobl Cymru a thu hwnt yn ymgysylltu â Llwybr Arfordir Cymru yn y ffordd ystyrlon hon.”

Dywedodd Clare Pillman, Prif Swyddog Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru: “Mae nifer fawr ohonom wrth ein bodd yn tynnu lluniau sy’n dal eiliadau arbennig tra ein bod allan ar y Llwybr. Trwy eu rhannu ar CoastSnap — yn ogystal ag Instagram neu Facebook a’u tebyg — bydd cerddwyr yn gallu rhannu eu teithiau â’u ffrindiau a chyfrannu at ymchwil hanfodol i erydiad arfordirol ar yr un pryd.

“Mae arfordir Cymru yn dirwedd werthfawr lle gall cerddwyr o bob oed a chefndir fyfyrio, dianc, darganfod a chael antur. Gobeithiwn felly y bydd aelodau o’r cyhoedd yng Nghymru yn manteisio ar y cyfle unigryw hwn i gefnogi a diogelu ein hamgylchedd a rennir — er budd cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

“A pha well amser i lansio prosiect o’r fath nag yn ystod Wythnos Dysgu Awyr Agored Cymru – saith diwrnod wedi’u neilltuo i arddangos sut y gallwn ni i gyd elwa o ddysgu yn ein hamgylchedd naturiol, dysgu amdano a dysgu ar ei gyfer?”

Daw hyn yn dilyn llwyddiant prosiect Arfordir ar Daith - Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro — a lansiwyd yn 2016 i gofnodi newidiadau i arfordir Sir Benfro, gan gynnwys erydiad twyni a chlogwyni, llifogydd a newidiadau mewn lefelau tywod.

Mae CoastSnap yn fudiad rhyngwladol, sy'n grymuso'r cyhoedd i gymryd rhan mewn ymchwil amgylchedd morol. Fe’i sefydlwyd yn 2017 gan Adran Cynllunio ac Amgylchedd Prifysgol De Cymru Newydd a Phrifysgol De Cymru Newydd yn Sydney, Awstralia, ac mae bellach yn fyw ar draws 13 o wledydd.

I ddarganfod mwy am CoastSnap yng Nghymru ac i ddod o hyd i'ch man ffotograffiaeth agosaf ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, ewch i: Coastsnap | Canolfan Monitro Arfordirol Cymru (wcmc.wales)

Mae mannau ffotograffiaeth CoastSnap Cymru i’w gweld yn y lleoliadau canlynol:

  • Ffordd Lamby, Caerdydd
  • Pentywyn, Sir Gaerfyrddin – gosodiad i’w gadarnhau
  • Golygfa’r Castell, Cricieth, Gwynedd
  • Traeth y Gorllewin, Cricieth, Gwynedd
  • Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr – gosodiad i’w gadarnhau
  • Glan y môr Aberaeron, Ceredigion – gosodiad i’w gadarnhau
  • Promenâd Llandudno, Conwy
  • Promenâd y Rhyl, Sir Ddinbych
  • Talacre, Sir y Fflint
  • Biwmares, Ynys Môn
  • Safle Picnic Black Rock, Sir Fynwy – gosodiad i’w gadarnhau
  • Port Talbot, Castell-nedd Port Talbot – gosodiad i’w gadarnhau
  • Morglawdd Allteuryn, Casnewydd
  • Bandstand Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
  • Grisiau Traeth y Gogledd, Dinbych-y-Pysgod, Sir Benfro
  • Bae Langland, Abertawe – gosodiad i’w gadarnhau
  • Penarth, Bro Morgannwg
  • Dwyrain Bae Whitmore, y Barri
  • Gorllewin Bae Whitmore, y Barri

-DIWEDD-

YMHOLIADAU GAN Y CYFRYNGAU

Am ragor o wybodaeth a phob ymholiad gan y cyfryngau, cysylltwch â Dafydd ar  walescoastpath@equinox.wales. 

NODIADAU I OLYGYDDION

Llwybr Arfordir Cymru:

  • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded hir di-dor 870 milltir o hyd o amgylch arfordir Cymru.
  • Yn ystod 2022, dathlodd Llwybr Arfordir Cymru 10 mlynedd ers ei lansio’n swyddogol ym mis Mai 2012.
  • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (sy’n dilyn y ffin rhwng Cymru a Lloegr) a Llwybr Glyndŵr (llwybr mewndirol sy’n cwrdd â Llwybr Clawdd Offa).
  • Dysgwch fwy am Lwybr Arfordir Cymru yn https://www.walescoastpath.gov.uk neu dilynwch ni ar Facebook, Twitter ac