Digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru - 'Ysbrydoli Pobl Ifanc'

Llwybr Arfordir Cymru yw’r ystafell ddosbarth awyr agored berffaith.

Mae'r llwybr ar gyfer pawb a'n huchelgais yw annog cymaint o bobl ifanc i brofi'r llwybr mewn ffordd hwyliog ac ysbrydoledig. Rydym wedi gweithio gyda'r Urdd i greu adnoddau ar-lein i helpu i lywio'r profiad dysgu hwnnw. Gallwch gael mynediad atynt ar ein gwefan

Digwyddiad lansio

I lansio'r adnoddau, rydym yn cynnal digwyddiad wedi'i anelu at randdeiliaid sydd â diddordeb mewn addysg, lles a gweithgarwch awyr agored. Manylion isod.

Digwyddiad Llwybr Arfordir Cymru - ‘Ysbrydoli Pobl Ifanc’ - yng Ngwersyll yr Urdd, Bae Caerdydd, ar 30 Mehefin 2022.

Atebwch erbyn 28 Mis Mehefin 2022: https://bit.ly/3tW7Qzr  

Amserlen
9:30am: Bydd y siaradwyr yn cynnwys Iolo Williams, y naturiaethwr a’r cyflwynydd teledu, i siarad am bwysigrwydd byd natur i les pobl.

10:30am: Bydd Iolo Williams yn arwain taith gerdded o’r Gwersyll gyda phlant lleol. Bydd hyn yn cymryd tua 1 awr ar ran hawdd a gwastad o Lwybr Arfordir Cymru – mae croeso i chi ymuno â ni. Dewch ag esgidiau a dillad addas ar gyfer y tywydd.