Llwybr Arfordir Cymru yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o anturiaethwyr gyda phecyn adnoddau newydd wedi’i greu mewn partneriaeth â’r Urdd

Datganiad i’r Wasg—i'w ryddhau ar unwaith

Mae Llwybr Arfordir Cymrua'r Sefydliad Ieuenctid Gwirfoddol Cenedlaethol,Urdd Gobaith Cymru, wedic yhoeddi pecyn adnoddau newydd sbon sy'n annog plant a phobl ifanc i gamu i’r awyr agored atddibenion lles ac addysg. Dan arweiniad y naturiaethwr Iolo Williams, ac yng nghwmni disgyblion o'r ysgol leol,Ysgol Hamadryad,lansiwyd yr adnoddau newydd yn swyddogol heddiw (30 Mehefin) yng Nghanolfan Breswyl yr Urdd yngNghaerdydd—ac yna cynhaliwyd taith dywys ar hyd Morglawdd Bae Caerdydd, sy'n rhan o LwybrArfordir Cymru.

Nod y pecyn addysg yw darparu profiad dysgu awyr agored unigryw drwy natur, bywyd gwyllt, diwyllianta hanes lleol—a gellir ei fwynhau mewn dau leoliad: Bae Caerdydd a Llangrannog, Ceredigion. Yn seiliedig ar leoliadau Canolfannau Preswyl arfordirol yr Urdd, mae'r pecynnau'n darparu cyfres olwybrau cerdded pwrpasol—gyda’r thema'n seiliedig ar yr hyn ygellir ei weld a'i glywed ar hyd rhannauo Lwybr Arfordir Cymru.Ar ben hynny, gall defnyddwyr ymgolli’n fwy fyth yn eu hantur gyda chyfres o weithgareddau, gangynnwys: gwneud cwisiau, archwilio ogofâu, ysgrifennu barddoniaeth ac adnabod rhywogaethau.

Meddai Iolo Williams: "Mae mor bwysig bod plant yn cael eu haddysgu o oedran cynnar ambwysigrwydd bod yn gysylltiedig â natur a bywyd gwyllt.

"Mae archwilio'r awyr agored yn esgor ar lu o fanteision o ran lles, ac mewn oes fwyfwy digidol, mae'nbwysicachnag erioed o'r blaen cael cefnogaeth sefydliadau fel Llwybr Arfordir Cymru a'r Urdd iysbrydoli'r genhedlaeth iau."

Dywedodd Sian Lewis, Prif Weithredwr yr Urdd: "Fel sefydliad sy'n ymroddedig i roi cyfleoedd aphrofiadau i bobl ifanc, mae eu trochi ym mhopeth sydd gan Gymru i'w gynnig—yn amgylcheddol acyn ddiwylliannol—yn hanfodol i'w galluogi i wneud cyfraniadau cadarnhaol i'w cymunedau.

"Mae pob un o'n tair canolfan ieuenctid wedi'u lleoli ar arfordir Cymru neu’n agos ato, ac rydym ynmanteisio arbob cyfle i ddefnyddio'r lleoliadau arfordirol hynny pan fydd plant a phobl ifanc yn dod iymweld."

Dywedodd Sioned Humphreys, Swyddog Marchnata Llwybr Arfordir Cymru: "Wrth i ni nodi eindengmlwyddiant, ni fu erioed foment bwysicach i hyrwyddo manteision yr awyr agored i'r genhedlaethiau.

"A thrwy ddefnyddio ein pecyn adnoddau newydd, rydym yn gobeithio gweld pobl ifanc yn dod ynllysgenhadon yr awyr agored—gan sicrhau y bydd y Llwybr yn cael ei fwynhau a’i warchod amflynyddoedd i ddod."

I gael gwybod mwy am yr adnoddau newydd, ewch i:Llwybr Arfordir Cymru / Urdd Gobaith Cymru

-DIWEDD-

Ymholiadau gan y cyfryngau

I gael mwy o wybodaeth ac ar gyfer pob ymholiad gan y cyfryngau, cysylltwch â Dafydd ar walescoastpath@equinox.wales

Nodiadau i olygyddion

  • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn llwybr cerdded di-dor 870 milltiro hyd o amgylch arfordir Cymru.
  • Yn ystod 2022, mae Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu 10 mlynedd ers ei lansiad swyddogol ymmis Mai 2012.
  • Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cysylltu â Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa (sy'n dilyn y ffinrhwng Cymru a Lloegr) a Llwybr Glyndŵr (llwybr mewndirol sy'n ymuno â Llwybr Clawdd Offa).
  • Dysgwch fwy am Lwybr Arfordir Cymru ar www.walescoastpath.gov.uk neu dilynwch ni ar Facebook,Twitter ac Instagram @walescoastpath