Cwrdd â'r Swyddog Llwybr - Ynys Môn

Gruff Owen yn disgrifio ei hoff ran o Lwybr Arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Helo, fy enw i yw Gruff Owen, a fi yw Swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer arfordir y gogledd ac Ynys Môn. Ces fy magu ger Treffynnon yn Sir y Fflint, a gan fod gen i deulu ar wasgar ar hyd yr arfordir, mae’r ardal yn gyfarwydd iawn i mi. Rwy’n cydweithio’n agos â swyddogion llwybr yr arfordir ynghyd â swyddogion hawliau tramwy’r awdurdodau lleol. Y bwriad yw cadw’r llwybr yn gyflawn fel bo modd i bawb ei fwynhau.

Beth â’ch denodd i’r swydd?

Rwyf wrth fy modd bod y tu allan! Rwyf hefyd yn frwd dros hybu pobl i fwynhau’r awyr iach. Mae’r buddion corfforol a meddyliol sy’n gysylltiedig â bod yn yr awyr iach yn sylweddol, ac mae’n hynod bwysig i ni gyd ei wneud er mwyn deall ein lle o fewn natur. 

Pa ran o Lwybr Arfordir Cymru yw eich ffefryn?

Mae hi wedi bod yn hyfryd cael ailddarganfod hen fannau fy mhlentyndod o gwmpas Sir y Fflint - ac mae’n f’atgoffa fod pobl, a’r ffordd y maent yn cysylltu â byd natur, yn rhan hanfodol o’r dirwedd. Efallai na fyddwch i fyth yn gweld yr hen ardaloedd diwydiannol yma ar gerdyn post, ond maent yn rhan mor werthfawr o Lwybr Arfordir Cymru. Mae yna fannau lle gallwch weld rhai o rywogaethau adar prinnaf y DU, a chael yn gefndir iddynt olygfeydd annisgwyl o hen chwareli, gweithiau haearn, a gorsafoedd pŵer.

Ces fy syfrdanu gan drip diweddar i Lys Bedydd, ger Maes-glas. Dim ond ychydig pellach i lawr y lôn o’r fan lle ces fy magu, a chyda golygfeydd godidog o Aber Afon Dyfrdwy- ond doedd gen i ddim syniad ei fod yno!

Beth ydych chi fwyaf balch ohono hyd yma?

Byddwn yn dweud fod yr holl dimau llwybr arfordir yn gwneud gwaith gwych. Nhw sydd yn cynnal trafodaethau gyda thirfeddianwyr a chymunedau er mwyn creu cytundebau llwybrau cerdded, a nhw hefyd sy’n sicrhau gosodiad y llwybr yn sgil hynny. Ni allaf gymryd y clod am hynny o gwbl, ond rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda thîm cystal.

Cysylltu â Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

Gallwch gysylltu â mi gydag unrhyw gwestiynau neu ymholiadau sy’n ymwneud â Llwybr Arfordir Cymru drwy glicio ar Cysylltu â ni i anfon e-bost atom.