Cyswllt Camlas Gorsaf Caer

Mae’r ffin, ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy, ym ymfalchïo yn ei harwydd 'Croeso i Gymru', cerrig marcio a chennin Pedr yn y Gwanwyn

Mae pen gogleddol Llwybr Arfordir Cymru, gyda’i arwydd croeso i Gymru, cerrig marcio ac, am ychydig o wythnosau yn y gwanwyn, coridor o gennin Pedr, ar y ffin â Lloegr ar lan ogleddol Afon Dyfrdwy.  Ni all neb gychwyn neu orffen yma gan ei fod yn anodd ei gyrraedd ar hyd y ffordd.

Fodd bynnag, dim ond 2.3 milltir /3.75 cilometr, ydyw, o orsaf drenau Caer, ac mae’r map yn yr adran adnoddau isod yn dangos ein llwybr awgrymedig, heb arwyddbyst, rhwng y ddau.

O’r orsaf, ar ôl taith fer i lawr ‘City Road’, mae’r llwybr, drwy’r ddinas yn bennaf, yn un ddeniadol a diddorol ar hyd llwybr halio Camlas y ‘Shropshire Union’, lle mae’n gadael drwy dwll yn y wal ger basn y gamlas, cyn rhedeg i lawr ‘Catherine Street’ i faes chwarae'r ’Cop’.

O’r fan hon, er gwaethaf eich bod dal yn Lloegr, mae mynegbost Llwybr Arfordir Cymru yn dangos y ffordd ar hyd yr afon at y man cychwyn swyddogol.

Mae Cas-gwent dim ond 870 milltir i ffwrdd!

 

 

 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.