Aberporth i Tresaith, Ceredigion

Dyma daith gerdded fer i'r teulu gyda rhan ohoni sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn, a cheir cyfleusterau toiled a lluniaeth ar ddau ben y daith

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Aberporth to Tresaith

Pellter

2 milltir neu 3 km

Ar hyd y daith

Aberporth yw’r man cychwyn i chi, ar un adeg yn ganolfan forwrol brysur gyda’i fflyd fawr o gychod penwaig.  Erbyn heddiw, mae’n lle braf a heddychlon.  Mae iddi ddau draeth tywod cysgodol gyda phyllau glan môr - delfrydol ar gyfer yr archwilwyr ifanc. Ceir byrddau picnic ar bob pen i’r daith, ac mae dros hanner y llwybr o safon uchel sy’n addas ar gyfer cadeiriau olwyn a phram ac mae’r golygfeydd ar hyd arfordir Bae Ceredigion yn odidog.  Mae’r Bae, wrth gwrs yn enwog am ei dolffiniaid sy’n chwarae’n hapus rhwng y tonnau (cadwch lygad am y dolffin pren ar ddechrau’r daith hefyd!). 

Yn ychwanegol at fynediad addas i gadeiriau olwyn a chyfleusterau toiled cyfleus, mae’r rhan o’r daith Llwybr y Clogwyn Aberporth â Mynediad i Bawb, yn cychwyn yn Headland Place.  Gellir cael mynediad i’r llwybr hefyd o ‘r llefydd parcio i’r anabl ger Capel Brynseion (sydd bellach wedi ei drawsnewid i llety) wrth ymyl Heol y Graig, sydd oll i’r dwyrain o Fae Aberporth.  Ceir meinciau picnic cyfeillgar i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn 100 metr ac 1 cilomedr  (0.6milltir) o’r maes parcio.

Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i’r dwyrain i gyfeiriad Tresaith, heibio nifer o gildraethau creigiog cudd. Rydych yn siwr o ddod ar draws adar megis clochdar y cerrig, corhedydd y waun, a nifer o frain anghyffredin.  Yn ystod misoedd yr haf, mae’r gweirlöyn y perthi lliwgar hefyd i’w gweld. Yn Nhresaith, cofiwch sylwi ar y rhaeadr arfordirol sy’n llifo dros y clogwyni i’r dwyrain o’r traeth tywodlyd euraid.

Uchafbwyntiau'r daith 

Nigel Nicholas, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru
"Gyda’i golygfeydd godidog, mae’r llwybr pen clogwyn hynod boblogaidd gyda theuluoedd sydd yn cysylltu dau bentref glan môr hyfryd, gyda thraethau, lluniaeth a chyfleusterau toiled cyfleus. Cofiwch chwilio am y dolffiniaid, y brain prin a’r rhaeadr anghyffredin yn Nhresaith".

Angen Gwybod

  • Mae bron i hanner y daith yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn a meinciau picnic.  Mae’n daith sy’n eich tywys i dawelwch a llonyddwch, gan anghofio prysurdeb bywyd bob dydd. 
  • Mae gwasanaeth bws arfordirol Cardi Bach yn rhedeg yn dymhorol rhwng Aberporth a Tresaith. Ewch i wefan Richard Bros am amserlenni bws a phwyntiau codi.

Taflen Teithio a Map

Llun o safle picnic ger Aberporth gan Aberporth Coastal Holidays

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig