Taith Gylchol y Parlwr Du, Sir Fflint

Gall plant ddod wyneb yn wyneb â natur ar y daith hon (sy'n rhannol addas ar gyfer cadeiriau gwthio a chadeiriau olwyn) ac mae toiledau a chaffi cyfagos

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Y maes parcio talu ac arddangos yng ngwaelod Ffordd yr Orsaf, ger tafarn y Lighthouse. Mae’r Parlwr Du yn codi am barcio yn y Dafarn. 
Ceir mwy o feysydd parcio Talu ac Arddangos ar ddiwedd ffordd Gamfa Wen y tu ôl i’r Ganolfan Gymunedol.

Pellter

2.5 milltir neu 4 km

Ar hyd y ffordd

Ar ddiwedd Ffordd yr Orsaf dringwch i ben yr arglawdd. Dilynwch y llwybr i’r dde sydd wedi ei arwyddo’n glir â marcwyr oren ‘Llwybr Cylchol Y Parlwr Du’.  Mae’r llwybr yn syth ac yn llydan a cheir cerrig mân ar yr arwyneb i ddechrau. Ceir paneli gwybodaeth, meinciau picnic a cherfluniau ar y llwybr. 

Ar ôl 0.6 milltir mae’r cerrig mân yn gorffen ac mae’r llwybr tarmac yn dechrau ac yma ceir cyfleoedd i wylio adar yng nghuddfan adar RSPB, golygfeydd o’r aber a thirnodau diwydiannol. 
Gadewch y pwll glo a mynd drwy’r rhwystr ffrâm A, gan ddilyn yr arwyddion oren a throi i’r dde a dilyn llwybr glaswellt gyferbyn â lein y trên nes y byddwch yn gweld marcwyr eto ar y ffordd.  Croeswch y gylchfan ac ewch heibio ‘Canolfan Pentre Peryglon’. Mae’r llwybr yn ôl i’r maes parcio ar hyd Ffordd yr Orsaf.

Uchafbwyntiau'r daith

Gruff Owen, Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru:
"Taith gerdded addas i deuluoedd sy’n ardderchog i bramiau ysgafn ac sy’n rhywle lle gall y plant archwilio ac agosáu at natur".

Angen Gwybod 

  • Mae hyn yn ddelfrydol i deuluoedd a byddai hanner cyntaf y daith yn addas i bramiau ysgafn ac i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ar ôl cyrraedd y llwybr glaswellt gallwch ddilyn yr un ffordd ag y daethoch yn ôl (dyma’r llwybr harddaf yn ôl). 
  • Mae goleudy y Parlwr Du tirnod lleol i'w weld gerllaw o Lwybr Arfordir Cymru. Mae'n gwneud lleoliad tynnu lluniau gwych pan fydd y llanw allan.
  • Edrychwch ar wefan Traveline Cymru i gael amserlenni bws yn ôl ac ymlaen o Ffordd yr Orsaf, Talacre.
  • Lawrlwythwch ap Llwybr Digidol Gogledd Ddwyrain Cymru i gael mwy o wybodaeth am ble i fynd a beth i'w wneud yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Taith Gylchol y Parlwr Du (PDF) a map taith cerdded (JPEG)

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig