Cyfres teledu Wonders of the Coast Path ITV Cymru

Casgliad o deithiau cerdded difyr a chyffrous yn dilyn ôl traed Sean drwy gydol y gyfres deledu

Rhannwch syniadau cerdded Sean gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Cyfle arall i wylio 'Wonders of the Coast Path'

Mae'r rhaglen chwe phennod yn cael ei dangos ar draws rhwydwaith ITV UK gan ddechrau bob wythnos ddydd Iau 23 Gorffennaf 2020 am 8pm (GMT). Fe'i darlledwyd gyntaf yng Nghymru yn ôl ym mis Ebrill.

Mae rhaglen yn edrych ar yr hanes a’r bywyd gwyllt diddorol ar hyd 870 milltir (1,400 km) Llwybr Arfordir Cymru. Y cyflwynydd Sean Fletcher (Good Morning Britain, Countryfile) sy’n ein tywys, ac mae'n sgwrsio â phobl sy'n rhannu eu cariad a'u hangerdd dros arfordir Cymru wrth ddarganfod rhai o rannau mwyaf trawiadol y llwybr.

Gwyliwch Wedyn

Cyfle i ailwylio rhaglenni ar ITV Hub (DU yn unig). Gall gwylwyr y tu allan i’r DU ddal i wylio ar wasanaeth ITV Hub+ (gwasanaeth tanysgrifio).

Dilyn ôl traed Sean

Rydyn ni wedi creu casgliad o deithiau cerdded sy'n dilyn ôl traed Sean fel y gallwch chi hefyd ddarganfod eich rhyfeddodau eich hun ar lwybr yr arfordir.

Pennod 1 Arfordir Gogledd Cymru

Taith gerdded Llyffant y Twyni, Traeth Talacre, Sir y Fflint

Mae Sean yn dysgu am Lyffantod y Twyni, y creaduriaid prin sydd wedi ymgartrefu yn nhraeth Talacre.

Pen y Gogarth, Llandudno

Mae Sean yn darganfod mwy am hen hanes Mwynglawdd Copr Pen y Gogarth – mwynglawdd copr cynhanes mwyaf y byd. 

Afon Menai, Ynys Môn

Fe wnaeth Sean fwynhau sesiwn goginio flasus gyda chregyn gleision melys ar lannau'r Fenai gyda’r brodyr sy’n berchen ar y bwyty adnabyddus lleol The Marram Grass.

Goleudy Ynys Lawd a gwarchodfa’r RSPB, Ynys Môn

Mae warden yr RSPB, Denise Shaw, yn sgwrsio gyda Sean ar ben y goleudy am ei chysylltiadau teuluol yno. Mae hefyd yn dysgu am y praidd o ddefaid Hebrideaidd sy’n gwisgo dyfeisiau tracio GPS i reoli'r rhostir. 

Teithiau cerdded hir ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac ar Ynys Môn

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd ar hyd arfordir Gogledd Cymru o dref glan môr y Rhyl i safle treftadaeth y byd yng Nghonwy (25 milltir / 40 km) neu ein ein taith gerdded amlddydd ar Ynys Môn o'r Fali i Bontrhydybont (25 milltir / 42 km) yng ngogledd-orllewin yr ynys fechan ond nerthol hon.  

Pennod 2 Pen Llŷn

Hwylio i lawr Afon Menai

Gallwch chi fwynhau'r olygfa dros Afon Menai fel y gwnaeth Sean pan fu'n rhan o griw’r sgwner Ddanaidd, Vilma, o Borth Penrhyn i Gaernarfon. 
  • Darllenwch am daith gerdded Tro natur drwy’r coed Glan Faenol sy'n cynnig golygfeydd eang draw i Ynys Môn ac Afon Menai, sef y dyfroedd sy'n gwahanu'r ynys a thir mawr Cymru. (cynlluniwyd y daith gerdded gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Mapio 3D gan Google ar gyfer y llwybr o amgylch Pen Llŷn 

Mae Sean yn siarad â Rhys Roberts, swyddog Llwybr Arfordir Cymru ar gyfer yr adran hon, am ddefnyddio technoleg i ddod â'r llwybr at gynulleidfa ehangach. Mae’r dewisiadau’n ddi-ri gyda deunaw o deithiau cerdded cylchol wedi'u datblygu’n arbennig yn yr ardal hon sydd i gyd yn cysylltu â'r llwybr.

Syrffio ym Mhorth Neigwl

Mae Sean yn cwrdd â’r syrffiwr lleol ysbrydoledig, Llewelyn, sy'n herio’r tonnau ym Mhorth Neigwl er iddo golli ei goes pan gafodd ei daro gan gar.

Teithiau cerdded hir ar Ben Llŷn

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd ar Ben Llŷn o Bwllheli i Aberdaron (31 milltir / 49 km) ar ben deheuol y rhan drawiadol hon o'r llwybr.

Pennod 3 Bae Ceredigion

Diwrnod Owain Glyndŵr a Chastell Harlech 

Mae Sean yn dysgu am gastell Harlech, un o gaerau trawiadol y Brenin Edward I ar hyd arfordir Cymru.

Teyrnas goll Cantre'r Gwaelod a choedwig suddedig y Borth

Mae Sean yn dysgu am chwedloniaeth gyfoethog Cymru pan mae Angharad Wynne, sy’n awdur a bardd cyhoeddedig, yn adrodd hanes Dinas Goll Cantre'r Gwaelod yn y Borth.

Cipolwg ar fywyd arfordirol yng Nghei Newydd ac Aberporth

Mae Sean yn dysgu am y boblogaeth leol o ddolffiniaid yng Nghei Newydd (pwynt hanner ffordd swyddogol Llwybr Arfordir Cymru) ac yn torchi’i lewys i adeiladu pont gyda grŵp o wirfoddolwyr ar y llwybr. Mae hefyd yn ymuno mewn ras Cychod Hir Celtaidd gyda Thîm Aberporth yn erbyn eu cystadleuwyr, Llangrannog.

Teithiau cerdded hir yng Ngheredigion

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd yng Ngheredigion o'r Borth i Aberaeron lle mae 24 milltir / 38km o gerdded arfordirol gogoneddus yn aros amdanoch chi.

Pennod 4 Sir Benfro

Cerdded gyda Chymdeithas Deillion Sir Benfro

Mae Sean yn dysgu sut mae aelodau Cymdeithas Deillion Sir Benfro’n mwynhau'r llwybr gan ddefnyddio synhwyrau eraill ar daith gerdded o Haroldston Chins i Aber Llydan.
Gellir gwneud y llwybr hwn ar y bws, ond os ydych chi'n gyrru, mae maes parcio yn Aber Llydan a maes parcio cyfyngedig i'r anabl ar gael yn Haroldston Chins. Mae yna hefyd daith gerdded cadair olwyn fer yn Haroldston Chins.

Cloddfa archaeolegol yng Nghapel Sant Padrig, Porth Mawr

Mae Sean yn darganfod sut i wneud cloddfa archeolegol wrth ymyl un o rannau prysuraf llwybr yr arfordir yn Sir Benfro. Mae'r teithiau cerdded canlynol yn dangos Porth Mawr ar ei orau.

Maes Tanio Castell Martin

Mae Sean yn cael mynediad arbennig i'r tir hwn sy'n eiddo i'r Weinyddiaeth Amddiffyn; anaml y mae’r rhan hon o'r llwybr yn agored i gerddwyr. Gallwch weld amserau Maes Tanio Castell Martin sy'n cael eu cyhoeddi o flaen llaw unwaith y mis. Dim ond ar deithiau tywys y mae Maes y Gorllewin ar agor ac mae Maes y Dwyrain yn agored pan nad oes ymarfer tanio. 

Teithiau cerdded hir yn Sir Benfro ac i Sir Gaerfyrddin

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin. Byddwch chi’n cerdded un o rannau eiconig y llwybr o Faenorbŷr yn Sir Benfro ac yn gorffen ar Draeth Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin (19 milltir / 30 km).

Pennod 5 Bae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Traeth Pentywyn a'r record cyflymder tir 

Mae Sean yn ymweld â'r traeth agored hwn lle digwyddodd yr ornest cyflymder tir yn ôl yn niwedd y 1920au.

Gwymon a physgota cocos yng Nglanyfferi

Mae Sean yn rhoi cynnig ar bysgota cocos gydag un o'r busnesau cocos teuluol hynaf, sef 'Selwyn's' yng Nglanyfferi. 
  • Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr i weld digon o syniadau ar gyfer teithiau cerdded i ddarganfod beth sydd gan y rhan yma o'r llwybr i'w gynnig. 

Rhosili a cherdded Pen Pyrod

Mae Sean yn cerdded un o rannau mwyaf poblogaidd y llwybr yn Rhosili ac yn curo'r llanw uchel i gerdded yr ynys lanwol, Pen Pyrod, ym mhen eithaf Penrhyn Gŵyr gyda cheidwad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Kathryn Thomas.

(cynlluniwyd y teithiau cerdded gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol)

Prosiect Down to Earth

Ym Mae Bracelet, mae Sean yn dysgu sut mae'r prosiect Down to Earth yn gwneud y gorau o weithgareddau arfordirol i helpu grŵp o oedolion gydag anableddau corfforol a dysgu, ynghyd â cheiswyr lloches.

Teithiau cerdded hir yn Sir Gaerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd ym Mae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr. Mae'r rhan hon o'r llwybr (26 milltir / 41km) yn mynd heibio golygfeydd gwych o Ben Pyrod, un o'r tirnodau mwyaf adnabyddus ac arbennig yn yr ardal hon.

Pennod 6 De Cymru

Marchogaeth ceffylau yn Nhwyni Merthyr Mawr

Sean yn cwrdd â'r canwr opera o Gymru, Shân Cothi, i ryfeddu at harddwch twyni tywod uchaf Cymru ar gefn ceffyl yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Twyni Merthyr Mawr.

Daeareg ac Erydiad Tonnau ar Arfordir Treftadaeth Morgannwg yn Nhrwyn yr As

Wrth ymweld ag un o rannau mwyaf dramatig y llwybr, mae Sean yn cyfarfod â Dr Claire Earlie (Geomorffolegydd Arfordirol o Brifysgol Caerdydd) i ddarganfod pryd a sut y ffurfiwyd y clogwyni môr.

Darllediad radio cyntaf dros ddŵr agored gan Gueglio Marconi, o Ynys Echni i Drwyn Larnog

Mae Sean yn dysgu am drawsyriad radio cyntaf hanesyddol Marconi dros ddŵr agored ym 1897 a'r hanes am sut y llwyddodd.

Pysgota â Rhwydi Gafl yn Black Rock yn Aber Hafren

Mae Sean yn cwrdd â'r pysgotwyr Rhwydi Gafl olaf yn Black Rock ar Aber Hafren, sy’n cadw’r traddodiad prin o bysgota â rhwydi gafl yn fyw.

  • Darllenwch fwy am atyniadau eraill yn Black Rock. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am Daith Gerdded Iechyd Black Rock gyda golygfa wych rhwng y ddwy Bont Hafren, safle picnic Black Rock gyda golygfa dros Aber Hafren a hanes Pysgodfa Dreftadaeth Rhwydi Gafl Black Rock.

Teithiau cerdded hir ar arfordir De Cymru

Lawrlwythwch gynllun ein taith gerdded amlddydd ar hyd arfordir De Cymru. Bydd y cynllun 29 milltir / 46km yma’n mynd â chi o'r Barri, cartref y gyfres deledu boblogaidd Gavin and Stacey, ac ar hyd Arfordir Treftadaeth Morgannwg gan orffen ym Mhorthcawl, cartref y ganolfan chwaraeon dŵr newydd sbon.