Cei Newydd i Aberporth, Ceredigon

Mwynhewch y daith gerdded ddramatig ac ysblennydd hon ar hyd llechwedd arfordirol serth er mwyn rhoi ymarfer corff go iawn i'ch coesau

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Diwedd

Cei Newydd i Aberporth 

Pellter

13 milltir neu 22 km

Ar hyd y daith

Gan ddechrau o dref harbwr Cei Newydd, edrychwch yn ôl dros draethau Traethgwyn a Chei Bach lle’r oedd llongau’n cael eu hadeiladu yn eu cannoedd ar un adeg. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn cofleidio'r clogwyni wrth i chi deithio i'r De, gan fynd heibio i hen dwr gwylwyr y glannau wrth Graig yr Adar (lle gwych i weld dolffiniaid ac adar y môr).  

Byddwch yn teithio drwy Gwm Coubal a Chwm Soden yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle byddwch yn gweld rhai ffurfiannau creigiau plyg diddorol, cyn mynd heibio olion Oes yr Haearn caer Castell Bach ac yna'n disgyn i lawr i Gwmtydu.  Yn swatio rhwng dau bentir, mae'n hawdd gweld pam roedd y cildraeth bach diarffordd hwn unwaith yn llecyn glanio poblogaidd ar gyfer smyglwyr lleol.  

O Gwmtydu, mae’n debyg mai’r rhan i Langrannog yw’r un mwyaf trawiadol o'r daith gerdded.  Mae'r llwybr yn glynu at y llethr arfordirol gyda golygfeydd tuag at fryngaer pentir Pendinas Lochtyn (islaw lle mae pentir dramatig yn mynd allan i'r môr) ac Ynys Aberteifi yn y pellter.  

Wrth i chi nesáu at Langrannog, byddwch yn gweld cerflun o Sant Carannog yn edrych dros y traeth a Charreg Bica ar y lan.  Yn ôl y chwedl, mae'r pentwr garw hwn o graig yn ddant i’r cawr Bica.  Nesaf, mae'r llwybr yn parhau ar hyd yr arfordir i Dresaith, lle mae rhaeadr anarferol yn disgyn dros y clogwyni, cyn cyrraedd hafan Aberporth. 

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Nigel Nicholas:
"Mae'r rhan rhwng Cwmtydu a Llangrannog yn ysblennydd lle mae'r llwybr yn glynu wrth y llethr arfordirol serth. Darganfyddwch ddigonedd o fywyd gwyllt, enghreifftiau eithafol o ffurfiannau creigiau wedi'u plygu, traethau diarffordd hyfryd a phentrefi arfordirol swynol". 

Angen gwybod 

Ceir meysydd parcio, toiledau cyhoeddus a digon o leoedd i fwyta ac yfed yng Nghei Newydd ac yn Aberporth.  Mae gwasanaeth bws Traws Cymru T5 yn cysylltu dau ben y daith gerdded. 

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Cei Newydd i Aberproth (PDF) a map o taith cerdded (JPEG).

Eisiau mynd ymhellach? 

Rhowch gynnig ar ein Teithiau Teulu gwahanol yng Nhei Newydd gydag ap Llwybr Arfordir Cymru i ymchwilio mwy am hanes y smyglwyr a'r arwr llenyddol anhygoel, Dylan Thomas a ymgartrefodd yng Nghei Newydd, un o drefi glan môr mwyaf prydferth Cymru. 

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig