Rest Bay i Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, Pen-y-Bont ar Ogwr

Dyma daith gerdded â digonedd o olygfeydd gwych draw tuag at Fryste a gogledd Dyfnaint

Rhannwch y syniad cerdded hyn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dechrau a Gorffen

Maes parcio Rest Bay i Ganolfan Ymwelwyr Cynffig  

Pellter

3 milltir neu 5 km

Ar hyd y daith 

Mae'r daith gerdded hardd hon yn cynnwys longddrylliadau, twyni sy'n llawn bywyd gwyllt a llond bwcedi o dywod euraidd.  O'r maes parcio yn Rest Bay, dilynwch Lwybr yr Arfordir i'r gorllewin.  I'ch chwith mae traeth hir tywodlyd, ac i'r dde mae tir Clwb Golff Brenhinol Porthcawl, un o feysydd golff mwyaf clodfawr y DU.  

Ym mhen pellaf y traeth mae Trwyn y Sger creigiog gyda golygfeydd gwych ar draws Bae Abertawe. Ym 1947 cafwyd llongddrylliad enwog yma, pan yrrwyd yr llong ager Samtampa ar y creigiau gan storm gan golli’r criw cyfan. Yn Nhrwyn y Sger gallwch wyro rhywfaint oddi ar y llwybr i gael golwg gwell ar Dy’r Sger. Bu'n ysbrydoliaeth i nofel R.D. Blackmore The Maid of Sker, ac yn ôl chwedl leol mae nifer o ysbrydion yn aflonyddu’r lle.  

Ym mhen pellach Trwyn y Sger, mae Llwybr yr Arfordir yn parhau rhwng Traeth Cynffig a Thwyni Cynffig. Mae'r ardal fawr hon o dwyni tonnog yw Warchodfa Natur Genedlaethol Cynffig, sy'n enwog am ei thegeirianau lliwgar a'i phoblogaeth o bryfed amrywiol. Yn union ar ôl i chi basio'r tafod o graig y môr a elwir yn Gwely’r Misgl, trowch i'r dde o Lwybr yr Arfordir drwy'r twyni i Ganolfan Ymwelwyr Gwarchodfa Natur Cynffig.  

Gallwch olrhain eich camau ar gyfer eich taith yn ôl.  

Uchafbwyntiau'r daith

Uchafbwyntiau Swyddog Llwybr Arfordir Cymru, Tricia Cottnam:
"Yn fuan ar ôl gadael Rest Bay, mae'r morlin yn agor i draethlin greigiog, lle y gallwch weld piod môr prysur ac adar hirgoes eraill yn hedfan ar hyd yr arfordir. Oddi yma ceir golygfeydd gwych ar draws Môr Hafren a draw i Arfordir Gogledd Dyfnaint".

Angen gwybod 

Ceir meysydd parcio, toiledau cyhoeddus a safleoedd bws ar ddau ben y daith. Mae dewis da o lefydd i fwyta ac yfed ym Mhorthcawl sydd gerllaw. Mae gwasanaeth bws cyfyngedig (rhif 265) i’r warchodfa natur ac yn ôl. Gweler gwefan Bus Times ar gyfer amseroedd a lleoliadau.

Taflen Teithio a Map

Lawrlwythwch taflen cerdded Rest Bay i Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cynffig (PDF) a map o taith cerdded (JPEG).