O'r Cledrau i'r Llwybrau

Mwynhewch daith ar drên a gweld y llwybr drwy lygaid newydd

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae'n haws ymweld â'r llwybr ar y trên nag ydych chi'n meddwl. Gyda rhannau o'r llwybr wedi'u cysylltu'n dda â'r system reilffordd, gallwch adael y car gartref a theithio i'r llwybr ac oddi yno yn eich amser eich hun. Mae'n gyfle gwych i eistedd yn ôl a mwynhau arfordir Cymru o bersbectif gwahanol.

Rhwydwaith rheilffordd

Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) yn darparu’r gwasanaeth trenau ledled Cymru a’r Gororau. Lawrlwythwch fapiau’r rhwydwaith i weld lle mae’r trenau’n mynd ledled Cymru a’r Gororau

Dyma linellau’r rhwydwaith rheilffordd ar gyfer pob ardal o’r llwybr.

Arfordir Gogledd Cymru - Gwasanaeth rhwng Gogledd a De Cymru, Llinell Arfordir Gogledd Cymru, Llandudno i Fanceinion.

  • Ynys Môn - Gwasanaeth rhwng Gogledd a De Cymru Llinell Arfordir Gogledd Cymru
  • Arfordir Eryri a Llŷn  - Llinell Cambrian
  • Ceredigion - Llinell Cambrian, mae gwasanaeth bysiau TrawsCymru yn cysylltu o Aberystwyth i Sir Gaerfyrddin.
  • Sir Benfro - Llinell y Mers, Llinell Gorllewin Cymru.
  • Sir Gaerfyrddin - Llinell Gorllewin Cymru
  • Abertawe /Gŵyr - Llinell Gorllewin Cymru, Swanline.
  • Arfordir De Cymru - Swanline, Llinell y Mers, Maesteg i Cheltenham Spa, Cymoedd De Cymru

Gorsaf trennau ar hyd y lwybr

 Rydym wedi llunio rhestr o’r gorsafoedd trenau mwyaf prif ar hyd y llwybr i'ch helpu i gynllunio eich ymweliad ar drên a disgrifiadau ar sut rydych chi'n dod o hyd i'ch ffordd o'r orsaf drenau i'r llwybr.

Sylwch mai dim ond arosfannau wedi’u tarmacio yw rhai gorsafoedd ac ni fydd adeilad bob amser i ddangos eu bod yn arosfannau trên. Mae yna orsafoedd trenau lle bydd trenau ond yn stopio os bydd cwsmer yn gofyn am gael dod ar neu oddi ar y trên. Darllenwch am sut i ddod ar neu oddi ar y trên mewn safle lle mae angen gofyn.

Arfordir Gogledd Cymru

Caer

O orsaf Caer, mae'n daith gerdded ddymunol 2.3 milltir / 3.75 cilometr ar ochr y gamlas i ddechrau (neu ddiwedd) Llwybr Arfordir Cymru.

O'r orsaf, cerddwch yn syth ymlaen ar Heol y Ddinas am ychydig gannoedd o lathenni nes i chi gyrraedd y gamlas. Cymerwch y grisiau i lawr i'r gamlas a mynd tua’r gorllewin gyda waliau dinas Caer yn cadw cwmni i chi am ran o'r llwybr. Dyma'r waliau hynaf, hiraf a'r rhai mwyaf cyflawn ym Mhrydain, ac mae rhai rhannau wedi bod yno ers 2,000 o flynyddoedd.

Ar ôl; cyrraedd basn y gamlas, ewch drwy dwll yn y wal ac i lawr Stryd Catherine i dir hamdden. Oddi yma, mae arwyddbost Llwybr Arfordir Cymru yn dangos y ffordd ochr yn ochr ag afon Dyfrdwy.

Fflint

Mae cynllun unigryw Castell y Fflint yn nodi dechrau'r daith gerdded hon. Oddi yma mae llwybr gwastad iawn yn rhedeg ar hyd glannau aber Afon Dyfrdwy - safle sydd wedi'i warchod oherwydd ei bwysigrwydd ar gyfer adar a bywyd gwyllt arall. I gyrraedd Castell y Fflint o'r orsaf, cerddwch 0.1 milltir / 0.2 cilometr i lawr Stryd y Castell sy’n enw addas iawn.

Prestatyn

Mae'r daith o orsaf reilffordd Prestatyn i'r arfordir yn unigryw gan ei bod yn dilyn un o Lwybrau Cenedlaethol arall Cymru, sef Llwybr Clawdd Offa. O'r orsaf, ewch yn syth i lawr Ffordd Bastion am 0.5 milltir / 0.8 cilomedr i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru wrth Ganolfan Nova, Prestatyn.

Y Rhyl

Ar ôl cyrraedd y môr yn y Rhyl, darn diddiwedd o dywod euraidd fydd eich cydymaith bellach, p'un ai y byddwch yn troi i'r dde tua Phrestatyn neu i'r chwith i gyfeiriad Bae Colwyn. Ewch am dro yn syth ymlaen o'r orsaf reilffordd am 0.3 milltir / 0.5 cilomedr i lawr Stryd Elwy, yna Stryd Bodfor, yna Heol y Frenhines i gyrraedd promenâd y Rhyl a Llwybr Arfordir Cymru.

Abergele a Phensarn

Mae’n debyg mai hon fod yw un o'r gorsafoedd rheilffordd agosaf at Lwybr Arfordir Cymru yn y gogledd. Trowch i'r dde o'r orsaf ymlaen i Heol y Môr i groesi'r traciau - ac rydych chi yno. Trowch i'r dde i'r Rhyl, i'r chwith i Fae Colwyn.

Bae Colwyn

Trowch i'r chwith allan o orsaf Bae Colwyn, lawr rhai grisiau a thrwy danffordd ar eich chwith i gyrraedd y promenâd a Llwybr Arfordir Cymru. Ewch i'r gorllewin ar y llwybr drwy Landrillo-yn-Rhos digynnwrf a thros y Gogarth Fach i gyrchfan Fictorianaidd cain Llandudno, neu ewch tua'r dwyrain tuag at Abergele.

Cyffordd Llandudno

Mae'r orsaf hon yn fan cychwyn gwych i gerdded i ddwy o'r perlau trefol ar Lwybr Arfordir Cymru - castell canoloesol ysblennydd a thref gaerog Conwy (gweler Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW) neu Frenhines Cyrchfannau Cymru, Llandudno.

I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith drwy faes parcio'r orsaf ac i'r chwith eto i Heol Conwy wrth y gylchfan fach. Ewch drwy danlwybr byr ac o dan y drosffordd cyn cymryd y grisiau neu'r ramp i ymuno â'r cob dros yr aber i Gonwy neu ar hyd yr aber drwy Ddeganwy i Landudno.

Deganwy

Mae'n werth dod oddi ar y trên yma i weld i'r olygfa dros aber Conwy tuag at Safle Treftadaeth y Byd, Castell Conwy (edrychwch ar Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru safleoedd CADW). Mae’n 0.1 milltir / 0.2 cilometr o'r orsaf i’r llwybr. Cymerwch yr allanfa o faes parcio'r orsaf a chadwch i'r chwith. Ar ôl croesi'r rheilffordd, trowch i'r chwith am Gonwy ac i'r dde am Landudno.

Llandudno

Bydd dolen drawiadol bum milltir o bentir Pen y Gogarth o'r orsaf yn dod â chi yn ôl i ganol Llandudno. I gyrraedd y llwybr, cerddwch yn syth allan o orsaf drenau Llandudno i lawr Stryd Vaughan am 0.3 milltir / 0.4 cilomedr, gan groesi heol brysur Stryd Mostyn i gyrraedd promenâd Fictorianaidd cain Llandudno.

Conwy

Yn un o’r trefi bach mwyaf prydferth yng Nghymru, mae strydoedd cul Conwy a chastell canoloesol (gweler cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW) yn cynnig cychwyn gwych i’ch taith gerdded arfordirol.

O'r orsaf (mae rhai trenau ond yn stopio yma ar gais) croeswch Sgwâr Lancaster ac ewch i lawr y Stryd Fawr am 0.2 milltir / 0.3 cilometr i'r cei tlws sy'n gartref i lynges fechan o gychod pysgota lliwgar a'r tŷ lleiaf ym Mhrydain. Trowch i'r chwith i gyfeiriad Penmaenmawr ac mae gennych ddewis o fynd â'r llwybr gwastad wrth ymyl yr arfordir neu'r llwybr mwy trawiadol - ond hefyd yn fwy heriol – ar hyd y bryniau a'r rhosydd i Lanfairfechan.

Penmaenmawr

Trowch i'r chwith o'r orsaf (dim ond ar gais mae rhai trenau'n stopio yma) ac mewn ychydig gannoedd o lathenni i'r chwith eto drwy danffordd i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar bromenâd Penmaenmawr.

Llanfairfechan

Mae rhan gyntaf Llwybr Arfordir Cymru o Lanfairfechan i Fangor yn rhedeg ochr yn ochr ag ehangder helaeth Traeth Lafan. Ym mhen dwyreiniol Afon Menai, ceir golygfeydd gwych draw i Ynys Môn a Phenmon.

I gyrraedd y llwybr, trowch i'r dde o orsaf Llanfairfechan (dim ond ar gais mae rhai trenau'n stopio yma ar gais) ar hyd Traeth Gorllewinol ac ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru mewn 0.2 milltir / 0.3 cilometr ym Mhlas Caradog.

Bangor

Mae'n daith gerdded hawdd ar hyd Ffordd Caergybi drwy Fangor Uchaf i gyrraedd Pont Grog eiconig Thomas Telford a adeiladwyd ym Mhorthaethwy. Wrth gyrraedd Pont Grog Menai mae gennych opsiwn unigryw i ddilyn y llwybr i bedwar cyfeiriad gwahanol:

  1. Croeswch y bont i Ynys Môn a throwch i'r dde drwy dref Porthaethwy i Fiwmares gyda'i gastell anhygoel Safle Treftadaeth y Byd (gweler Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW)
  2. neu trowch i'r chwith heibio Ynys yr Eglwys brydferth a Phont Britannia i Lanfairpwll i ddal y trên yn ôl.
  3. Neu gallech chi aros ar y tir mawr drwy rai o goetiroedd atmosfferig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i gyfeiriad Y Felinheli a Chaernarfon a’i chastell Safle Treftadaeth y Byd rhyfeddol (gweler cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW)
  4. neu trowch yn ôl y ffordd y daethoch tuag at Bier Bangor ac ewch drwy'r ddinas yn ôl i'r orsaf reilffordd.

I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith wrth adael yr orsaf reilffordd ac arhoswch ar y ffordd hon am y 1.8 milltir / 2.9 cilometr nesaf. Wrth adael Bangor Uchaf mae opsiwn i ddilyn llwybr cyfochrog (ar yr ochr chwith) drwy goetir wrth ochr y brif ffordd.

Opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus - Y ffordd symlaf a chyflymaf o gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru o orsaf reilffordd Bangor yw dal bws i Amlwch, Caergybi neu Borthaethwy o'r safle bws ar y brif ffordd ychydig y tu allan i'r orsaf.

Ewch oddi ar y bws wrth yr Antelope Inn, ychydig cyn croesi’r bont.  (Sylwer, ar adeg ysgrifennu hwn, bod cyfyngiad pwysau dros dro ar y bont yn golygu bod yn rhaid i bob bws wyro eu llwybr yma a chroesi Pont Britannia i gyrraedd Ynys Môn).

(amser ysgrifennu Awst 2022)

Ynys Môn

Llanfairpwll

Mae arwydd yr orsaf yn Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch yn cynnig cyfle i dynnu lluniau eiconig cyn dechrau o’r orsaf reilffordd hon. Mae'n daith gerdded 0.4 milltir / 0.6 cilometr i gyrraedd y llwybr sy'n cychwyn ar hyd trac glaswelltog yng nghefn yr orsaf reilffordd. Trowch i'r dde ar Ffordd yr Orsaf ac i'r dde eto wrth y gyffordd gyda'r A4080.

Byddwch yn cyrraedd y llwybr ymhen ychydig gannoedd o lathenni a bydd gennych yr opsiwn i barhau yn syth ymlaen am Dde Orllewin Môn neu droi i’r chwith i gyrraedd cerflun Nelson ar lannau’r Fenai a cherdded o dan Bont Britannia a Phont Menai.

Rhosneigr

Wrth fynd i mewn i'r pentref, trowch i'r dde i ymuno â'r llwybr ar hyd twyni a thraeth anferth Traeth Crigyll (enw Cymraeg sy'n deillio o'r arfer o "ddryllio" - llongau teithiol i'r creigiau) ac ymlaen tuag at Ynys Gybi.

Wrth fynd yn syth ymlaen yn y fan hon byddwch yn mynd trwy Rosneigr tuag at garnedd hynafol Barclodiad y Gawres ac eglwys-ynys ryfeddol Sant Cwyfan. Mae'n daith gerdded 0.5 milltir / 0.8 cilometr ar y palmant wrth yr A4080 o'r orsaf i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru wrth i chi ddod i mewn i'r pentref.

Y Fali

O'r fan hon gallwch grwydro hanner deheuol tawelach Ynys Gybi i Drearddur (lle gallwch ddal y bws Caergybi-Llangefni yn ôl i'r Fali) neu anelu am Rosneigr (dal y bws Aberffraw - Caergybi yn ôl i'r Fali).

O orsaf y Fali, cymerwch y B4545 (Ffordd yr Orsaf) tuag at Bontrhydybont  am 0.8 milltir / 1.3 cilometr. Croeswch y bont dros yr A55 ac ewch yn syth ymlaen ar y gylchfan. Byddwch yn cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ger Pen-y-bont, ar gyrion pentref Pontrhydybont.

Caergybi

Wedi’i disgrifio gan lawer fel un o’r rhannau gorau i’w cherdded ar y llwybr, mae’r daith gerdded o Gaergybi i Drearddur yn cynnwys parc gwledig, clogwyni garw, henebion, goleudy eiconig a gwarchodfa natur fel rhai o’i huchafbwyntiau. Mae’n hawdd iawn cyrraedd y fan hon. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar bont y Porth Celtaidd sy'n cysylltu'r orsaf â thref Caergybi.

Arfordir Eryri a Phen Llŷn

Pwllheli

Mae tref farchnad lewyrchus Pwllheli yn nodi diwedd lein y Cambrian ac yn fan gwych arall i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru, ychydig y tu allan i’r orsaf. Anelwch i'r gorllewin i lawr Cei'r Gogledd i gyfeiriad Criccieth neu ewch i'r de i lawr ffordd hollol syth y Cob nes cyrraedd yr arfordir ger Cylch yr Orsedd ac o'r fan honno gallwch fynd ymlaen i gyfeiriad Llanbedrog ac Abersoch.

Abererch

Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru yma hanner ffordd ar hyd traeth godidog Abererch sy’n ymestyn am 4 milltir. O’r orsaf, ewch i lawr y ffordd fach am 0.1 milltir / 0.2 cilometr tua’r arfordir, gan fynd heibio’r maes carafanau nes cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru. Ar y traeth, ewch tua'r gorllewin am Bwllheli neu i'r dwyrain am Griccieth.

Penychain

Mae'n 1.0 milltir / 1.6 cilometr oddi yma at Lwybr Arfordir Cymru. Trowch yn syth i'r chwith ar ôl gadael yr orsaf a dilynwch y trac i fyny'r allt i fferm. Trowch i'r chwith ar ôl mynd drwy'r giât, trowch i'r dde ger giât mochyn i barhau gan ddilyn y llwybr garw yr holl ffordd at giât arall. Yna mae’r llwybr yn mynd yn fwy glaswelltog (anwybyddwch y llwybr i’r dde) nes cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru yn y twyni y tu ôl i draeth Abererch.

Cricieth

Mae adfeilion atgofus Castell Cricieth yn eich cyfarch ar Lwybr Arfordir Cymru yma 0.3 milltir / 0.5 cilometr o'r orsaf. Croeswch lein y trên yn y man pwrpasol i anelu am yr arfordir ar hyd llwybr troed drwy'r coed.

Trowch i'r chwith wrth gyrraedd y stad dai yng Ngwaun Ganol ac yna i'r chwith eto ym Mhenaber. Wrth y gyffordd T gyda Stanley Terrace cymerwch droad arall i'r chwith yna dilynwch y ffordd o gwmpas i'r dde i gyrraedd y môr. Trowch i'r chwith ar hyd Marine Crescent i gyfeiriad Porthmadog neu trowch i'r dde ar hyd Marine Terrace i fynd i gyfeiriad Pwllheli.

Porthmadog

Mae'n 0.6 milltir / 1.0 cilomedr o'r orsaf hon i fyny'r Stryd Fawr drwy dref fywiog Porthmadog i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ger yr Amgueddfa Forwrol a'r Ganolfan.

Minffordd

O’r orsaf trowch i’r chwith ar y ffordd fawr i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru i gyfeiriad Harlech neu trowch i’r dde i gerdded y bryniau isel uwchben pentref eiconig Portmeirion ac ymlaen dros y Cob i Borthmadog – lle ceir golygfeydd rhagorol ar ddiwrnod clir i fyny Aber Glaslyn tuag at Yr Wyddfa (mynydd uchaf Cymru a Lloegr).

Penrhyndeudraeth

Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ger yr orsaf ac ewch i’r de i gyfeiriad Harlech neu i’r gorllewin uwchben pentref Eidalaidd eiconig Portmeirion, gan groesi’r Cob sydd bron yn filltir o hyd, dros aber Afon Dwyryd i Borthmadog.

Llandecwyn

Camwch oddi ar y platfform i’r ffordd fawr i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru i Harlech neu croeswch Bont Briwet tuag at dref arfordirol brysur Porthmadog.

Talsarnau

Wrth adael yr orsaf trowch yn syth i'r chwith i groesi'r cledrau yn y man croesi pwrpasol. Ewch yn syth ymlaen i lawr y trac gan anelu am bentref Eidalaidd Portmeirion yr ochr arall i Aber Dwyryd a chyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar yr arglawdd.

Tygwyn

Eglwys dawel ac unig Llanfihangel y Traethau yw eich man cychwyn ar y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r chwith wrth adael yr orsaf a cherdded 0.5 milltir / 0.8 cilometr ar hyd y ffordd i bentref Ynys. Cymerwch yr ail ffordd i’r dde i gyrraedd yr eglwys.

Harlech

Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar y ffordd fawr (Ffordd Morfa) yng nghysgod Castell Harlech cyn gynted ag y byddwch yn gadael yr orsaf. Trowch i'r chwith i gyrraedd y traeth tywodlyd bendigedig drwy'r twyni a'r Warchodfa Natur Genedlaethol neu trowch i'r dde i gerdded i fyny Aber Afon Dwyryd i gyfeiriad Llandecwyn

Llandanwg

Gorsaf arall lle byddwch chi’n camu ar Lwybr Arfordir Cymru cyn gynted ag y byddwch chi’n camu oddi ar y platfform. Yna cewch ddewis - mynd i gyfeiriad Llanbedr - heibio i eglwys hynafol Sant Tanwg - neu i dref Harlech, gyda'i thraeth euraidd diddiwedd a’i chastell canoloesol ysblennydd ar ben y bryn - dynodwyd yn Safle Treftadaeth y Byd.

Pensarn

Camwch ar Lwybr Arfordir Cymru cyn gynted ag y byddwch yn gadael y platfform. Dewiswch pa ffordd i fynd - tua'r de i gyfeiriad Llanbedr, neu i'r gogledd i Harlech.

Llanbedr

Gorsaf arall sy’n union ar Lwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r chwith i fynd trwy Ynys Mochras ac ar hyd traeth Morfa Dyffryn i gyfeiriad Dyffryn Ardudwy, neu trowch i'r dde i fynd am Harlech.

Dyffryn Ardudwy

Mae taith gerdded ar hyd un o warchodfeydd bywyd gwyllt pwysicaf Cymru a thraeth godidog Morfa Dyffryn yn wobr i chi am gerdded 1.0 milltir / 1.5 cilometr i lawr Ffordd yr Orsaf o orsaf Dyffryn Ardudwy. Trowch i'r chwith wrth adael yr orsaf a daliwch ati i gerdded nes cyrraedd y traeth.

Talybont

Trowch i'r chwith oddi ar blatfform y rheilffordd a cherdded 0.15 milltir / 0.2 cilometr i lawr yr allt ar hyd Ffordd Glan-Môr i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ger y fynedfa i Barc Gwyliau Sarnfaen.

Llanaber

Mae’n daith 0.1 milltir / 0.15 cilometr i fyny'r ffordd gul i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar hyd yr A496.

Y Bermo

Mae taith gerdded hawdd dros un o nodweddion pensaernïol eiconig Cymru yn eich disgwyl yma. Croesi aber Afon Mawddach dros bont y Bermo, na ellir ond ei chroesi ar droed, ar feic neu yn y trên. Mae Llwybr Arfordir Cymru 0.1 milltir / 0.15 cilometr o’r orsaf – ewch i’r dde i lawr Ffordd y Traeth ar ôl dod oddi ar y trên.

Morfa Mawddach

O'r orsaf, cerddwch i lawr trac tarmac i gyfeiriad Y Bermo, ychydig oddi wrth y bryniau, i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i'r chwith ar draws y rheilffordd i gerdded i lawr yr aber yn ôl i gyfeiriad Fairbourne neu ewch yn syth ymlaen i groesi pont eiconig Y Bermo.

O'r fan hon hefyd gallwch gerdded yr holl ffordd i Boston ar arfordir dwyreiniol Lloegr ar hyd y Cross Britain Way- llwybr cerdded 280 milltir / 450 cilometr.

Fairbourne

Gadewch gledrau’r rheilffordd ac anelu i lawr lôn unionsyth Glan y Môr am 0.3 milltir / 0.5 cilometr nes cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar yr amddiffynfeydd morol ar yr arfordir.

Llwyngwril

Wrth ymuno â Llwybr Arfordir Cymru o’r orsaf hon ceir llwybrau tawel yr ucheldir a golygfeydd arfordirol ysblennydd i’r ddau gyfeiriad. Anelwch i'r dde er mwyn archwilio'r llwybr tuag at Dywyn, neu i'r chwith i ddilyn rhan o hen ffordd y porthmyn heibio meini hirion hynafol - olion brwydr rhwng dau gawr yn ôl y sôn - tuag at Fairbourne.

Gan droi i'r dde allan o'r orsaf, mae’n cymryd 0.2 milltir / 0.3 cilometr i fyny lôn - gan gadw Afon Gwril ar y chwith i chi - i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru yng nghanol y pentref hynafol a phrydferth hwn sydd wedi'i adeiladu o wenithfaen. Mae'r tŷ cyntaf yn y pentref yn dyddio o 1600 tra bod Gwesty Garthangharad yn dyddio o 1736.

Tonfanau

Arhosfan arall lle mae Llwybr Arfordir Cymru yn croesi reit o flaen yr orsaf. Trowch i'r dde os hoffech daith wastad ar lan y môr i Dywyn, neu trowch i'r chwith i fwynhau taith gerdded donnog bryniau De Meirionydd drwy gefn gwlad anghysbell i gyfeiriad Llwyngwril

Tywyn

Trowch i'r chwith allan o orsaf Tywyn ac ewch i lawr Ffordd y Pier am 0.3 milltir / 0.5 cilometr i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ger glan y môr.

Aberdyfi

Mae dwy daith gwbl wahanol yn disgwyl amdanoch os byddwch yn dod oddi ar y trên yn yr orsaf hon. Anelwch i'r gogledd tuag at Dywyn i gerdded llwybr pum milltir hollol fflat y tu ôl i'r twyni i Dywyn, neu ewch i'r dwyrain ar hyd llwybr ucheldirol i archwilio'r wlad uwchben dyffryn Dyfi.

Er mwyn cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru, trowch i’r dde ar ôl gadael yr orsaf ac yna i’r chwith at gefnffordd yr A493. Trowch i'r dde yma, gan fynd o dan y rheilffordd, at Lwybr Arfordir Cymru 0.5 milltir / 0.75 cilometr o'r orsaf.

Penhelig

Nid ydym wedi cynnwys yr orsaf drenau hon gan fod Aberdyfi yn ddewis arall mwy cyfleus.

Machynlleth (ym Mhowys)

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio’n union o flaen yr orsaf hon. Ewch allan o’r orsaf hyd at gefnffordd A487 a Llwybr Arfordir Cymru. Trowch i’r dde i gyfeiriad Aberdyfi ac i’r chwith i gyfeiriad Borth ac Aberystwyth.

Cymerwch ofal os byddwch yn mynd i gyfeiriad Aberdyfi oherwydd, adeg ysgrifennu hyn, roedd gwaith ffordd cysylltiedig ag adeiladu pont ffordd newydd yn golygu fod goleuadau traffig a gwyriadau byr yn weithredol.

Cyffordd Dyfi(ym Mhowys)

Llonyddwch sydd dan sylw ar y rhan anghysbell hon o Lwybr Arfordir Cymru, 1.4 milltir / 2.2 cilometr oddi wrth y platfform hir gwag yng Nghyffordd Dyfi.

Mae’r hanner cyntaf yn mynd ar hyd y llwybr gwastad sy’n dilyn trac y rheilffordd hyd at gefnffordd brysur A487 yng Nglandyfi. Trowch i’r chwith, gan gymryd gofal wrth groesi, nes cyrraedd llwybr cyhoeddus sy’n arwain at y bryniau. Yna mae angen cerdded 0.6 milltir / 0.9 cilometr drwy’r coetiroedd i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru. Yma, trowch i’r chwith drwy’r coed, pennau’r bryniau a’r dyffrynnoedd i Fachynlleth neu trowch i’r dde i gyfeiriad Borth ac Aberystwyth.

Ceredigion

Borth

Dim ond rhyw ddau gan llath yw hi o orsaf Borth i Lwybr Arfordir Cymru. Trowch i’r chwith allan o’r orsaf i lawr ffordd B4353 a chyrraedd y llwybr ar gyffordd â lôn ar y chwith. Trowch i’r chwith yma ac i’r gogledd drwy Gors Fochno a Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi tua Machynlleth, neu arhoswch ar y brif ffordd sy’n mynd drwy Borth er mwyn anelu i’r de i Aberystwyth.

Aberystwyth

Pa un ai ydych chi’n cerdded i’r gogledd neu i’r de, mae gennych ddau ddewis wrth adael gorsaf Aberystwyth.

  • Opsiwn 1 - Trowch i’r chwith am 0.2 milltir / 0.3 cilometr ar hyd Ffordd Alexandra yna Stryd y Felin (A487) nes cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Pont Trefechan - tirnod enwog yn hanes modern Cymru a’r iaith Gymraeg. Trowch i’ch chwith dros y bont ac ewch i’r de i gyfeiriad Llanrhystud ac Aberaeron. Neu ewch yn syth ymlaen yma i fwynhau’r golygfeydd arfordirol tua’r de a mynd heibio olion Castell Aberystwyth, adeilad eiconig yr Hen Goleg, y pier a’r promenâd.
  • Opsiwn 2 - Fel arall, croeswch y brif ffordd ger y goleuadau ac ewch ar hyd Terrace Road. Ewch yn syth ymlaen drwy’r dref i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar y promenâd. Yma gallwch droi i’r dde i ddringo i ben Craig Glais ac i’r gogledd i gyfeiriad Borth, neu trowch i’r chwith ac i’r de heibio’r pier i gyfeiriad Aberaeron.

Sir Benfro

Abergwaun a Wdig

Rydych chi’n cerdded ar glogwyni ysblennydd ar y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, p'un a ydych yn mynd i'r gogledd drwy dref isaf hardd Abergwaun tuag at Gasnewydd neu i'r gorllewin allan i'r pentir tuag at y goleudy godidog, ynysig ym Mhen Caer. Trowch i'r dde o'r orsaf i lawr Station Hill. Pan gyrhaeddwch gylchfan ewch i'r chwith tuag at y môr a Llwybr Arfordir Cymru. Mae’n 0.1 milltir / 0.2 cilometr o'r orsaf

Aberdaugleddau

O Aberdaugleddau, ewch i'r gorllewin tuag at Sandy Haven hardd neu i'r dwyrain ar ran annisgwyl o'r llwybr sy’n ymddangos pe bai’n osgoi llawer o ddiwydiant yr aber. I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith allan o'r orsaf, gan sicrhau bod archfarchnad Tesco dros y ffordd ar y dde i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru wrth y gylchfan mewn 0.1 milltir / 0.2 cilometr.

Doc Penfro

Rhwng 1814 a 1926 adeiladodd gweithwyr yn Noc Penfro bum cwch hwylio Brenhinol a 263 o longau eraill. Mae'r dref yn dal i fod yn enwog am adeiladau ac amddiffynfeydd iard ddociau'r Llynges Frenhinol o'r 19eg ganrif.

O'r orsaf, trowch i'r dde ar y B4322 (Stryd y Dŵr) a byddwch yn cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru mewn 0.1 milltir / 0.2 cilometr wrth gylchfan. Yma, gallwch fynd yn syth ymlaen i groesi Pont Cleddau tuag at Arberth neu droi i'r chwith i anelu tuag at Benfro.

Penfro

Man geni canoloesol ysblennydd Harri Tudur, Castell Penfro, y rhannau cynharaf ohonynt bron yn 1,000 o flynyddoedd oed yw eich man cychwyn ar Lwybr Arfordir Cymru ym Mhenfro. Er mwyn ei gyrraedd, trowch i'r chwith ar yr A4139 (ar hyd Ffordd yr Orsaf, yna’r Stryd Fawr ar ôl y gylchfan) a'i dilyn am 0.7 milltir / 1.2 cilometr yr holl ffordd i'r castell.

Llandyfái

Cyn gadael Llandyfái ar gyfer yr arfordir, ystyriwch gymryd peth amser i grwydro Palas yr Esgobion - rhyw fath o gartref gwyliau canoloesol i Esgobion Tyddewi. Mae’n 500 metr / 660 llath o’r orsaf reilffordd.

I gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru 2.5 milltir / 4.0 cilomedr i ffwrdd ymunwch â'r A4139 am gyfnod byr cyn troi i'r dde i lawr y B4584 tuag at Freshwater East. Cymerwch ofal gan nad oes palmant ar ôl gadael y pentref. Dilynwch y trac llwybr troed ar y chwith gan fynd heibio Fferm Westhill, croeswch ddau gae i fynd ar lôn i gyffordd â'r B4584 ym Mhortclew. 

Trowch i'r chwith ac mewn hanner cilomedr byddwch yn cyrraedd Freshwater East, trowch i'r dde yma ar Allt Trewent ac arhoswch ar y ffordd hon am 0.6 milltir / 1.0 cilometr, neu ewch ag un o'r llwybrau troed drwy'r twyni i'r arfordir.

Maenorbŷr

Mae'ch taith gerdded 1.5 milltir / 2.5 cilometr o'r orsaf i Lwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio’r pentref tlws a'r castell Normanaidd godidog ym Maenorbŷr.

Wrth fynd i'r de o'r orsaf ewch i lawr Ffordd yr Orsaf heibio Parc Gwledig Maenorbŷr nes i chi gyrraedd yr A4139. Ewch i'r dde a chroeswch y ffordd o flaen y capel a dilynwch y llwybr troed i lawr y lôn, ar draws y caeau. Ewch i'r dde pan fyddwch yn ymuno â lôn, yna cymerwch y chwith cyntaf dros y grid gwartheg tuag at Fferm y Parc. 

Dilynwch yr ail lwybr troed ar y chwith cyn y fferm gan fynd heibio i golomendy canoloesol ac o gwmpas ymyl Castell Maenorbŷr i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru wrth y traeth.

Penalun

Mae gorsaf Penalun ar lwybr Llwybr Arfordir Cymru sy'n cael ei ddefnyddio yn ystod penllanw neu os yw safleoedd tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn cael ei ddefnyddio,

Llwybr llanw isel / dim tanio byw ar Faes Tanio’r Weinyddiaeth Amddiffyn - Ar unrhyw adeg heblaw llanw uchel a phan nad yw'r Maes tanio yn cael ei ddefnyddio, trowch i'r dde o'r orsaf, cymerwch y llwybr troed dros y Groesfan Reilffordd a dilynwch y llwybr ag arwyneb i Lwybr Arfordir Cymru ar Draeth y De.

Llanw uchel / llwybr amgen i’r gorllewin yn ystod tanio byw Os yw'n llanw uchel, neu os yw'r maes tanio yn cael ei ddefnyddio, trowch i'r chwith o'r orsaf a dilynwch y ffordd am 0.4 milltir / 0.6 cilometr cyn dilyn y llwybr troed cyntaf sydd ag arwydd y Llwybr Cenedlaethol ar y chwith i ymuno â'r llwybr. 

Llanw uchel / llwybr amgen i’r dwyrain yn ystod tanio byw Os ydych yn cerdded i'r dwyrain tuag at Ddinbych-y-pysgod, trowch i'r dde o'r orsaf gan gerdded 550 llath / 500 metr nes i chi gyrraedd trac graean ar y dde. Ewch i'r dde o fwthyn a chroeswch y rheilffordd yn ofalus i lwybr wedi'i ffensio. Parhewch yn syth ymlaen wrth ochr y rheilffordd gan fynd i gyfeiriad y dde 90 llath / 80 metr ar ôl pasio'r fynedfa i Glwb Golff Dinbych-y-pysgod. Ewch ymlaen i fyny'r allt wrth ochr maes parcio Traeth y De a phan fydd y  lôn yn troi i'r chwith, ewch â'r llwybr troed ar y dde. Pan welwch chi lwybr yn dod i fyny o'r traeth, rydych wedi ail-ymuno â'r prif lwybr.

Dinbych-y-pysgod

Mae dau opsiwn i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru o orsaf Dinbych-y-pysgod, un tuag at Draeth y Gogledd darluniadwy, a'r llall tuag at Draeth y De sy'n filltir a hanner o Ddinbych y Pysgod.

I gyrraedd Traeth y Gogledd, trowch i'r chwith o faes parcio'r orsaf a mynd 0.25 milltir / 0.4 cilometr i lawr Stryd Warren i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru. Wrth gymryd ychydig o ddargyfeiriad, byddwch yn gweld olion castell Dinbych-y-pysgod ar y pentir sydd â golygfeydd godidog o Ynys Bŷr. Yna gadewch Dinbych-y-pysgod drwy goetiroedd arfordirol tuag at y traeth tywodlyd hardd yn Saundersfoot, ac Amroth lle gallwch weld olion ffosiledig coedwig 5,000 mlwydd oed.

I gyrraedd Traeth y De, gadewch faes parcio'r orsaf a mynd i'r dde i lawr Heol yr Orsaf, I gael mynediad i'r llwybr llanw uchel cymerwch y tro cyntaf ar y dde tuag at y "Cwrs Golff". Neu i gyrraedd prif lwybr Llwybr Arfordir Cymru, ewch yn syth ymlaen i Draeth y De Dinbych-y-pysgod ac yna i'r chwith ar waelod y llethr a pharhewch ymlaen i'r gorllewin tuag at Benalun, Lydstep a Maenorbŷr (gallwch ddal trên yn ôl o Benalun neu Maenorbŷr).

Saundersfoot a Cilgeti

Nid ydym yn argymell defnyddio gorsaf Saundersfoot i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru am ei fod yn gul ac yn droellog heb ddim pafin.

Ond, os byddwch yn dod oddi ar y trên yng ngorsaf Cilgeti mae gwasanaeth bws bob awr (gyferbyn â siop y Co-Op) i Saundersfoot a bysiau dwyffordd rheolaidd (381) o Saundersfoot neu Ddinbych-y-pysgod. Mae opsiynau dychwelyd llai aml hefyd (y gwasanaeth 351) o Amroth a Phentywyn.

Sir Gaerfyrddin

Caerfyrddin

Mae llwybrau caeau tonnog, llwybrau gwledig ac isffyrdd yn bennaf yn arwain i lawr ochr orllewinol Aber Afon Tywi i bentref tawel Llansteffan gyda’i gastell adfeiliedig a’i draeth tlws. Yn y cyfamser mae ochr ddwyreiniol yr aber yn archwilio cymoedd ac ucheldiroedd cefn gwlad Sir Gaerfyrddin ar ôl i chi adael y dref. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru o flaen yr orsaf.

Glan-y-fferi

Ewch oddi ar y trên yma i dreulio diwrnod yn archwilio cadarnleoedd amaethyddol gwledig tonnog Sir Gaerfyrddin, mewn unigedd i raddau helaeth, i'r ddau gyfeiriad. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y golygfeydd ar draws Aber Tywi i Lansteffan gyda'i draeth a'i gastell - cafodd taith y fferi yma ei henwi'n un o'r rhai mwyaf trawiadol yn y byd yn ddiweddar gan bapur newydd yr Independent. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar y ffordd o flaen yr orsaf.

Cydweli

Unwaith i chi oddi ar y brif ffordd tu hwnt i Gydweli a’i gaer ganoloesol (gweler Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW), mae'r llwybr i'r dwyrain yn dawel drwy Goedwig Pen-bre ac ar hyd ehangder aur enfawr traeth Cefn Sidan. Mae'r daith i'r gorllewin tuag at Lanyfferi yn mynd drwy gefn gwlad tawel iawn uwchlaw aberoedd Gwendraeth a Tywi. Mae’n hawdd iawn cyrraedd y llwybr o orsaf Cydweli. Cerddwch allan o'r orsaf ar Heol y Cei ac rydych ar Lwybr Arfordir Cymru.

Pen-bre a Phorth Tywyn

Dyma fan cychwyn ar gyfer dwy daith gerdded gyferbyniol. Anelwch i'r dwyrain tuag at Lanelli drwy'r Parc Arfordirol y Mileniwm poblogaidd iawn, sydd wedi'i darmacio'n bennaf. Neu dilynwch lwybr tawelach i'r gorllewin ar hyd tywod eang traeth Cefn Sidan, trwy Goedwig Pen-bre i Gydweli a'i gastell hynafol. Mae'n 0.2 milltir / 0.3 cilometr i gyrraedd y llwybr. Gadewch yr orsaf trwy'r maes parcio ac i lawr Heol Ashburnham i gyrraedd cylchfan. Croeswch yma tua'r goleudy i ymuno â'r llwybr ger y marina.

Llanelli

Mae Llwybr Arfordir Cymru yma yn cynnig taith gerdded ddymunol a hygyrch i'r ddau gyfeiriad ar hyd llwybr beicio palmantog a rennir o Barc Arfordirol y Mileniwm poblogaidd.

Mae’n 0.5 milltir / 0.9 cilometr o'r orsaf. Trowch i'r chwith ar Gilgant Great Western ac i'r chwith unwaith eto i Heol Glanmor (peidiwch â throi i'r dde i George Street) nes i chi gyrraedd cylchfan. Trowch i'r dde yma i Stryd y Môr, gan ddilyn yr holl ffordd i gylchfan eithaf mawr. Croeswch ar y gylchfan i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru.

Bynea

Ewch tua'r De-ddwyrain am 0.6 milltir / 1.0 cilomedr i lawr y B4297 (Heol y Bwlch) nes i chi gyrraedd maes parcio Porth Bynea ar y dde. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru drwy'r maes parcio i ymuno â Pharc Arfordirol y Mileniwm i Lanelli a Phorth Tywyn lle gallwch ddal trên yn ôl. Neu trowch i'r chwith i lawr Heol Yspitty lle byddwch yn croesi Pont Llwchwr yn fuan ac yn cyrraedd Castell Casllwchwr.

Abertawe

Abertawe

Ewch oddi ar y trên yma am dro gwastad hynod hygyrch o'r marina o amgylch Bae Abertawe i bentref glan môr hyfryd y Mwmbwls. Neu ewch i’r dwyrain drwy ailddatblygiad parhaus y marina a’r brifysgol ac ar hyd Camlas segur Tennant, heibio i Gors Crymlyn – cartref pry cop mwyaf Prydain!

Cerddwch 0.9 milltir / 1.5 cilometr yn syth allan o orsaf Abertawe i lawr y B4489 (Stryd Fawr) gan basio gweddillion Castell Abertawe ar eich ochr chwith. Ewch yn eich blaen i lawr Stryd y Gwynt, croeswch dros yr A4067 prysur ac ewch yn syth i lawr Somerset Place i groesi Afon Tawe drwy'r bont droed. Ewch yn syth ymlaen i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar gornel finiog Doc Tywysog Cymru.

Tre-gŵyr

Oddi yma mae'r llwybr i arfordir Gogledd Gŵyr yn wastad i raddau helaeth ac yn cael ei ddominyddu gan rai hen bentrefi diwydiannol a physgota dymunol cyn dod yn fwy gwledig, gan gynnwys Castell Weobley (gweler Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW).

Ewch i'r gorllewin trwy Gasllwchwr ac mae'r rhan fwyaf o'r llwybr ar hyd llwybr beicio poblogaidd drwy dir diffaith adferedig ym Mharc Arfordirol y Mileniwm. Ewch yn syth i lawr Ffordd yr Orsaf gan groesi cyffordd wrth y Commercial Hotel ar Heol Sterry. Croeswch dros gylchfan ac ewch ychydig i’r dde ac yna ymlaen i Heol Bryn y Môr. Mae'n 0.8 milltir / 1.3 cilometr i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru.

Arfordir De Cymru

Llansawel

Mae gorsaf Llansawel yn gyfleus gan ei bod yn cynnig opsiynau i ddilyn y llwybr ucheldirol uwchben Port Talbot lle mae golygfeydd pellgyrhaeddol ar draws Bae Abertawe, neu fwynhau'r llwybr ar hyd Traeth Hyfryd Aberafan i mewn i Bort Talbot ac ymlaen i gyfeiriad Porthcawl.

O'r orsaf, trowch i'r dde ar Heol Ynysmaerdy am 0.1 milltir / 0.2 cilometr cyn cyrraedd y gyffordd â'r A474 (Ffordd Castell-nedd). Trowch i'r dde ac ewch yn syth i'r dde i lawr y ffordd hon am 0.7 milltir / 1.1 cilometr i gyrraedd y man lle mae'r llwybr yn hollti, wrth gylchfan brysur ar y gyffordd â'r A48.

Parcffordd Port Talbot

Mae'r ffordd allanfa i'r maes parcio (Stryd Prenderwen) yn cysylltu'n uniongyrchol â Llwybr Arfordir Cymru o fewn ychydig gannoedd o lathenni wrth y gylchfan ar Ffordd yr Harbwr. Trowch i'r dde i gerdded ar hyd traeth Aberafan tuag at Abertawe ac i'r chwith heibio'r gwaith dur i gyrraedd Gwarchodfa Natur Cynffig a'r clogwyni isel i Borthcawl.

Ynys Y Barri

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn mynd heibio i'r dde o flaen gorsaf reilffordd Y Barri. Trowch i'r chwith i ddarganfod hyfrydwch Ynys y Barri, neu ewch i’r dde i fynd tuag at Benarth.

Penarth

Yn cael ei hadnabod fel yr Ardd ar lan y Môr yn yr oes a fu, mae Penarth wedi llwyddo i gadw ei swyn hyd heddiw ac mae’n fan cychwyn gwych ar gyfer taith gerdded. Croeswch y ffordd o'r orsaf rheilffordd a dilynwch y llwybr troed rhwng oriel gelf Tŷ Turner a Gwesty Glendale i lawr trwy Barc Alexandra i gyrraedd Llwybr Arfordir Cymru gan Bier Penarth 0.3 milltir / 0.5 cilometr i ffwrdd.

Bae Caerdydd

O Orsaf Bae Caerdydd mae gennych ddewis i ddilyn rhan boblogaidd o'r llwybr heibio Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd ac ar draws y morglawdd llanw tuag at Benarth (lle gallwch ddal trên yn ôl i Gaerdydd Canolog). Neu, croeswch draw i Heol Hemingway i ymuno â'r llwybr tuag at y morglawdd hir anghysbell i Gasnewydd. Mae Llwybr Arfordir Cymru dros y ffordd (Rhodfa Lloyd George) o'r orsaf.

Cas-gwent

Castell 600 mlwydd oed godidog (gweler Cynnig mynediad 2-am-1 Trafnidiaeth Cymru i safleoedd CADW) sy’n dominyddu tref farchnad bert Cas-gwent ym mhen deheuol Llwybr Arfordir Cymru. Ac ni allai gorsaf reilffordd Cas-gwent fod yn fwy cyfleus. Ewch yn syth i lawr Heol yr Orsaf o'r orsaf i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru gan archfarchnad Tesco.