Cyrraedd y llwybr ar drafnidiaeth gyhoeddus

Opsiynau trafnidiaeth ar y llwybr ac o’i amgylch

Gwybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ymchwilio a chynllunio’ch opsiynau trafnidiaeth
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Y peth pwysicaf y bydd angen i chi ei ystyried wrth ymweld â’r llwybr yw sut y byddwch chi’n teithio o gwmpas Cymru. 

Ar wahân i gerdded (y ffordd fwyaf amlwg o fynd o un lle i’r llall ar y llwybr), bydd angen i chi ystyried dulliau teithio eraill. Gydag 870 milltir / 1,400 km o lwybr i’w ystyried, dyma wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu i ymchwilio a chynllunio’ch amser ar y llwybr.  Darllenwch ymlaen i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol: 

  • sut i gyrraedd Cymru
  • sut i gyrraedd pob rhanbarth o’r llwybr
  • y gwahanol opsiynau trafnidiaeth unwaith y byddwch chi ar y llwybr

Os gwelwch chi unrhyw beth nad yw’n gywir neu sydd wedi dyddio, cysylltwch â ni

Sut i gyrraedd Cymru

Mae Cymru’n cael ei gwasanaethu’n dda gan nifer o brif draffyrdd, meysydd awyr, trenau a chysylltiadau fferi.

Gallwch deithio i Gymru drwy’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar drên, ar fws ac mewn car. Mae’r prif lwybrau rheilffordd uniongyrchol i Gymru yn cynnwys gwasanaeth cyflym a mynych o Paddington, Llundain, drwy Dde-orllewin Lloegr, gyda chysylltiadau ymlaen i Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.  

Mae yna gysylltiadau trên hefyd o orsaf Euston yn Lundain i Fanceinion ac ar hyd arfordir Gogledd Cymru i Gaergybi. Darllenwch fwy am gyrraedd Cymru o bob cwr o’r DU a thramor

Traveline Cymu

Traveline Cymru yw gwasanaeth gwybodaeth trafnidiaeth gyhoeddus Cymru i’ch helpu i gynllunio’ch taith gan ddefnyddio bysiau, coetsys a threnau yn ogystal â llwybrau cerdded a beicio. Mae’n ddelfrydol ar gyfer cynllunio opsiynau trafnidiaeth ac yn cynnwys nodweddion allweddol fel y canlynol: 

  • Ap ar gyfer dyfeisiau symudol a gwasanaethau testun – er mwyn cael amseroedd eich bws nesaf yn uniongyrchol
  • Cynlluniwr teithio – er mwyn cynllunio eich taith i gael opsiynau ar gyfer gwahanol ddulliau teithio i’ch cyrchfan
  • Street View – er mwyn gweld sut olwg sydd ar arosfannau bysiau neu orsafoedd trên ar Google Maps gan ddefnyddio’r swyddogaeth Street View gydag amserlen gyfredol
  • Mapiau rhwydwaith – er mwyn gwirio i ble mae trenau Trafnidiaeth Cymru a bysiau TrawsCymru yn mynd

Sut i gyrraedd gwahanol rannau o’r llwybr

Drwy ddefnyddio gwahanol ddulliau teithio, cewch gyfle unigryw i archwilio tirwedd amrywiol Cymru, gan gynnwys trefi a phentrefi arfordirol hardd, dinasoedd prysur, a lleoliadau trefol. 

Ar y trên

Mae Trafnidiaeth Cymru yn darparu’r gwasanaeth trenau ar draws Cymru a’r Gororau yn ogystal â’r ddarpariaeth bysiau. Mae rhai rhannau o’r llwybr yn haws eu cerdded oherwydd bod digon o gysylltiadau trenau a gallwch fwynhau arfordir Cymru o bersbectif gwahanol. Darllenwch ein canllaw ar sut i ddod o hyd i’ch ffordd o’r gorsafoedd trên i’r llwybr – a fydd yn ei gwneud hi’n haws ac yn gyflymach i ddechrau eich taith gerdded.  

Ar y bws

Mae yna amrywiaeth o wahanol opsiynau bws i’w cymryd wrth gerdded y llwybr. 

Bws fflecsi

Gall y gwasanaeth bysiau ar hyd y llwybr amrywio yn dibynnu ar yr ardal. Mae bws fflecsi yn fenter trafnidiaeth ymateb i alw gan Trafnidiaeth Cymru mewn rhai rhannau o Gymru mewn partneriaeth â chynghorau lleol a gweithredwyr bysiau. 

Mae’r fenter ar waith mewn rhai ardaloedd o Sir Benfro a rhai rhannau o’r llwybr ym Mhen Llŷn ac Eryri. Mae cynlluniau ymateb i alw eraill yn cynnwys Bws Casnewydd (mwy o fanylion o dan adran Casnewydd).

Yn lle gweithredu llwybr sefydlog ac amserlen benodol, gall bysiau fflecsi godi a gollwng teithwyr o fewn ardal wasanaeth ddynodedig yn seiliedig ar archebion. Mae llawer o gerddwyr y llwybr yn defnyddio’r bws fflecsi oherwydd ei fod yn ffordd fwy hyblyg a fforddiadwy o fynd o un lleoliad i’r llall. Gall y bws eu codi yn agos at eu man gorffen, nad yw bob amser ar lwybr bws sefydlog.

Bysiau TrawsCymru

Mae gwasanaeth bysiau TrawsCymru yn cynnig gwasanaethau bysiau ar gyfer pellteroedd hirach ond maent hefyd yn ddelfrydol ar gyfer teithiau byr rhwng trefi. Mae llwybrau T1, T2 a T6 a chyrchfannau dethol wedi’u hintegreiddio â theithiau rheilffordd a gallwch brynu tocyn rheilffordd a bws wedi’u cyfuno.

Mae ap TrawsCymru yn eich helpu i gynllunio eich taith, prynu tocynnau a dilyn taith eich bws. Y llwybrau TrawsCymru canlynol yw’r mwyaf perthnasol ar gyfer y llwybr:

  • T1, T1A, T1X Caerfyrddin i Aberystwyth
  • T2 Bangor i Aberystwyth
  • T5 Hwlffordd i Aberystwyth
  • T11 Hwlffordd i Abergwaun
  • T22 Caernarfon i Flaenau Ffestiniog trwy Borthmadog
  • T28 Aberystwyth i Fachynlleth

Ar feic

Mae rhannau o’r llwybr hefyd yn rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, lle gellir beicio rhai rhannau o’r llwybr.  Fodd bynnag, llwybr troed yw’r llwybr yn bennaf, y gellir ei gyrraedd ar droed yn unig. Dilynwch arwyddion lleol a chadwch at lwybrau sydd wedi’u marcio oni bai fod mynediad ehangach ar gael.

Gwiriwch ymlaen llaw i weld a fydd bysiau’n caniatáu cludo beiciau – yn aml mae’n ôl disgresiwn y gyrwyr. Gallwch fynd â beic ar drên, ond efallai y bydd lleoedd yn gyfyngedig.

Mewn car

Mae rhannau o’r llwybr yn anodd eu cyrraedd ar drafnidiaeth gyhoeddus, gan olygu nad oes gennych ddewis ond gyrru i’r llwybr. Mae llawer o gerddwyr yn cymryd dau gar ac yn parcio ar y naill ben a’r llall i’w taith gerdded. Cynlluniwch eich taith gerdded drwy edrych ar Google Street View i weld a oes lleoedd parcio addas yn agos at y llwybr. 

Mae’r llwybr yn mynd trwy lawer o leoliadau lle mae pobl yn byw ac yn gweithio gerllaw. Cofiwch barcio’n gyfrifol drwy beidio â rhwystro mynedfeydd na dreifiau. Nid oes gennym unrhyw wybodaeth am barcio ceir ar hyd y llwybr.

Teithio hygyrch

Mae rhai rhannau hygyrch o’r llwybr y gellir cael mynediad iddynt gydag offer symudedd lle mae lleoedd parcio dynodedig i bobl anabl. Er enghraifft, gallwch ddarganfod cymal Gogledd Cymru gydag offer symudedd (ychydig dros 40 milltir) gan ddefnyddio mannau parcio dynodedig i bobl anabl sydd eisoes yn bodoli a gorsafoedd trên. 

Edrychwch ar wefan Trafnidiaeth Cymru am wybodaeth teithio hygyrch[ fel toiledau hygyrch a theithio gyda sgwter symudedd.

Darparwyr gwyliau cerdded

Mae cwmnïau sy’n arbenigo mewn gwyliau cerdded wedi’u trefnu ac mae rhai’n darparu cludiant ymlaen i’ch rhan nesaf o’r llwybr. Nid ydym yn cymeradwyo nac yn argymell unrhyw fusnesau ac mae’n ddoeth ymchwilio cyn archebu.  Ewch i Trefnwyr gwyliau – Cludo bagiau

Gwybodaeth ddefnyddiol arall

Gall yr awgrymiadau canlynol eich helpu i wneud y gorau o’ch amser ar y llwybr. 

Gwiriwch y llwybr ar-lein

Defnyddiwch Google Street View i wirio sut olwg sydd ar y llwybr a hefyd ymchwilio a chynllunio eich taith cyn gadael cartref. Mae’n ffordd wych o chwilio am leoedd lleol i fwyta, yfed ac aros a lleoedd i barcio sydd gerllaw er mwyn cael y profiad gorau ar y llwybr. 

Mannau gwefru cerbydau trydanol 

Os oes gennych chi gar trydan, cofiwch lawrlwytho unrhyw apiau perthnasol i ddod o hyd i bwyntiau gwefru cerbydau trydan ger y llwybr. 

Cadwch lygad ar draffig ar y ffyrdd 

Cadwch lygad ar draffig ffyrdd yng Nghymru drwy wirio Traffig Cymru am rybuddion traffig, gwaith ffordd wedi’i gynllunio a chamerâu traffig byw i’ch helpu i gynllunio’ch taith mewn car.

Llifogydd ger yr arfordir

Mae’r arfordir yn arbennig o agored i niwed yn ystod tywydd stormus, gyda llifogydd arfordirol yn effeithio ar gysylltiadau trafnidiaeth lleol a cherdded y llwybr. Cadwch lygad ar lifogydd ger yr arfordir a chofrestrwch i dderbyn rhybuddion llifogydd

Lleolwch eich hun mewn canolfannau trafnidiaeth

Cynlluniwch eich taith gerdded lle mae opsiynau trafnidiaeth ar gael i dreulio amser ar y llwybr heb straen. Mae ein tablau pellter yn rhoi pellteroedd i chi rhwng mwy na 200 o leoliadau ar hyd y llwybr. 

Cerddwch i’ch trafnidiaeth gyhoeddus o ddewis

Ewch ar fws neu drên i fan cychwyn eich taith gerdded ac yna cerddwch i’ch man gorffen. Mae hyn yn osgoi straen colli’r bws, trên neu gysylltiad olaf ar ddiwedd diwrnod caled o gerdded.

Ymchwiliwch i opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus

Gall trafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig neu’n cynnig llai o wasanaeth, yn enwedig mewn rhannau gwledig o’r llwybr. Rydym yn argymell gwirio amserlenni lle bo modd, yn enwedig yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf. Gwiriwch ymlaen llaw i ofyn a ganiateir cŵn ar fysiau (fel arfer yn ôl disgresiwn y gyrrwr).

Lawrlwythwch apiau teithio 

Lawrlwythwch apiau teithio cyn i chi adael, fel fflecsi, TrawsCymru a Traveline Cymru, i wneud cynllunio’n haws gyda rhybuddion teithio ac amserlenni cyfredol wrth fynd.

Tocynnau a gostyngiadau

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cynnig amrywiaeth eang o docynnau a phrisiau i’w prynu ar-lein, ar ap Trafnidiaeth Cymru neu mewn gorsafoedd. Mae yna amryw o opsiynau o docynnau ar gyfer teithio ar drenau a bysiau yn ogystal â chyfuniad o deithio ar fws a thrên, a hwylio a rheilffordd. 

Mae gostyngiadau ar gyfer teithio ar wasanaethau bws a rheilffordd ar gael i’r rhai dros 60 oed sydd â phrif gyfeiriad yng Nghymru. Efallai y codir pris tocyn plentyn ar y rhai sydd â chonsesiwn o Loegr neu’r Alban – rydym yn argymell gwirio gyda’r gweithredwr ymlaen llaw.

Gofynnwch i gymuned Llwybr Arfordir Cymru 

Gofynnwch i gyd-gerddwyr yng nghymuned swyddogol Llwybr Arfordir Cymru ar Facebook, sydd ar gyfer aelodau yn unig, lle gallwch ofyn cwestiynau i bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o gerdded y llwybr, yn ogystal â gwneud eich awgrymiadau ac argymhellion eich hun o ran ble i gerdded. Gallwch ddisgwyl llawer o anogaeth ac ysbrydoliaeth ochr yn ochr â chyngor cerdded ymarferol fel sut i fynd o un rhan o’r llwybr i’r llall.

Sut i gyrraedd arfordir Gogledd Cymru

Rhwng ffin Cymru â Chaer a dinas brifysgol Bangor, gallwch gerdded y rhan hon o’r llwybr gan ddefnyddio’r trenau a’r bysiau sy’n gweithredu ar hyd arfordir Gogledd Cymru ac i Ynys Môn. Mae’r llwybr yn mynd trwy ffiniau awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy. 

Mae mwyafrif y rhan hon yn wastad ac wedi’i tharmacio, neu ar hyd promenadau, ac mae’n rhedeg ochr yn ochr â thraffordd Gogledd Cymru, a elwir yn lleol yn A55 – y brif ffordd sy’n cysylltu Caer â Gogledd Cymru. Mae’r A55 yn darparu mynediad da i’r holl brif drefi arfordirol, lle mae meysydd parcio amrywiol sy’n cael eu rheoli gan awdurdodau lleol Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Chonwy.  

Defnyddio trenau ar hyd arfordir Gogledd Cymru

Mae pwynt gogleddol y llwybr ar ffin Cymru â Chaer, canolfan drafnidiaeth bwysig gyda chysylltiadau trên ag arfordir Gogledd Cymru. Defnyddiwch y gwasanaeth trên mynych i gerdded y rhan hon o’r llwybr. 

Defnyddio bysiau ar hyd arfordir Gogledd Cymru

Gyda chysylltiadau â’r A55, mae nifer o fysiau’n gweithredu i fyny ac i lawr arfordir Gogledd Cymru, gyda chanolfannau trafnidiaeth mawr fel y Rhyl, Llandudno a Bangor ar hyd y ffordd.

Beicio ar hyd arfordir Gogledd Cymru

Mae mwyafrif y llwybr ar ran Gogledd Cymru yn dilyn Llwybr Arfordir Gogledd Cymru rhwng Caer a Chaergybi.

Sut i gyrraedd Ynys Môn

Gallwch deithio i Ynys Môn ar yr A55 a thrwy groesi afon Menai, y corff dŵr sy’n gwahanu Ynys Môn a thir mawr Cymru. Ewch i Croeso Môn am ragor o wybodaeth

Byddwch chi’n croesi un o ddwy bont i gyrraedd a gadael Ynys Môn, sef: 

  • Pont Grog y Borth ar yr A5, sy’n cludo traffig ffyrdd a cherddwyr i’r ynys trwy dref Porthaethwy
  • Pont Britannia, sy’n cludo traffig ffyrdd a threnau

Weithiau mae cyfyngiadau ar gerbydau wrth groesi Pont Menai, ac efallai y bydd angen i chi eu hystyried wrth gynllunio’ch ymweliad. 

Mae gwasanaethau trên uniongyrchol o Gaerdydd Canolog a Birmingham New Street (trwy Gaer ac Amwythig) ar y gwasanaeth rhwng Gogledd a De Cymru a Llinell Arfordir Gogledd Cymru. Mae yna wasanaeth cyfyngedig hefyd sy’n rhedeg o Faes Awyr Manceinion trwy orsaf Piccadilly Manceinion. 

Mae rhan Ynys Môn o’r llwybr yn ynys, sy’n ei gwneud yn llwybr cerdded cylchol poblogaidd (tua 132 milltir o hyd). Yn aml, bydd pobl yn dechrau yn y man cychwyn swyddogol yng Nghaergybi yng ngogledd-orllewin yr ynys, gan mai dyma ganolfan drafnidiaeth bwysig ar gyfer llongau fferi i Ddulyn, trenau a bysiau. 

Defnyddio’r trên ar Ynys Môn

Mae trenau’n gwasanaethu Ynys Môn ond dim ond pedair gorsaf sydd ger y llwybr ac mae rhai ohonynt yn arosfannau ar gais.  

Defnyddio’r bws ar Ynys Môn

Rydym yn argymell ymchwilio a chynllunio eich taith ar y rhan hon o’r llwybr oherwydd gwasanaeth bysiau cyfyngedig mewn ardaloedd mwy gwledig a gwasanaeth bysiau llai neu ddim gwasanaeth bysiau o gwbl ar y Sul. 

Yn ne-ddwyrain Ynys Môn, mae grŵp cymunedol Cynghrair Seiriol yn cynnig gwasanaeth bws mini cymunedol sy’n gweithredu rhwng Biwmares, Llanddona a Phenmon gydag arosfannau ar gais ac arosfannau wedi’u hamserlennu. Nod y gwasanaeth bws mini yw ategu’r gwasanaeth bws presennol a weithredir gan Arriva. 

Sut i gyrraedd arfordir Llŷn ac Eryri

Mae’r rhan hon o’r llwybr rhwng Bangor a Machynlleth. Gallwch gyrraedd Gwynedd ar fws, ar drên ac mewn car. Mae gwasanaethau trên uniongyrchol yn mynd â chi i gyrchfannau arfordirol poblogaidd Gogledd Cymru o’r rhan fwyaf o’r DU. Cynlluniwch eich ymweliad ag Eryri 

Defnyddio’r trên ar arfordir Llŷn ac Eryri 

Gallwch gerdded 100 milltir o’r llwybr gan ddefnyddio’r trên rhwng Pwllheli ac Aberystwyth gan ddefnyddio Lein y Cambrian, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru. Mae hwn yn benwythnos delfrydol i ffwrdd yn archwilio a cherdded y rhan boblogaidd hon o’r llwybr. 

Defnyddio’r bws ar arfordir Llŷn ac Eryri

Mae gwasanaeth bws fflecsi yn cwmpasu rhan o’r darn hwn o’r llwybr rhwng Trefor a Phwllheli. Archebwch eich lle ar y bws a bydd yn eich casglu yn y mannau codi a gollwng o’ch dewis. 

Beicio ar arfordir Llŷn ac Eryri

Gallwch feicio’r llwybr ar lwybr beicio Lôn Las Menai rhwng tref hanesyddol Caernarfon a phentref y Felinheli, tua 4.5 milltir / 6.5 km. Gweler y llwybr hygyrch o’r Felinheli i Gaernarfon

Sut i gyrraedd Ceredigion

Rhwng Machynlleth a Thraeth Poppit, mae rhan Ceredigion yn dilyn llinell reilffordd arfordirol Lein y Cambrian, sy’n darparu gwasanaeth rheilffordd rheolaidd sy’n cysylltu Aberystwyth â Llundain, Lerpwl, Manceinion a dinasoedd eraill ledled y DU, trwy Birmingham International (maes awyr Birmingham). Cynlluniwch eich taith i Geredigion

Gallwch deithio’r rhan boblogaidd hon o’r llwybr yn gyfforddus ar drên, coets neu fws. Mae gwasanaeth bysiau TrawsCymru yn cysylltu gogledd a de Ceredigion â Sir Benfro ac â Chaerdydd a Chaerfyrddin. 

Defnyddio’r trên yng Ngheredigion 

Gallwch gerdded rhannau o gymal Ceredigion o’r llwybr gan ddefnyddio’r trên ar Lein y Cambrian, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru. Defnyddiwch Lein y Cambrian, a weithredir gan Trafnidiaeth Cymru, i gerdded 100 milltir rhwng Pwllheli ac Aberystwyth. 

Gall teithwyr brynu tocyn diwrnod Crwydro Arfordir y Cambrian. Mae’r tocynnau hyn hefyd yn ddilys ar wasanaethau bysiau yn y rhanbarth. 

Defnyddio’r bws yng Ngheredigion

Gellir defnyddio’r llwybrau TrawsCymru canlynol i gerdded y llwybr: 

  • T1, T1A, T1X Caerfyrddin i Aberystwyth
  • T2 Bangor i Aberystwyth
  • T5 Hwlffordd i Aberystwyth
  • T28 Aberystwyth i Fachynlleth

Mae cysylltiadau bysiau lleol i weddill y sir hefyd.

Sut i gyrraedd Sir Benfro

Rhwng Traeth Poppit yng ngogledd Sir Benfro ac Amroth yn y de, mae hon yn rhan adnabyddus iawn o Lwybr Arfordir Cymru, yn Llwybr Cenedlaethol, ac yn rhan o unig Barc Cenedlaethol arfordirol y DU.  Gallwch gyrraedd yma ar long fferi (o Iwerddon), ar y trên, gan ddefnyddio gwasanaethau bysiau’r arfordir, ac mewn car. 

Mae Rheilffordd y Great Western yn rhedeg trenau o Paddington yn Llundain, Bryste a De-orllewin Lloegr i Gaerfyrddin ac yna ymlaen i drên Trafnidiaeth Cymru ar gyfer gwasanaethau i Sir Benfro. 

Y prif ffyrdd i’r sir yw traffordd yr M4 (o’r dwyrain), ffordd yr A477 (o dde’r sir), a ffordd yr A40 (ar gyfer gogledd a chanol y sir).  O ogledd Canolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr, ewch am Aberystwyth ar hyd ffordd yr A487. 

Mae tua 40 o feysydd parcio a mannau parcio yn cael eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Penfro. Mae meysydd parcio talu ac arddangos, gyda thaliadau heb arian a thocynnau parcio tymhorol ar gael i’w prynu ar-lein. Darllenwch fwy am deithio a pharcio yn Sir Benfro

Defnyddio’r trên yn Sir Benfro

Mae’r gwasanaeth trên yn darparu cyswllt defnyddiol rhwng trefi ac yn ffordd olygfaol o gyrraedd cefn gwlad, yn enwedig ar hyd arfordir y de.

Defnyddio’r bws yn Sir Benfro 

Mae bysiau’r arfordir yn gweithredu yn ystod yr haf gyda gwasanaeth llai yn y gaeaf. Mae bysiau Gwibfws yr Arfordir, y Pâl Gwibio, y Gwibiwr Celtaidd a Gwibiwr Strwmbl yn boblogaidd iawn gyda cherddwyr llwybr yr arfordir. Yr wybodaeth ddiweddaraf am lwybrau amserlenni bysiau arfordirol Sir Benfro 

  • Mae pum parth fflecsi yn Sir Benfro sy’n cwmpasu’r rhan fwyaf o’r sir, sef:
  • Gogledd-orllewin Sir Benfro
  • Canol Sir Benfro
  • De Sir Benfro
  • Parth Aberdaugleddau
  • Parth Poppit 

Efallai y byddai bws TrawsCymru T11 Hwlffordd i Abergwaun yn opsiwn i’w ystyried hefyd.

Sut i gyrraedd Sir Gaerfyrddin

Mae’r rhan hon o’r llwybr rhwng Amroth, pwynt deheuol Llwybr Cenedlaethol Arfordir Penfro, a Bynea ar y ffin ag Abertawe. 

Gellir cyrraedd Sir Gaerfyrddin ar hyd yr M4 o Lundain i Bont Abraham. Mae cysylltiadau ffyrdd da hefyd ar hyd yr M5, yr M6, yr M42 a’r M50 gyda gwasanaethau bysiau National Express i’r ardal hon. Darllenwch fwy am gyrraedd Sir Gaerfyrddin

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn dilyn Llwybr Arfordir y Mileniwm, gan gynnig cyfle i feicio ar hyd llwybr di-draffig.

Defnyddio’r trên yn Sir Gaerfyrddin

Mae trenau Trafnidiaeth Cymru yn mynd i Gaerfyrddin o Fanceinion, Crewe, Amwythig, Henffordd, Casnewydd a Chaerdydd. 

Mae gwasanaeth Rheilffordd y Great Western yn cysylltu Paddington, Llundain, â Chymru a gwasanaethau rheolaidd i gyrraedd a gadael Abertawe sy’n galw mewn trefi mawr ar hyd arfordir Sir Gaerfyrddin fel Cydweli, Caerfyrddin a Phorth Tywyn.

Defnyddio’r coets a’r bws o amgylch Sir Gaerfyrddin 

Mae National Express yn cynnig cysylltiadau i bob prif dref a dinas ac, unwaith y byddwch wedi cyrraedd, mae gwasanaeth bws helaeth sy’n cwmpasu’r ardal gyfan. 

Mae T1 TrawsCymru hefyd yn teithio rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin. Mae’r gwasanaeth bws yn cysylltu â threfi ar hyd y llwybr fel Llansteffan a Sanclêr a Chaerfyrddin. 

Beicio o gwmpas Sir Gaerfyrddin

Gallwch feicio a chael golygfeydd arfordirol gwych drwy feicio rhan o’r llwybr ar y Llwybr Celtaidd rhwng Llanelli a Phorth Tywyn.

Defnyddio gwasanaeth cychod lleol yn Sir Gaerfyrddin

Yng Nglan-y-fferi a Llansteffan, mae’r llwybr yn dilyn afon Tywi tuag at dref Caerfyrddin, sy’n golygu cerdded i fyny un ochr i’r aber ac i lawr yr ochr arall ohono – a gweld eich man cychwyn heb fod ymhell ar draws afon Tywi. 

Mae Fferïau Bae Caerfyrddin yn cynnig croesiad yng Nglanyfferi a Llansteffan, os ydych chi am osgoi’r ffordd aberol. Er y gall hyn ymddangos yn llawer o gerdded, mae’r rhan fwyaf o’r cerddwyr yn awyddus i gerdded y llwybr swyddogol a cherdded (efallai’n anfoddog!) y llwybr aberol 18 milltir / 29 cilometr o hyd. Ond y ffordd fwyaf tebygol o fynd i’r afael â’r rhan hon o’r llwybr yw rhannu’r rhan hon yng Nghaerfyrddin.

Sut i gyrraedd Bae Abertawe a Phenrhyn Gŵyr

Rhwng Bynea a Gweunydd Margam yn sir gyfagos Castell-nedd Port Talbot yn ne-orllewin Cymru, mae Abertawe yn hygyrch ar drên, ar y bws, ac mewn coets a char.  

Mae traffordd yr M4 yn darparu mynediad uniongyrchol i bob rhan o Fae Abertawe, y Mwmbwls a Phenrhyn Gŵyr ac i Gastell-nedd Port Talbot yn gyfagos. Mae nifer o feysydd parcio arfordirol a reolir gan Gyngor Abertawe a sawl un ar Benrhyn Gŵyr gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae trenau uniongyrchol o Paddington yn Llundain, Bristol Parkway, Caerdydd a Chasnewydd, ymhlith eraill, gyda chysylltiadau da o Ganolbarth Lloegr. Mae National Express yn rhedeg coetsys yn uniongyrchol i Abertawe o ganol Llundain, meysydd awyr Gatwick a Heathrow, Birmingham, Bryste a Chaerdydd. Darllenwch fwy am gyrraedd Abertawe

Defnyddio’r trên ym Mae Abertawe ac ar Benrhyn Gŵyr

Mae dau fan disgyn, sef Abertawe a Thregŵyr. O orsaf Abertawe, gallwch fwynhau taith gerdded wastad a hygyrch o’r marina o amgylch Bae Abertawe i’r Mwmbwls.  

Defnyddio bysiau ym Mae Abertawe ac ar Benrhyn Gŵyr

Mae gwasanaethau bysiau lleol yn gadael o arosfannau yng ngorsaf fysiau Abertawe i weddill y ddinas a’r rhanbarthau, gan gynnwys Penrhyn Gŵyr a’r Mwmbwls.

Mae nifer o lwybrau cerdded sy’n cyfuno taith gerdded ar ran Penrhyn Gŵyr o’r llwybr â gwasanaeth bws lleol – perffaith os nad oes gennych gar.  

Cymrwch olwg ar wefan Bae Abertawe heb gar – sydd â llawer o wybodaeth ddefnyddiol am deithio o amgylch Bae Abertawe gan ddefnyddio’r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus, ar feic ac ar droed.

Sut i gyrraedd arfordir De Cymru 

Mae rhan De Cymru o’r llwybr yn mynd rhwng Gweunydd Margam yng Nghastell-nedd Port Talbot a thref farchnad hanesyddol Cas-gwent yn Sir Fynwy.  

Mae’n croesi ffiniau chwe awdurdod lleol, sef: Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Casnewydd a Sir Fynwy. 

Defnyddiwch gysylltiadau ffyrdd mawr fel traffordd yr M4 a threnau cysylltu a threnau uniongyrchol o Lundain a Chaerdydd i gyrraedd y rhan hon o’r llwybr.

Sut i gyrraedd Castell-nedd Port Talbot

Rhwng Abertawe a Phen-y-bont ar Ogwr, gallwch gyrraedd y rhan hon o’r llwybr ar y ffordd, y trên a’r bws. Gall traffordd yr M4 a ffordd yr A465 Blaenau’r Cymoedd eich cysylltu â’r rhan hon o’r llwybr. Mae meysydd parcio sy’n cael eu rheoli gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan gynnwys un ar lan y môr yn Aberafan. 

Defnyddio’r trên yng Nghastell-nedd Port Talbot 

Mae gan Gastell-nedd a Phort Talbot orsafoedd prif linell sy’n cysylltu’n uniongyrchol â Paddington, Llundain, a gorsaf Piccadilly Manceinion (trwy Gaerdydd Canolog) ar Linell y Gororau.

Defnyddio’r bws yng Nghastell-nedd Port Talbot

Mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithredu yng Nghastell-nedd, Port Talbot a’r cymoedd cyfagos.

Sut i gyrraedd Bro Morgannwg

Defnyddiwch draffordd yr M4 i gyrraedd gwahanol rannau o’r llwybr ym Mro Morgannwg. 

Cyngor Bro Morgannwg sy’n rheoli meysydd parcio arfordirol gyda thrwyddedau tymhorol ar gael. Mae parcio ar gael i geir a beiciau modur yn unrhyw un o feysydd parcio arfordirol Bro Morgannwg. Darllenwch fwy am opsiynau trafnidiaeth ym Mro Morgannwg 

Defnyddio’r trên ym Mro Morgannwg 

Mae cysylltiadau â’r Fro (fel y’i gelwir yn lleol) o Ben-y-bont ar Ogwr neu o Gaerdydd Canolog cyfagos. Mae gorsafoedd trên Ynys y Barri a Phenarth yn agos iawn at y llwybr.

Defnyddio’r bws ym Mro Morgannwg 

Mae’r rhwydwaith bysiau’n cysylltu’r sir mewn lleoliadau arfordirol fel Llanilltud Fawr a Phenarth â Phen-y-bont ar Ogwr a Chaerdydd cyfagos. 

Sut i gyrraedd Pen-y-bont ar Ogwr

Mae cysylltiadau trên o Paddington yn Llundain a Birmingham i Ben-y-bont ar Ogwr ac mae o fewn cyrraedd hawdd i draffordd yr M4. Mae bysiau National Express yn rhedeg o orsaf Victoria yn Llundain i Ben-y-bont ar Ogwr.  Mae meysydd parcio hefyd a reolir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Darllenwch fwy o wybodaeth am deithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Defnyddio’r trên ym Mhen-y-bont ar Ogwr

Mae’r orsaf drenau yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr yn cysylltu ag Aberdaugleddau, Abertawe, Caerdydd Canolog, a Phenarth a Dociau’r Barri ym Mro Morgannwg.

Defnyddio’r bws ym Mhen-y-bont ar Ogwr 

Mae’r rhwydwaith bysiau’n cynnwys gwasanaethau i Ben-y-bont ar Ogwr ac oddi yno ac yn cysylltu â Phorthcawl a Llanilltud Fawr.

Sut i gyrraedd Caerdydd

Mae prifddinas Cymru, Caerdydd, yn hawdd ei chyrraedd ar drên, ar y bws ac mewn car. I ymwelwyr tramor, mae gan faes awyr Caerdydd gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus rheolaidd a mynych i’r maes awyr ac oddi yno. Mae National Express yn cynnig gwasanaethau rheolaidd o Lundain ac ar hyd traffordd yr M4. 

Mae Caerdydd lai na dwy awr i ffwrdd o Lundain ar y trên ac mae gorsaf Caerdydd Canolog wedi’i lleoli’n gyfleus yng nghanol y ddinas. Cynlluniwch eich ymweliad â Chaerdydd

Teithio ar y trên yng Nghaerdydd

Gallwch ddefnyddio’r trên i gerdded y llwybr rhwng Caerdydd, Bae Caerdydd, Penarth, Ynys y Barri a Llanilltud Fawr. 

Teithio ar fws yng Nghaerdydd

Mae prifddinas Cymru yn cael ei gwasanaethu’n dda gan fysiau.

Sut i gyrraedd Casnewydd

Wrth deithio o’r dwyrain, teithiwch i Gasnewydd ar hyd traffordd yr M4 ar draws dewis o ddwy bont ddi-doll sy’n croesi afon Hafren: Pont Hafren (M48) a Phont Tywysog Cymru (M4).

Mae traffordd yr M4 yn eich dwyn i galon Casnewydd, lle mae gorsaf fysiau gyda chysylltiadau â bysiau a thacsis a gorsaf drenau prif linell.

Teithio ar y trên yng Nghasnewydd

Mae gan orsaf prif linell Casnewydd wasanaethau uniongyrchol o Lundain, Birmingham a Manceinion.

Teithio ar fws yng Nghasnewydd

Mae Bws Casnewydd yn darparu gwasanaeth bws helaeth i ganol dinas Caerdydd a Gwarchodfa Natur Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB, ac i’r dwyrain, gan gynnwys Cil-y-coed, Porthsgiwed, Sudbrook a Chas-gwent.

Mae Bws Casnewydd hefyd yn cynnig cludiant yn seiliedig ar faint o bobl sy’n archebu eu lle ar y gwasanaeth. Mae’r fenter trafnidiaeth ymateb i alw hon yn gwasanaethu ardaloedd gwledig yn ne Casnewydd, gan ddefnyddio bysiau bach gyda mynediad i gadeiriau olwyn. Archebwch ymlaen llaw i drefnu pwyntiau codi a gollwng. 

Sut i gyrraed Sir Fynwy

Ar y ffin â Chymru a Lloegr, mae pwynt deheuol y llwybr yng Nghas-gwent yn Sir Fynwy, ac mae modd cyrraedd yno ar draffyrdd yr M4, yr M48, yr M50 a’r M5 (o Ganolbarth Lloegr a Gogledd Lloegr) ac ar reilffordd a bws. Mae National Express yn gweithredu gwasanaethau coetsys i Gas-gwent a Chasnewydd. 

Cas-gwent hefyd yw pwynt deheuol Llwybr Cenedlaethol Clawdd Offa, sy’n 177 milltir / 285 cilometr o hyd. Os cerddwch tua’r gogledd, gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn nhref glan môr Prestatyn ar hyd arfordir Gogledd Cymru.

O’r dwyrain, gallwch groesi i Gymru dros ddwy bont ddi-doll: Pont Hafren a Phont Tywysog Cymru. Defnyddiwch Bont Tywysog Cymru ar gyfer Cas-gwent. Cynlluniwch eich ymweliad â Sir Fynwy

Defnyddio’r trên yn Sir Fynwy 

Mae gorsaf drenau Cas-gwent yn agos iawn at y llwybr. 

Defnyddio’r bws yn Sir Fynwy

Mae’r rhwydwaith bysiau’n cynnwys Casnewydd, Caerdydd Canolog, Sudbrook a Chas-gwent.