Picnic mewn paradwys

Pa un a fydd eich picnic yn cynnwys bwyd traddodiadol o Brydain neu ddanteithion o’r cyfandir, yn sicr gall safle picnic gwerth chweil droi eich pryd yn brofiad Michelin o’r radd flaenaf

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Dyma rai o’n hoff safleoedd picnic ar hyd yr arfordir.

Arfordir Gogledd Cymru ac Aber Afon Dyfrdwy

Go brin y cewch chi safle picnic mwy dymunol na hwn. Gyda thraeth tywodlyd eang, twyni a goleudy trawiadol, mae traeth Talacre yn lle bendigedig i eistedd, ymlacio a mwynhau eich cinio, yn eich ffordd eich hun!

Ar y Gogarth ceir golygfeydd godidog o’r arfordir, Eryri ac Ynys Môn. Cerddwch i’r copa – neu beth am adael i’r tram eich cludo yno!

Ynys Môn

Ewch i orllewin yr ynys i ddarganfod rhyfeddodau Rhosneigr. Mae ’na ddigonedd o lefydd i ddewis o’u plith – yn wir, mae Kingsmill wedi enwi’r fan yma ymhlith y 10 llecyn gorau drwy’r DU i gael cinio. Ac os digwyddwch anghofio eich cinio, mae ’na ddigonedd o siopau i’w cael.

Fel arall, mae gan Goedwig Niwbwrch safleoedd picnic a barbeciw gwych – mae’r rhain yn newydd eleni, felly byddwch ymhlith y rhai cyntaf i’w mwynhau!

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Dringwch, dringwch! Fry uwchben Abermo (dafliad carreg o Lwybr yr Arfordir) ceir cefn gwlad dramatig a golygfeydd godidog. Chewch chi mo’ch siomi ar ôl dringo! Neu, os yw’n well gennych rywle sydd ychydig yn fwy hygyrch, ond yr un mor ddramatig, mae ’na olygfeydd bendigedig i’w cael oddi ar Lwybr Mawddach – yn ogystal â digonedd o lefydd i gael picnic! (Mae Llwybr Mawddach yn ddelfrydol i feicwyr, defnyddwyr cadeiriau olwyn a phobl â choetshis cadair hefyd.)

Yn nhref gastellog Criccieth, ewch i lan y môr i fwynhau’r cyfleusterau picnic (mae ’na safleoedd picnic ger y traeth o boptu’r castell). Gyda golygfeydd gogoneddus o’r castell a naws glan môr braf, dyma le gwych i fwynhau tamaid o ginio.

Gallwch gyfuno eich cinio â gwylio adar. Mae’r Warchodfa Natur Genedlaethol ym Mae Foryd yn safle pwysig i adar dŵr ac adar hirgoes. Efallai y gwelwch chwiwellod, gwyddau duon, pibyddion coesgoch mannog a phibyddion coeswyrdd.

Awydd cael picnic ar y traeth? Yn sicr, fydd Dinas Dinlle ddim yn orlawn o bobl. Lle hardd sydd â thraeth tywodlyd eang – delfrydol ar gyfer trip undydd.

Ceredigion

Mae Llangrannog yn ardal fendigedig, ac yn lle gwych i ystwytho eich coesau a mynd am dro, syrffio neu gaiacio, neu hyd yn oed eistedd ac ymlacio ar y traeth a gwneud yn fawr o’r cyfleusterau rhagorol sydd i’w cael yno ar gyfer teuluoedd. Os penderfynwch fynd am dro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, mae ’na lefydd gwych i gael picnic a mwynhau golygfeydd o’r arfordir. Efallai y gwelwch ddolffiniaid neu forloi, oherwydd mae’r rhain yn aml yn chwarae yn y môr neu’n gorffwyso yn y cildraethau.

Sir Benfro

Mae’r traethau gwyn ger Tyddewi yn lleoliad bendigedig i gael cinio. Gallwch ddewis rhywle ar y traeth neu ddilyn llwybr yr arfordir i’r gogledd i chwilio am lecyn cyfforddus i fwynhau gwychder y golygfeydd.

Yn Sir Benfro ceir llu o safleoedd picnic mewn lleoliadau geirwon. Rhowch gynnig ar Barc Ceirw Marloes, lle ceir golygfeydd o ddyfroedd byrlymog Swnt Jac ac Ynys Sgomer. Byddwch yn siŵr o gael eich cyfareddu. Gallwch hyd yn oed fynd am dro i draeth Marloes ar ôl cinio.

Sir Gaerfyrddin

Mae diwrnod parod ar gyfer y teulu yn eich disgwyl ym Mharc Arfordir y Mileniwm. Gallwch hyd yn oed fynd yno gyda’ch beic i archwilio’r rhan hon o’r arfordir. Yr her fydd penderfynu ble i stopio i gael cinio.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Mae ’na ddewisiadau di-ben-draw i’w cael ym Mhenrhyn Gŵyr, ac un o ffefrynnau’r genedl yw Rhosili. Dyma safle picnic poblogaidd – ac yn haeddiannol felly – gan ei fod yn edrych dros bentir Pen y Pyrod a Bae Rhosili (Y Traeth Gorau ym Mhrydain, Gwobrau Trip Advisor Travellers’ Choice 2013).

Arfordir De Cymru ac Aber Afon Hafren

Gyda golygfeydd godidog ar hyd yr Arfordir Treftadaeth a Phorthcawl, y safle picnic hwn yw un o’r rhai harddaf yng Nghymru. O Gastell Ogwr ewch ar hyd y cerrig sarn hynafol ar draws Afon Ewenni i fythynnod Merthyr Mawr a’r system dwyni fwyaf ym Mhrydain.

Dewch i fwynhau hwyl hen-ffasiwn ar lan y môr ym Mhorthcawl, cyn mynd am bicnic ar draethau tywodlyd Bae Rest a Bae Newton. Mae Bae Rest yn enwog am ei ewyn môr, felly gallwch fwynhau eich cinio tra’n gwylio’r syrffwyr yn taclo’r tonnau.

Ynghanol y ddinas, ond eisiau teimlo fel pe baech wedi dianc? Beth am gael antur ar lan y dŵr ym Morglawdd Caerdydd, safle sydd â Baner Werdd er 2009. Ac yntau mewn lleoliad arforol unigryw yn edrych dros Fae Caerdydd a Môr Hafren, mae gan y morglawdd 1 cilometr hwn ei gymeriad hamddenol a thawel ei hun. Mae hefyd yn cynnwys parc sglefrio, man chwarae i blant ac Addizone, felly bydd gennych ddigon o bethau i’w gwneud. Mae’r ffaith nad oes grisiau yno, a’r ffaith fod y tir yn wastad, yn ei wneud yn lle delfrydol i bawb gael picnic ac ymweld ag ef.

Beth am gael cinio yn y ‘gwyllt’! Mae gwarchodfa natur Gwlyptiroedd Casnewydd yn hafan i fywyd gwyllt ar gyrion y ddinas, ond mae’n lle gwych i bobl hefyd, gyda chanolfan ymwelwyr newydd yr RSPB, caffi, siop a man chwarae i blant. Lle delfrydol i wylio adar – ac mae ’na safle picnic yno hefyd.

Awydd tamaid o dreftadaeth gyda’ch cinio? Safle picnic gwych i deuluoedd lle ceir golygfeydd godidog o Fôr Hafren. Efallai y gwelwch rywrai’n pysgota â rhwydi gafl yno! Mae’n hawdd mynd at y safle, a cheir teithiau cerdded byr, bendigedig lle gallwch archwilio’r ardal.