Chwaraeon

Mae llawer o Gymry wrth eu bodd â rygbi ac mae tîm pêl-droed Abertawe yn yr Uwch Gynghrair erbyn hyn. Ceir yma nifer o gyrsiau golff o’r safon uchaf ac arenas chwaraeon gyda’r gorau yn y byd. Cynhelir ralïau ceir rhyngwladol yma, ynghyd â thriathlon Ironman Cymru a rasys marathon ac mae pencampwriaethau chwaraeon dŵr fel hwylio, a rasio cychod cyflym a chychod hir yn digwydd drwy’r flwyddyn ar y glannau

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Arfordir y Gogledd ac Aber Afon Dyfrdwy

Mae Triathlon Môr Llandudno yn cynnwys nofio yn y môr, beicio o gwmpas harddwch y Gogarth a rhedeg ar hyd glan y môr. Cymryd rhan neu wylio – mae’n brofiad gwych. 

Ynys Môn

Cynhelir Great Strait Raft Run bob blwyddyn ar Afon Menai. Mae harddwch mawreddog mynyddoedd Eryri a phrydferthwch naturiol Ynys Môn yn cyfrannu at y profiad ar y diwrnod hwyliog hwn o rafftio a chodi arian at achosion da. Mae’r ras yn dechrau yn y Felinheli o ble roedd llechi’n cael eu hallforio ers talwm ac yn gorffen ar Ynys Môn.

Menai, Llŷn a Meirionnydd

Cynhelir pencampwriaethau golff yn Nefyn, Harlech ac Aberdyfi – pob un ohonynt yn y 100 uchaf o gyrsiau’r Deyrnas Unedig. Daw pencampwriaethau hwylio cenedlaethol, Ewropeaidd a byd-eang i Bwllheli ac Abersoch ac mae Ras y Tri Chopa’n galw yn Abermaw.

Ceredigion

Cynhelir regatas yn Aberaeron, Ceinewydd a Thre-saith ar arfordir Ceredigion. Rhai o’r uchafbwyntiau eraill: yr Her Geltaidd, sef ras 85 milltir mewn cychod hir o Arklow yn Iwerddon i Aberystwyth yw’r ras rwyfo hiraf yn y byd; Gŵyl Seiclo Aberystwyth, a Thwrnament Rygbi Saith Bob Ochr Aberaeron a gynhelir ym mis Awst.

Sir Benfro

Triathlon Ironman Cymru, a gynhaliwyd am y tro cyntaf yn Sir Benfro ym mis Medi 2011, yw digwyddiad mwyaf y sir erioed ym maes chwaraeon. Llwyddodd i ddenu cystadleuwyr rhyngwladol a miloedd o ymwelwyr. 

Sir Gaerfyrddin

Mae cystadlaethau pysgota yn boblogaidd ar arfordir Sir Gaerfyrddin; mae cyfleusterau hwylio tir yng Nghefn Sidan a chyrsiau golff gwych yn Ashburnham, Pen-bre a Machynys, Llanelli. Yn Llanelli y mae Parc y Scarlets, cartref Clwb Rygbi enwog y Scarlets hefyd.

Penrhyn Gŵyr a Bae Abertawe

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae chwaraeon dycnwch ac aml-chwaraeon wedi dod o hyd i gartref naturiol ar Benrhyn Gŵyr. Os yw’n well gennych wylio na gwneud, mae tîm pêl-droed Abertawe yn chwarae yn yr Uwchgynghrair yn Stadiwm Liberty.

Arfordir y De ac Aber Afon Hafren

Mae Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd yn un o stadiymau chwaraeon mwyaf Ewrop. Yno mae tîm rygbi Cymru’n chwarae. Tîm hoci iâ yw Cardiff Devils ac maent yn chwarae yng Nghynghrair Elite ym Mae Caerdydd.  Ceir cyfle i ganŵio, rhwyfo a hwylio yng Nghanolfan Gweithgareddau Dŵr Bae Caerdydd a Chanolfan Hwylio Caerdydd.

Mae Felodrom Cenedlaethol Cymru, sy’n rhan o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd, yn un o ddim ond dau felodrom dan do ym Mhrydain a gaiff eu cydnabod yn genedlaethol. Ceir yno drac seiclo 250m trawiadol ar oleddf a ddefnyddir ar gyfer rasys rhyngwladol.

Mae Cwrs Rasio Ceffylau Cenedlaethol Cymru yng Nghas-gwent yn lle ardderchog. Yma y cynhelir Grand National Cymru. Mae cwrs Golff Marriott St Pierre yn un o’r cyrsiau mwyaf poblogaidd yng Nghymru. Cynhaliwyd twrnameintiau pwysig fel y twrnament Meistri Dunlop, Cwpan Curtis a Chwpan Solheim yno; mae Dewstow yn gwrs golff poblogaidd arall yn Sir Fynwy.

Caiff Clwb Golff Brenhinol Porthcawl ei gyfrif yn un o gyrsiau gorau’r byd. Mae’n gwrs 18 twll ger Llwybr Arfordir Cymru a cheir golygfeydd gwych o’r môr o’r rhan fwyaf o’r tyllau. Cynhelir Pencampwriaeth Agored Chwaraewyr Hŷn Prydain yno yn 2014.