Rhowch rywbeth yn ôl wrth deithio
Darganfod Cymru drwy dwristiaeth adfywiol
Cyfoeth Naturiol Cymru
Wedi’u gwasgaru ar hyd a lled Llwybr Arfordir Cymru, mae sawl Gwarchodfa Natur Genedlaethol sy’n gartref i rai o’r enghreifftiau mwyaf anhygoel o fywyd gwyllt, fflora a ffawna cynhenid sydd i’w cael yng Nghymru.
Sefydlwyd y Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol i amddiffyn rhai o’n cynefinoedd, rhywogaethau a lleoliadau daearegol pwysicaf, ac i ddarparu ‘labordai awyr agored’ ar gyfer gwaith ymchwil.
Rydym yn argymell i chi ymweld ag unrhyw un o’r gwarchodfeydd hyn beth bynnag fo’r tymor, ond mae’r hydref yn enwedig yn gyfnod arbennig, pan fydd yr awyr yn ffres, y golau yn euraidd, a’r tirwedd yn esblygu’n hudolus gan newid o wyrdd, i oren a choch. O’r dail tanllyd i’r adar mudol a’r blodau gwyllt diwedd tymor, mae’n dymor llawn cyfleoedd newydd i archwilio a mwynhau harddwch ein Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol mewn goleuni gwahanol.
Gwarchodwch fywyd gwyllt yn y mannau arbennig hyn trwy ddilyn y Cod Cefn Gwlad a pheidio â gadael unrhyw olion o’ch ymweliad. Rhaid i berchnogion cŵn roi sylw i’r arwyddion lleol a defnyddio tennyn byr yn ôl y galw.
Wedi’i lleoli rhwng dinas Casnewydd ac aber afon Hafren, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd yn un o’r safleoedd gorau yn y wlad ar gyfer gwylio adar. Mae’r warchodfa’n rhan o Wastadeddau Gwent ac mae’n cynnwys ystod amrywiol o gynefinoedd isel, gan gynnwys glaswelltir gwlyb, gwelyau cyrs, morfa heli a morlynnoedd heli.
Mae rhwydwaith saith cilometr o lwybrau wedi’u hailwynebu o amgylch gwelyau cyrs Aber-wysg sy’n hygyrch i gadeiriau olwyn, ochr yn ochr â’r ganolfan ymwelwyr a’r caffi, sgriniau gwylio ar draws y sianeli dŵr dwfn, llwyfan gwylio uwch, a chuddfan i wylio adar.
Mae’r hydref yn gyfnod arbennig i wylio adar yng Ngwlyptiroedd Casnewydd, wrth i adar gwyllt mudol ac adar hirgoes ddechrau cyrraedd. Cadwch olwg am heidiau o gochion dan adain a chesig y ddrycin yn bwydo ar wrychoedd ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, wrth i furmuriadau’r drudwy greu arddangosfeydd syfrdanol uwchben y gwelyau cyrs. Ar y morlynnoedd heli, efallai y cewch gipolwg ar rywogaethau o adar hirgoes mudol yn ymgynnull cyn y gaeaf.
Wedi’i lleoli yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyntaf y DU, Penrhyn Gŵyr, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Oxwich yn cynnwys traeth euraidd ysgubol, twyni tywod, clogwyni, a chorsydd heli a dŵr croyw.
O degeirianau gwyllt a chrwynllys Cymreig i loÿnnod byw, adar ac ystlumod, mae’r warchodfa’n cynnal ecosystem gydol y flwyddyn ar gyfer rhywogaethau mudol a chynhenid. Yn yr hydref, daw’r warchodfa’n fyw gyda heidiau o adar mudol yn ymweld i orffwys a bwydo, wrth i ffwng ddechrau gorchuddio’r coetiroedd ac wrth i’r gwrychoedd lenwi ag aeron.
O’r guddfan gwylio adar ar lan y llyn yn Whitestones, y gellir cyrraedd ati trwy ddilyn llwybr pren dros y gors dŵr croyw a’r gwelyau cyrs, gall ymwelwyr weld adar gwyllt yn ymgynnull ar y dŵr. Mae yna amryw o lwybrau cerdded arfordirol a choetir i weddu i’ch dewis, gyda dwy daith gylchol yn eich arwain drwy’r twyni, lle mae merlod gwyllt yn pori a lliwiau’r hydref yn gefndir i’r cyfan.
Yn gynefin gwlyptir arall yn llawn gwelyau cyrs a hesg, mae Gwarchodfa Natur Pant y Sais yn baradwys i blanhigion, adar a thrychfilod y gwlyptir. Yn yr hydref, mae’r awyrgylch yn dawelach yn y warchodfa wrth i gân adar yr haf dewi, ond mae’n parhau i fod yn lle ardderchog i wylio adar.
Cadwch lygad am regennod y dŵr a breision y cyrs yn y tyfiant, wrth i heidiau o adar mudol hedfan uwch eich pen. Mae’r gwlyptiroedd eu hunain hefyd yn trawsnewid gyda gweiriau a phennau hadau euraidd, a bydd ffyngau’n dechrau ymddangos ar hyd ymylon y llwybr pren. Gellir clywed cân uchel y telor Cetti hefyd, sy’n byw yma’n barhaol, gydol misoedd yr hydref a’r gaeaf.
Mae llwybr pren y warchodfa yn mynd â chi i galon y gwlyptiroedd, ac yn cynnig llwybr uniongyrchol i mewn i’w ecosystem unigryw a chipolwg ar gynefin corryn rafft y ffen ar hyd Camlas Tennant. O’r fan hyn, gallwch ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ar ffin y warchodfa a pharhau â’ch taith gerdded ar hyd arfordir Bae Abertawe.
Wedi’i lleoli yn Ne Sir Benfro, mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Ystad Ystagbwll yn gyfoeth o gynefinoedd arfordirol a choetir, yn llawn dyffrynnoedd tawel, pyllau lili llawn bywyd gwyllt, a thraethau tywodlyd. Yn gartref i ddau o faeau enwocaf Sir Benfro, Aberllydan a Barafundle, mae Ystagbwll yn gadarnle i sawl rhywogaeth, yn cynnwys un o boblogaethau mwyaf Prydain o’r ystlum pedol mwyaf prin.
Mae’r coetiroedd yn gartref i’r fritheg arian brin, tra’i bod yn bosibl i chi gael cipolwg ar löynnod byw eraill megis y fritheg werdd, y glesyn cyffredin a’r argws brown ar y glaswelltiroedd a’r twyni tywod. Wrth i’r tywydd oeri, bydd y glaswelltir yn frith o ffwng cap cwyr lliwgar, a bydd y piswydd wedi’u gorchuddio â’u ffrwythau pinc nodedig.
Mae Ynys-las yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, a leolir hanner ffordd rhwng Aberystwyth a Machynlleth yn y Canolbarth. Mae twyni euraidd Ynys-las, sef y twyni mwyaf yng Ngheredigion, yn gartref i gymysgedd ryfeddol o degeirianau, mwsoglau, llysiau’r afu, ffyngau, pryfed a chorynnod - llawer ohonynt yn brin, a rhai nad ydynt i’w cael yn unrhyw le arall ym Mhrydain.
Yn yr hydref, mae’r gyforgors yn troi’n dapestri trawiadol o frowngoch a lliwiau priddlyd. Mae ffyngau megis capiau cwyr, sêr daear, coed mwg, a ffwng nyth aderyn yn ychwanegu ychydig o liw at y twyni, a’r aber yn dod yn fyw gyda rhydyddion mudol ac adar dŵr yn galw i gymryd seibiant yn ystod eu teithiau tymhorol, neu’n cyrraedd yn barod i dreulio’r gaeaf yno.
Mae twyni tywod symudol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Morfa Dyffryn yn un o’n safleoedd arfordirol mwyaf dynamig. Yn cael eu siapio’n gyson gan wynt a llanw, mae’r cynefinoedd twyni tywod hyn sy’n esblygu’n barhaus gyda’u hardaloedd mawr o dywod noeth, bellach yn fwyfwy prin ledled y DU, sy’n eu gwneud yn un o’r ecosystemau sydd fwyaf o dan fygythiad, ac un o’r rhai mwyaf gwerthfawr yn y wlad.
Ceir arddangosfa liwgar o flodau gwyllt ar draws glaswelltiroedd a llaciau yn yr haf, ac yn yr hydref bydd y twyni’n trawsnewid yn hafan wirioneddol i ffwng. Mae’r glaswelltiroedd twyni sychach hyn yn enwog am eu ‘golygfeydd’ ffwng trawiadol, lle mae’r capiau cwyr aml-liw, y ffyngau cwrel a phastwn, y tafodau daear, y parasolau, a’r sêr daear bach nodedig yn ffynnu yn y priddoedd tywodlyd.
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Harlech yn dirwedd arfordirol drawiadol sy’n gwarchod cynefinoedd twyni tywod a chorstir arfordirol prin. Yn cael ei hadnabod fel un o drysorau naturiol cyfoethocaf Cymru, mae’n gartref i ystod amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid sydd wedi addasu’n arbennig ar gyfer bywyd ar ymyl symudol y môr.
Yn yr hydref, mae’r warchodfa’n serennu gydag arddangosfeydd o’r crwynllys hydrefol cain â’i flodau porffor wedi’u gwasgaru ar draws y twyni. Mae’r glaswelltiroedd twyni sychach hefyd yn enwog am eu hamrywiaeth gyfoethog o ffwng, sy’n ychwanegu lliw a gwead at y dirwedd dywodlyd. Mae ardaloedd noeth o dywod yn darparu cynefin hanfodol i’r gwenyn turio prin, y gwenyn meirch unig, a’r chwilod, ac os ydych yn lwcus, efallai y cewch gipolwg ar fadfall y tywod yn torheulo yng ngwres olaf y tymor.
Mae twyni, corsydd arfordirol, a glannau tywodlyd a chreigiog Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch a Choedwig Niwbwrch wedi cael eu llunio dros filoedd o flynyddoedd gan y gwynt a Môr Iwerddon. Mae’r dirwedd arfordirol helaeth hon ymhlith y systemau twyni mwyaf a gorau yn y DU, ac yn cynnal amrywiaeth eang o fflora a ffawna prin a’r rheiny sydd mewn perygl, gan gynnwys tegeirianau rhuddgoch, caldrist y gors, mwsoglau prin a llysiau’r afu, gelod meddyginiaethol, a rhywogaethau prin eraill o bryfed.
Mae’r warchodfa, y gellir ei chyrraedd trwy ddilyn rhwydwaith o lwybrau troed, gyda’i llwybrau cerdded, rhedeg a beicio yn troelli drwy’r goedwig, yn arbennig o drawiadol yn yr hydref. Mae adar gwyllt mudol megis y gwyddau du, hwyaid yr eithin, a’r chwiwellod yn cyrraedd y forfa heli a’r aber, ynghyd â’r pibyddion coesgoch a’r cwtiaid. Mae’r pyllau y tu ôl i arglawdd y Cob yn denu adar megis yr hwyaden lostfain, y gorhwyaden, a’r gornchwiglen, sy’n ymgynnull yma i ddianc rhag gaeafau caletach yr Arctig, gan gynnig cyfleoedd ardderchog i wylio bywyd gwyllt.
Am fwy o wybodaeth am hyn, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru