Cerdded yn ôl traed un o enwogion mwyaf Cymru
Canmlwyddiant geni Richard Burton: Cerdded yn ôl traed un o enwogion mwyaf Cymru – taith 3 diwrnod o hyd
Cyngor Castell-Nedd Port Talbot
- Mae 10 Tachwedd yn nodi canmlwyddiant geni Richard Burton; y bachgen o'r cymoedd â’r llais melfedaidd a ddaeth yn un o sêr mwyaf y byd. Nawr, mae Llwybr Arfordir Cymru yn cynnig ffordd unigryw o ailddarganfod y dyn ei hun, ei berfformiadau pwerus, ei garwriaeth gythryblus ag Elizabeth Taylor... oll drwy’r dirwedd doreithiog a ysbrydolodd ei dalent.
Mae’r cysylltiadau rhwng Burton a chymoedd ac arfordir de Cymru yn ddwfn. Ar y rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru, gallwch gerdded drwy'r cymunedau a ysgogodd ac a fagodd ei gariad at iaith, theatr ac at Gymru.
Dros dridiau, gallwch ddilyn taith sy’n olrhain ei hanes o Gwm Afan, i lannau Bae Abertawe a thu hwnt - tirwedd a arhosodd yn ei galon drwy gydol ei yrfa a’i fywyd hynod.
Diwrnod 1 – Pontrhydyfen a Phort Talbot
Ganwyd Richard Burton i deulu glofaol a'i fagu yng nghymunedau clos Pontrhydyfen a Phort Talbot, lle treuliodd y rhan fwyaf o'i lencyndod - a lle mae sawl aelod o'r teulu yn dal i fyw heddiw.
Yn ystod eu priodas, byddai Burton yn teithio adref i Bontrhydyfen yn aml gydag Elizabeth Taylor - gyda Taylor yn galw’r pentref yn 'Pontrhyd-heaven'.
Yn y bore
Dechrau ym Mhontrhydyfen, gyda'r cyntaf o ddau Lwybr Richard Burton pwrpasol sy'n dathlu ei flynyddoedd cynnar.
Mae Llwybr y Man Geni (4km) yn troelli drwy Bontrhydyfen, gan ddatgelu golygfeydd gwych ar draws Dyffryn Afan a thirnodau lleol fel man geni Burton, a Stryd Penhydd, lle roedd llawer o'i berthnasau'n byw. Hefyd y draphont drawiadol o 1898, a Chapel Bethel, lle cynhaliwyd gwasanaeth coffa er anrhydedd iddo ym 1984.
Yn y prynhawn
Ymlaen i lawr y dyffryn i Bort Talbot, y dref arfordirol ddiwydiannol a roddodd i Burton ei brofiadau cynharaf o theatr a llenyddiaeth.
Mae’r Llwybr Plentyndod (2.5km) yn ymweld â lleoedd fel Canolfan Addysg Gymunedol Tai-bach, lle perfformiodd Burton am y tro cyntaf, a Llyfrgell Tai-bach, lle dechreuodd ei gariad gydol oes at eiriau a llenyddiaeth. Mae'r llwybr yn gorffen ym Mharc Coffa Talbot, sy’n gartref i gerflun o Burton ynghyd â cherdd gan y dyn ei hun.
Ar ôl y ddau lwybr, ewch ymlaen i Lwybr Arfordir Cymru ar y llwybr cerdded cylchol 14.4km o hyd, o Bort Talbot i Margam. Yma mae'r gweithfeydd dur enfawr ym Mhort Talbot a Margam yn gwthio Llwybr Arfordir Cymru i mewn i'r tir rywfaint - ar ffyrdd yn bennaf. Fodd bynnag, mae llwybr arall ar gael, ychydig ymhellach i mewn i'r tir, sy’n rhedeg dros fryniau sy'n edrych dros yr ardal drefol a diwydiannol hon. Mae'r llwybr hwn yn cyfuno'r ddau ddewis o lwybrau yn un daith gerdded gylchol eithaf hir. Am syniadau bwyta gerllaw, edrychwch ar ganllaw Croeso Cymru i fwyta yng Nghastell-nedd Port Talbot
Diwrnod 2 – Abertawe ac Aberafan
Taith fer i'r gorllewin o Bort Talbot i ddod â chi i Abertawe. Yma, ymddangosodd Burton yn Theatr y Grand, a heddiw mae ei lythyrau, ei ddyddiaduron a’i lawysgrifau i’w gweld yn Archifau Richard Burton ar gampws Prifysgol Abertawe ar lan y dŵr - gan gynnig cipolwg ar fyfyrdodau personol y gŵr enwog hwn.
Yn y bore
Gwnewch apwyntiad i archwilio Archifau Richard Burton, lle gallwch weld cyfrolau yn llaw y dyn ei hun, sy'n datgelu’r hyn oedd ar ei feddwl, a’i gysylltiad dwfn â Chymru. Wedyn, beth am ginio yn y Mwmbwls, y pentref glan môr hardd sy’n borth i Benrhyn Gŵyr.
Yn y prynhawn
Dychwelyd tua'r dwyrain i Draeth Aberafan, un o draethau hiraf Cymru (3 milltir o hyd), sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Yma ceir gorwelion eang a mwy o hanes Burton - fe wnaeth ef a Taylor lanio eu hofrennydd yma unwaith ar ymweliad.
Gallwch gerdded ar hyd y prom, neu'r traeth, gan fwynhau awyr y môr a phrofi’r ardal hyfryd oedd yn denu Burton yn ôl dro ar ôl tro. Cymrwch gipolwg ar ganllaw Croeso Cymru i fwyta yn Abertawe a'r Mwmbwls
Diwrnod 3 – Abergwaun, Sir Benfro
Ym 1971, dychwelodd Richard Burton i Gymru i ffilmio Under Milk Wood, gwaith eiconig Dylan Thomas, yn Abergwaun, Sir Benfro. Y dref yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer pentref ffuglennol Llareggub, gyda'i lonydd troellog, ei fythynnod bach di-rif, a'i olygfeydd o'r môr - llwyfan perffaith ar gyfer byd barddonol Thomas.
- Yn y bore
Dechrau’n gynnar am daith tua'r gorllewin i Abergwaun (tua 1.5–2 awr). Ar ôl cyrraedd, beth am grwydro drwy Abergwaun Isaf - lle digwyddodd llawer o'r ffilmio ar gyfer Under Milk Wood. Nid yw'r slipffordd, waliau'r harbwr, na bythynnod y cei wedi newid fawr ddim ers pan y ffilmio dros hanner can mlynedd yn ôl.
Yn y prynhawn
Gorffennwch eich taith gan gerdded ar hyd y rhan syfrdanol hon o Lwybr Arfordir Cymru. Dewiswch o nifer o lwybrau cerdded yn yr ardal, yn dibynnu ar yr amser sydd ar gael i chi a'ch lefelau ffitrwydd:
- Abergwaun i Bwll Deri (14.5km)
- Treftraeth i Abergwaun (19.3km)
- Llwybr Cylchol Dinas (13km)
- Llwybr Cylchol Caer Abergwaun (4.5km)
Teimlo'n llwglyd? Cymerwch olwg ar ganllaw Croeso Cymru ar ble i fwyta yn Abergwaun
Ar ôl i’ch pererindod Burtonaidd ddod i ben, beth am ymestyn eich taith a threulio ychydig mwy o amser yn archwilio harddwch Sir Benfro ac arfordir y gorllewin? Y tu hwnt i Abergwaun, mae'r sir yn cynnig teithiau cerdded godidog ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, gan gynnwys:
- Martin’s Haven i Draeth Marloes (3.5km)
- Dinbych-y-pysgod (7km)
- Traeth Broad Haven South i Draeth Skrinkle Haven (17km)
- Y Traeth Mawr (Porth Mawr) i Solfach (20.9km)
- Martin’s Haven i Dale (16km)
Dysgwch fwy am y teithiau cerdded hyn yn Sir Benfro
Manylion y lluniau:
- Delwedd Richard Burton (credyd: Trinity Mirror Mirrorpix)
- Port Talbot (credyd: Cyngor Castell-nedd Port Talbot