Saith peth nad oeddech yn ei wybod am arfordir Cymru

Rhai o ffaith anhygoel efallai nad ydych yn ymwybodol ohonynt ynglŷn â Llwybr Arfordir Cymru

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Mae ein ap realiti estynedig rhad ac am ddim wedi ei lansio ar hyd Llwybr Arfordir Cymru sydd 870 milltir o hyd, ac mae’n rhoi cyfle i gerddwyr ddarganfod agwedd wahanol ar arfordir Cymru.

Dyma'r Saith Ffaith

(yn cynnwys goedwig 13,000 mlwydd oed i grwbanod y môr cefn-lledr sydd mewn perygl)

1. Y traeth lle torrwyd record cyflymdra tir 

Oeddech chi’n gwybod mai Pentywyn oedd canolbwynt ymdrechion i dorri record y byd o ran cyflymdra tir yn y 1920au? Roedd y traeth chwe milltir o hyd o dywod euraidd yn Ne Cymru’n berffaith i brofi’r peiriannau cyflymdra diweddaraf. Roedd yn lleoliad ar gyfer cystadleuaeth gyffrous rhwng yr arwr cyflymdra Syr Malcolm Campbell a pheiriannydd modur o Wrecsam o’r enw John Parry Thomas, a fu farw’n drychinebus yn ystod ymdrech i dorri record ym 1927.
Ewch am dro ar hyd y llwybr milltir o hyd o Gillman Point i bentref Pentywyn ar hyd Llwybr Arfordir Cymru lle gallwch ddefnyddio’r ap realiti estynedig i yrru’r car rasio Blue Bird wrth i chi fynd ati i geisio creu record cyflymdra tir newydd.

2. Hanes cyfrinachol Cymru am yr Ail Ryfel Byd 

Pan roddodd y bygythiad o’r Natsïaid yn bomio Ysgol Gynnau Arfordir y Royal Artillery yn Shoeburyness yn Essex mewn perygl ym 1940, symudodd y Llywodraeth hi i’r Gogarth yn  Llandudno. Defnyddiwyd y safleoedd gwylio a lleoliadau gynnau, sydd bellach yn wag, er mwyn ymarfer targedau, a chawsant eu rhestru fel cofeb hynafol wedi ei gwarchod yn 2010.
Byddwch yn wynebu her wrth i chi geisio taro gymaint o dargedau ag y gallwch ar gêm saethu’r Ail Ryfel Byd ar yr ap realiti estynedig. Ar ôl eich dyrchafu’n saethwr o’r radd flaenaf, gallwch gwblhau’r daith gerdded ddwy filltir o hyd arfordir gogledd Cymru lle cewch olygfeydd anhygoel tuag at Ynys Môn.

3. Y crwbanod môr prin iawn ym Morth-y-gest

Gellir gweld crwbanod môr cefn-lledr sydd mewn perygl mawr ym Mae Tremadog yn ystod misoedd yr haf, wrth iddyn nhw gyrraedd o’r trofannau i wledda ar slefrod môr. Gall y crwbanod môr hyn dyfu hyd at ddau fetr o hyd a phwyso hyd at dunnell - tua’r un peth a char bach. Maent hefyd yn unigryw ymhlith ymlusgiaid gan eu bod yn gallu cynnal gwres eu cyrff eu hunain, hyd yn oed yn nyfroedd oerllyd Cymru.
Yn ystod y daith gerdded ddwy awr o hyd o Ynys Cyngar i Draeth y Graig Ddu ym Morth-y-Gest, gall defnyddwyr yr ap realiti estynedig ddweud helo wrth eu crwban môr eu hunain a dysgu llawer mwy am ein cyfeillion rhyfeddol.

4. Coedwig suddedig 13,000 mlwydd oed Sir Gaerfyrddin

Yn ystod llanw isel ar draeth Marros yn Sir Gaerfyrddin, mae’r môr yn encilio ac yn datgelu coedwig suddedig, hynafol rhyfeddol. Mae’r goedwig yn dyddio nôl i’r cyfnod cyn oes yr ia, dros 13,000 o flynyddoedd yn ôl, pan oedd y Môr Hafren yn wastatir mawr yn cysylltu Ynysoedd Prydain â thir mawr Ewrop.
Defnyddiwch yr ap i ddysgu rhagor am hanes hynafol y rhanbarth a chymerwch olwg ar yr ystod o fywyd sy’n byw o dan wyneb y traeth hardd hwn.

5. Y signal diwifr cyntaf i gael ei drosglwyddo dros ddŵr.

Ar Fai 13 1897, creodd yr arloeswr radio Guglielmo Marconi (a’i gynorthwyydd George Kemp) hanes telegyfathrebu drwy drosglwyddo’r signal diwifr cyntaf yn y byd dros ddŵr. Cafodd ei  drosglwyddo o benrhyn o’r enw Pwynt Larnog i fyddin ar Ynys Echni, sef pellter o ryw dair milltir.  Roedd ei neges gyntaf yn dweud “Ydych chi’n barod?”... Ac roedden nhw’n sicr yn barod! Gall defnyddwyr yr ap ddysgu mwy am Marconi yn ogystal ag archwilio Bae Caerdydd yn y 1920, un o’r systemau doc mwyaf yn y byd ar yr adeg honno.

6. Dirgelwch llongau oedd yn suddo yn y Fenai

Mae dirgelwch ynglŷn â thair llong wnaeth suddo yn y Fenai. Suddodd y cyntaf, sgwner bleser ar 5 Rhagfyr 1664. Bu farw pob un o’r 81 o deithwyr oni bai am un, a’i enw oedd Hugh Williams. 121 o flynyddoedd wedyn, ar yr un diwrnod ym 1785 suddodd llong arall gyda 60 o deithwyr ynddi. Yr unig un i oroesi oedd dyn o’r enw Hugh Williams. Ar 5 Ragfyr 1820, rhyw 75 o flynyddoedd wedyn, suddodd trydedd long a boddwyd pawb oedd arni oni bai am... Hugh Williams!
Ar ôl tyrchu yn hanes dirgelwch suddo llongau’r Fenai, archwiliwch bensaernïaeth yr ardal wrth i chi gerdded tuag at y dref sydd â’r enw hiraf yn Ewrop.

7. Cafodd Lawrence of Arabia ei eni yn Nhremadog

Cafodd Thomas Edward Lawrence, sy’n fwy adnabyddus fel Lawrence of Arabia, ei eni yn yr adeilad a elwir bellach yn Lawrence House yn Nhremadog ym 1888. Daeth yn dipyn o ryfeddod ar draws y byd am ei rôl yng ngwrthryfel yr Arabiaid ym 1916 ac am ei waith ysgrifenedig bywiog am ei brofiadau a’i anturiaethau, a oedd yn ysbrydoliaeth ar gyfer y ffilm epig yn Hollywood  Lawrence of Arabia a enillodd Oscar.
Er mwyn archwilio rhagor o olygfeydd hardd yr ardal, dilynwch y llwybr o draeth y Graig Ddu tuag at Gricieth, ble allwch ddod o hyd i Gastell mawreddog Criccieth.

Rhagor o wybodaeth

Am rhagor o wybodaeth am ein app, ewch i'r tudalen Cynllunio'ch Ymweliad 

Lawrlwytho'r ap  

Lawrlwythwch yr ap cyn i chi gyrraedd a defnyddiwch eich ffôn symudol i sganio un o’r paneli profiad a grëwyd yn arbennig er mwyn datgloi amrywiaeth o nodweddion rhyngweithiol ac animeiddiadau realiti estynedig.

Lawrlwythwch yr ap yn rhad ac am ddim drwy’r dolen Apple App Store (offer iOS) neu Google Play (offer Android), drwy chwilio am ‘Wales Coast Path" 

Gallwch hyd yn oed rannu eich profiadau gyda’ch ffrindiau gan ddefnyddio’r nodwedd hidlo lluniau neu drwy dynnu lluniau ohonoch chi’ch hunan, eich ffrindiau a’ch teulu yn cymryd rhan yn y golygfeydd realiti estynedig.