Arfordir Eryri a Cheredigion

O Borthmadog i Aberteifi, mwynhewch y dirwedd odidog, y bywyd gwyllt, y trefi prydferth a’r traethau

Mae golygfeydd mawreddog o Fae Ceredigion yn cynnig cipolwg o ddolffiniaid a llamhidyddion, morloi a llu o adar y môr drwy gydol y flwyddyn. Cerddwch un o’n llwybrau argymelledig ac archwiliwch Arfordir Treftadaeth Ceredigion.

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Nigel Nicholas yn egluro pam y mae’r rhan hon o Lwybr Arfordir Cymru yn arbennig iddo.

Nid cerdded yw’r unig beth y gallwch ei wneud.  Yn ogystal â’r llu o gyfleoedd i gerdded y soniwn amdanynt yn yr adran Crwydro Llwybr yr Arfordir, mae llawer o bethau eraill i’w gweld a’u gwneud ar hyd y Llwybr.

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Mae’n hawdd cyrraedd Llwybr Arfordir Cymru drwy ddefnyddio cludiant cyhoeddus ac mae modd cyrraedd sawl rhan o’r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol.