Teithiau cerdded i archwilio'r ardal - Arfordir Eryri a Cheredigion

Dyma rai o'n hoff deithiau cerdded ac argymhellion sy'n dangos y gorau o arfordir Cymru

Aberystywth, Ceredigion - Visit Wales

Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Ein uchafbwyntiau

Blwyddyn Antur 2016 Craiglais

Bydd taith gerdded egnïol i fyny i gopa Craiglais (430 troedfedd / 131 metr) yn werth yr ymdrech er mwyn mwynhau golygfeydd panoramig o Fae Ceredigion, Penrhyn Llŷn, Eryri a thref prifysgol Aberystwyth gerllaw.

Mae rhywbeth i bawb yma, i’r anturiaethwyr yn eich plith, neu os nad oes awydd gwneud dim mwy arnoch nag ymlacio yn y cyfadeilad sydd i’w weld ar y copa.

Ar y trên neu ar droed?

Ar lethr y graig hon mae cartref y rheilffordd ffwnicwlar drydan hiraf ym Mhrydain (778 troedfedd o hyd / 237 metr) – Rheilffordd y Graig, Aberystwyth.

Mae’r rheilffordd halio hon wedi bod yn cario ymwelwyr i’r copa ers ei hagor yn 1896 ac mae’n dal yn boblogaidd hyd heddiw gyda’r hen a’r ifanc fel ei gilydd.

Pa un a fyddwch yn cerdded y llwybr troellog sefydledig neu’n teithio ar gyflymdra hamddenol o 4 milltir yr awr ar y trên bach, caiff eich ymdrechion eu gwobrwyo pan gyrhaeddwch y copa.

Golygfeydd godidog, ’paned o de a darn o gacen yn y caffi poblogaidd a llain chwarae i blant - beth yn fwy gallech chi ei ddymuno ar gyfer diwrnod allan i’r teulu?

Aberystwyth (Craiglais) Taith gerdded ar hyd yr arfordir a thrwy’r coed

3.5 milltir / 6km yw’r gylchdaith hiraf ond gallwch ddewis llwybrau byrrach.

Ar hyd yr arfordir cewch weld creigiau sy’n 400 miliwn o flynyddoedd oed a chofiwch gadw eich llygaid ar agor am adar fel morfrain, adar drycin y graig a chudyllod coch.

Os byddwch chi’n lwcus, mae’n bosib y gwelwch chi ddolffiniaid trwynbwl a Llamhidyddion yr Harbwr o’r wylfa uchel ryfeddol hon. Cadwch bâr o finocwlars wrth law!

Dewch i ddarganfod yr anturiaethwr ynoch chi ac ewch yn eich blaen ar hyd y llwybr tua’r mewndir i gael profi rhin Coedwig Penglais a ‘Cwm Woods’ – bydd arddangosfa benigamp o glychau’r gôg (clychau glas) yn aros amdanoch yn y gwanwyn!

Y Camera Obscura

Ar gopa Craiglais mae un o gamerâu obscura mwyaf y byd.Difyrrwch awr hamdden poblogaidd adeg Oes Fictoria oedd hwn, a thrwy’r lens enfawr 14 modfedd gallwch weld tua 1,000 milltir sgwâr o dir a morlun, a hynny gydag eglurder a manylder rhyfeddol.

Gadewch i’r plant ddewis eu hantur a gweld i ble mae’r camera obscura yn mynd â nhw!

Adnoddau

Teithiau cerdded

Aberporth
0.6 milltir naill ffordd / 1 km

Darn o’r llwybr sydd wedi’i ddynodi’n bwrpasol ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn. Mae’n rhedeg ar hyd ymyl ddwyreiniol Bae Aberporth lle mae golygfeydd ardderchog o arfordir Ceredigion o’r clogwyni. Mae Aberporth hefyd yn lle da i weld dolffiniaid. (Bws)

Aberystwyth i Glarach
1.7 milltir / 2.7 km

Mae’r darn byr hwn o lwybr yr arfordir yn arwain dros Graig Glais (Constitution Hill). O ben y graig cewch olygfeydd hardd o Fae Ceredigion ac Aberystwyth. Mae yno gaffi hefyd a’r camera obscura mwyaf yn y byd. Darganfod mwy am a y daith Aberystwyth i Glarach.

Aberporth i Dresaith
2 milltir / 3.2 km

Mae’r llwybr hwn dros y clogwyni yn arwain o ben dwyreiniol bae Aberporth. Cewch fwynhau golygfeydd gwych o’r arfordir a Bae Ceredigion. Mae rhan Aberporth o’r llwybr yma’n addas i gadeiriau olwyn. Darganfod mwy am y daith gerdded yma:

Cei Newydd i Gwmtydu

4 milltir / 6.4 km

Mae’r llwybr hwn yn dilyn darn o’r Arfordir Treftadaeth ac yn ddolen gyswllt rhwng tir yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghraig yr Adar, Cwm Soden a Chwmtydu. Darganfod mwy am y daith gerdded yma o Cei Newydd i Gwmtydu.

Mwnt i Aberporth
5 milltir / 7.5 km

Rhan anghysbell o Lwybr yr Arfordir sy’n rhedeg ar hyd brig clogwyni a llethrau arfordirol, islaw tir amaethyddol. Mae’r adran hon mor heddychlon ac anghysbell, nes eich bod yn teimlo ymhell o ruthr bywyd bob dydd. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Mwnt i Aberporth.

Cwmtydu i Llangrannog

5.5 milltir / 9.4 km

Yn ôl rhai, dyma’r rhan fwyaf trawiadol o Lwybr Arfordir Ceredigion. Mae’n rhan o’r Arfordir Treftadaeth ac yn cynnwys yr enwog Ynys Lochtyn. Darganfod mwy am y daith ceredded yma Cwmtydu i Llangrannog.

Teithiau cerdded hir

Llanon i Lanrhystud
5.8 milltir / 9.3 km

Cylchdaith sy’n cynnwys traeth o gerrig mân, lonydd coediog, golygfeydd agored o fynyddoedd a’r arfordir, a bryngaerau o’r Oes Haearn. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Llanon i Lanrhystud.

Gorsaf Reilffordd Aberystwyth i Orsaf Reilffordd Borth
6 milltir / 9.5 km

Mae hwn yn ddarn diddorol a heriol o’r Arfordir Treftadaeth ac mae angen cryn dipyn o ddringo. Wrth gerdded o orsaf i orsaf, gallwch ddod nôl ar y trên os byddwch wedi blino. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Gorsaf Reilffordd Aberystwyth i Orsaf Reilffordd Borth.

Aberaeron i Cei Newydd
6.5 milltir / 10 km

Mae’r llwybr yma, rhwng dau o brif drefi arfordirol Ceredigion, yn cynnig golygfeydd ardderchog o bennau’r clogwyni. Mae llawer o bobl yn dweud mai Aberaeron yw un o’r trefi harddaf yng Nghymru gyda’i sgwâr o adeiladau gwych sydd yn null cyfnod y Rhaglywiaeth. Y traeth yw’r hoff lwybr drwy Gei Newydd, ond efallai bydd rhaid defnyddio’r heol pan mae’r llanw’n uchel. (Bws). Darganfod mwy am y daith gerdded yma Cei Newydd i Aberaeron.

Cylchdaith Cwm Tydu
6.9 milltir / 11 km

Llwybr hardd a hyfryd (mae’n well ei gerdded yn groes i’r cloc).  Mae’n gyfle i weld yr arfordir a chefn gwlad ar eu gorau. Ceir golygfeydd gwych o Ynys Lochtyn cyn troi i mewn a cherdded drwy gwm coediog braf ac yna yn ôl at lan y môr. Darganfod mwy am y cylchdaith gerdded Cwmtydu

Aberystwyth i Lanrhystud
10.5 milltir / 17 km

Does dim pentrefi ar y ffordd a dim ond ychydig o lwybrau eraill sy’n ymuno, felly ychydig o gerdded sydd ar y rhan hon o Lwybr Arfordir Ceredigion. Er ei fod yn heriol, mae cryn foddhad i’w gael ohono. Darganfod mwy am y daith gerdded yma Aberystwyth i Lanrhystud.