Bae Caerdydd

Gwelwch y dociau fel yr oeddent yn y profiad realiti estinedig hwn

Rhannwch y syniad cerdded hwn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw’r daith gerdded

Bae Caerdydd i Morglawdd Caerdydd

Cyn gadael

Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig. Mae’r daith hon yn addas ar gyfer pramiau a bygis. 

Dechrau/Diwedd

Adeilad Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Morglawdd Caerdydd.  Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.

Pellter

Llwybr cerdded:  2 km / 1 milltir

Taith gerdded estynedig: 2km / 1 milltir o Morglawdd Caerdydd i dref Penarth

Tricia Cottnam, Uchafbwynt Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

"Mae’r daith gerdded hawdd hon yn mynd â chi allan ar yr Argae. Byddwch yn gweld cychod amrywiol yn gadael neu’n cyrraedd y Bae trwy’r llifddorau. Mae’r golygfeydd gwych o’r Argae yn ymestyn allan at ynysoedd Echni a Rhonech".

Gwybodaeth am llwybr

Yn dechrau o flaen adeilad eiconig Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Llwybr Arfordir Cymru yn troelli ar hyd lan y dŵr ar ei ffordd tuag at y môr.  Byddwch yn mynd heibio i’r Eglwys Norwyaidd wen lle bedyddiwyd yr awdur Roald Dahl a gafodd ei eni yng Nghaerdydd.  Gall ymwelwyr iau fwrw eu hegni yn y lle chwarae, y parc sglefrio a’r gampfa awyr agored ar hyd y ffordd. 

Ger mainc enwog crocodeil Roald Dahl edrychwch am banel Llwybr Arfordir Cymru i brofi Realiti Estynedig gan ddefnyddio’ch dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled). Gallwch ddarganfod sut oedd bywyd yn yr 1920au ym Mae Caerdydd, un o’r systemau dociau mwyaf yn y byd ar y pryd. 

Yn ymestyn mwy nag 1 km ar draws ceg Bae Caerdydd, mae gan yr Argae olygfeydd gwych dros Fôr Hafren ac yn ôl ar draws y ddinas.

Eisiau mynd ymhellach?

Wedi cyrraedd pen draw'r Argae, gallwch ddychwelyd ar yr un llwybr neu fynd ymlaen tuag at ganol tref Penarth, y pier Fictorianaidd prydferth a’r traeth cerigos am hufen iâ haeddiannol.  Gallwch ddychwelyd ar droed neu ar gludiant cyhoeddus.

Ar y ffordd

Mae’r daith gerdded hon yn mynd trwy ddociau hanesyddol Caerdydd lle mae pethau difyr ar gyfer ymwelwyr iau fel Techniquest (Canolfan gwyddoniaeth a darganfod Cymru) a lleoedd chwarae yn yr awyr agored.

  • Mae toiledau, meysydd parcio, arosfannau bysiau, a digon o leoedd i fwyta ac yfed ym Mae Caerdydd a Phenarth.
  • Mae gwybodaeth ar wefan You Well am logi beic er mwyn archwilio’r ddinas fywiog hon ar olwynion.  
  • Mae gan wefan Visit Cardiff fanylion am deithiau cychod sy'n cynnig ffordd berffaith o weld Bae Caerdydd o'r dŵr a hefyd i Ynys Flatholm gerllaw a Phafiliwn Pier Penarth.

Cynllunio'ch ymweliad

Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.

Lawrlwythwch y daflen deithio

Lawrlwythwch y daflen deithio Bae Caerdydd - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r  llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.

Gwyliwch ein fideo byr i weld nodweddion yr ap

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig