Traeth Pentywyn

Gosodwch eich record cyflymder tir eich hun yn ein gêm car rasio Blue Bird

Rhannwch y syniad cerdded hwn gyda'ch ffrindiau a'ch teulu!
Please accept marketing-cookies to enable the share buttons.

Enw’r daith gerdded

Traeth Pentywyn, Sir Gaerfyrddin

Cyn gadael

Lawrlwythwch ap Llwybr Arfordir Cymru er mwyn profi’r ardal mewn Realiti Estynedig. Nid yw’r daith hon yn addas ar gyfer pramiau na bygis.

Dechrau/Diwedd

Maes parcio talu ac arddangos yng nghanol pentref Pentywyn i Gillman Point.  Mae lleoliad y panel sydd ar gael ar Google Maps.

Pellter

Llwybr cerdded:  1 km / 0.75 filltir

Taith estynedig2km / 1 milltir o Gillman Point yn ôl i bentref Pentywyn ar y ffordd B4314.

Nigel Nicholas, Uchafbwynt Swyddog Llwybr Arfordir Cymru

"Mae Traeth Pentywyn yn syfrdanol gydag 8 milltir o dywod euraidd.  Dyma gartref record cyflymder ar y tir, lle arbennig sydd wedi gweld hanes moduro sawl gwaith wrth i recordiau cyflymder ar y tir gael eu cyflawni a’u torri.
Ar y daith hon byddwch yn darganfod clogwyni ysblennydd a golygfeydd arfordirol dros Fae Caerfyrddin a golygfeydd helaeth draw i Benrhyn Gŵyr yn y pellter".

Gwybodaeth ar llwybr

Cychwynnwch ar eich taith wrth y panel Realiti Estynedig o flaen caffi ‘Tea by the Sea’. Yma, defnyddiwch eich dyfais symudol (ffôn clyfar neu dabled) gydag ap Llwybr Arfordir Cymru i yrru car rasio Blue Bird ac ymuno ag Amy Johnson ar ei hediad i America cyn mynd i’r gorllewin ar hyd lan y môr.   Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru, gan fynd i fyny’r grisiau serth i ben y clogwyn ym Mhwynt Gillman. Mae’r golygfeydd ar draws Morfa Bychan werth yr ymdrech!

Eisiau mynd ymhellach?

Gallwch ddychwelyd yr un ffordd neu gall y rhai mwy egnïol fynd ymlaen i’r traeth bach ym Morfa Bychan a throi i’r dde ar drac wedi’i arwyddo sy’n mynd i fyny rhiw. Ble mae fforch yn y trac, trowch i’r dde ac ewch tuag at y ffordd B4314 nôl i bentref Pentywyn.

Ar y ffordd

Edrychwch am y nythfa fwyaf o adar môr yn Sir Gaerfyrddin a thynnwch luniau o olygfeydd agored godidog y traeth hwyaf ar Lwybr Arfordir Cymru, Traeth Pentywyn.

Cynllunio'ch ymweliad

Ewch i'n tudalen Cynllunio'ch ymweliad sydd â gwybodaeth ddefnyddiol ar drafnidiaeth gyhoeddus a map rhyngweithiol i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad.

Lawrlwythwch y daflen deithio

Lawrlwythwch y daflen deithio Traeth Pentowyn - Teithiau teulu gyda gwahaniaeth gyda map o’r  llwybr a'r llwybr estynedig i archwilio mwy o arfordir prydferth Cymru.

Gwyliwch ein fideo byr i weld nodweddion yr ap

Lawrlwythiadau dogfennau cysylltiedig